LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • mwb18 Ionawr t. 8
  • Gwna Heddwch Gyda Dy Frawd yn Gyntaf—Sut?

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Gwna Heddwch Gyda Dy Frawd yn Gyntaf—Sut?
  • Ein Bywyd a’n Gweinidogaeth Gristnogol—Gweithlyfr y Cyfarfodydd—2018
  • Erthyglau Tebyg
  • Torri Dadleuon Mewn Ffordd Gariadus
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2016
  • Paid â Baglu’r “Rhai Bach Yma”
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2021
  • Dalia Ati i ‘Wrando Arno’
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2021
Ein Bywyd a’n Gweinidogaeth Gristnogol—Gweithlyfr y Cyfarfodydd—2018
mwb18 Ionawr t. 8

EIN BYWYD CRISTNOGOL

Gwna Heddwch Gyda Dy Frawd yn Gyntaf—Sut?

Dyn yn gadael ei aberth wrth yr allor ac yn mynd i wneud heddwch gyda’i frawd

Dychmyga dy fod yn byw yn Galilea yn amser Iesu. Rwyt ti wedi teithio i Jerwsalem i ddathlu Gŵyl y Pebyll. Mae’r ddinas yn llawn prysurdeb a chyd-addolwyr yn heidio o bell ac agos. A tithau eisiau cyflwyno offrwm i Jehofa, dyma ti’n cychwyn ar dy daith drwy strydoedd cul y ddinas, ti a’r afr yn dynn wrth dy sodlau, yn ymlwybro drwy’r tyrfaoedd tuag at y deml. Wrth iti gyrraedd, mae’r deml yn orlawn a phob un yn awyddus i gyflwyno ei aberth. O’r diwedd mae dy dro di’n dod i roi dy afr i’r offeiriaid. Yr eiliad honno dyma ti’n cofio bod gan dy frawd rywbeth yn dy erbyn. Ond gall hwnnw fod yn y dorf enfawr neu unrhyw le yn y ddinas. Mae Iesu’n esbonio beth ddylet ti ei wneud. (Darllen Mathew 5:24.) Sut gelli di a dy frawd sydd wedi ei bechu ddilyn cyngor Iesu, a cheisio heddwch? Ym mhob un o’r rhestrau isod, ticia’r bocs wrth ymyl yr ateb cywir.

DYLET TI . . .

  • siarad â dy frawd dim ond os wyt ti’n meddwl bod ganddo reswm dilys dros gynhyrfu

  • tria gywiro’r ffordd mae dy frawd yn meddwl os wyt ti’n teimlo ei fod yn groendenau neu fod ef ei hun yn rhan o’r broblem

  • gwranda’n amyneddgar wrth i dy frawd fynegi ei hun, a hyd yn oed os nad wyt ti’n deall yn iawn, ymddiheura am unrhyw boen oeddet ti wedi ei achosi neu unrhyw ganlyniadau anfwriadol i’r hyn a wnest ti

DYLAI DY FRAWD . . .

  • fynd ati i geisio cefnogaeth eraill yn y gynulleidfa drwy ddweud wrthyn nhw sut gwnest ti ei bechu

  • dweud y drefn wrthyt ti, gan fynd dros bob manylyn y drosedd, a disgwyl i ti syrthio ar dy fai

  • cydnabod y gostyngeiddrwydd a’r dewrder a gymerodd iti ddod ato, a maddau iti o’r galon

Er nad yw’n haddoliad heddiw yn gofyn am aberthu anifeiliaid, beth oedd Iesu yn ei ddysgu am y cysylltiad rhwng heddwch gyda’n brawd ac addoliad sy’n dderbyniol i Dduw?

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu