TRYSORAU O AIR DUW | MATHEW 14-15
Nifer Bach yn Bwydo Nifer Mawr
Ychydig cyn Pasg 32 OG, cyflawnodd Iesu wyrth, yr unig un sydd wedi ei gofnodi ym mhob un o’r pedair Efengyl.
Drwy’r wyrth hon, gosododd Iesu batrwm y mae ef yn parhau i’w ddefnyddio hyd heddiw.
Gorchmynnodd Iesu i’w ddisgyblion fwydo’r tyrfaoedd, er mai dim ond pum torth a dau bysgodyn oedd ganddyn nhw
Cymerodd Iesu’r pum torth a’r pysgod, ac ar ôl gweddïo, fe’u rhoddwyd i’w ddisgyblion er mwyn iddyn nhw, yn eu tro, eu rhoi i’r tyrfaoedd
Drwy wyrth, roedd mwy na digon i bawb. Bwydodd Iesu filoedd o bobl drwy nifer bach, sef ei ddisgyblion
Rhagfynegodd Iesu y byddai’n penodi sianel i roi bwyd ysbrydol yn ei bryd yn ystod y dyddiau olaf.—Mth 24:45
Ym 1919, penododd Iesu y “gwas ffyddlon a chall,” sef grŵp bach o frodyr eneiniog, dros “y staff” neu’r gweision sy’n cael eu bwydo
Drwy’r grŵp bach hwn o frodyr eneiniog, mae Iesu yn dilyn y patrwm a sefydlodd yn y ganrif gyntaf
Sut gallaf ddangos fy mod yn cydnabod ac yn parchu’r sianel y mae Iesu yn ei defnyddio i roi bwyd ysbrydol i’w bobl?