LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • mwb18 Chwefror t. 7
  • Hogi Ein Sgiliau yn y Weinidogaeth—Defnydd Effeithiol o Gwestiynau

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Hogi Ein Sgiliau yn y Weinidogaeth—Defnydd Effeithiol o Gwestiynau
  • Ein Bywyd a’n Gweinidogaeth Gristnogol—Gweithlyfr y Cyfarfodydd—2018
  • Erthyglau Tebyg
  • Defnyddio Cwestiynau
    Ymroi i Ddarllen a Dysgu
  • Sut Gall y Beibl Eich Helpu?
    Mwynhewch Fywyd am Byth!—Cwrs Rhyngweithiol am y Beibl
  • Sut Gall y Beibl Eich Helpu?
    Mwynhewch Fywyd am Byth!—Gwersi Agoriadol am y Beibl
  • Maglau i’w Hosgoi Wrth Gynnal Astudiaeth Feiblaidd
    Ein Bywyd a’n Gweinidogaeth Gristnogol—Gweithlyfr ar Gyfer y Cyfarfodydd—2016
Ein Bywyd a’n Gweinidogaeth Gristnogol—Gweithlyfr y Cyfarfodydd—2018
mwb18 Chwefror t. 7

EIN BYWYD CRISTNOGOL

Hogi Ein Sgiliau yn y Weinidogaeth—Defnydd Effeithiol o Gwestiynau

PAM MAE’N BWYSIG? Os yw “bwriad y meddwl dynol fel dŵr dwfn,” yna mae cwestiynau yn debyg i fwced sy’n plymio i ddyfnderoedd y galon. (Dia 20:5) Mae cwestiynau yn gwneud i’n gwrandawyr yn rhan o’r sgwrs. Gall dewis cwestiynau yn ofalus ddod â manylion gwerthfawr i’r wyneb. Defnyddiodd Iesu gwestiynau mewn ffordd effeithiol. Sut gallwn ni ei efelychu?

Iesu yn gofyn cwestiwn i un o’i ddisgyblion

SUT I FYND ATI?

  • Gofynna gwestiynau safbwynt. Gofynnodd Iesu gyfres o gwestiynau er mwyn canfod barn ei ddisgyblion. (Mth 16:13-16; be-E 238 ¶3-5) Pa gwestiynau safbwynt allet ti eu gofyn?

  • Gofynna gwestiynau arweiniol. I roi Pedr ar ben ffordd, gofynnodd Iesu gyfres o gwestiynau i helpu Pedr i ddod i’r casgliad cywir. (Mth 17:24-26) Pa gwestiynau arweiniol allet ti eu gofyn i helpu rhywun i ddod i’r casgliad cywir?

  • Rho ganmoliaeth i’r gwrandawr. Ar ôl i Iesu weld fod yr ysgrifennydd “wedi deall,” rhoddodd ganmoliaeth iddo. (Mc 12:34) Sut gallet ti ganmol rhywun sy’n ateb cwestiwn?

Dangosa barch. Does gan yr un ohonon ni’r awdurdod oedd gan Iesu. Felly, dylen ni ddangos parch tuag at bobl mewn oed, pobl nad ydyn ni’n eu hadnabod, a phobl mewn awdurdod.—1Pe 2:17.

GWYLIA RAN GYNTAF Y FIDEO DO THE WORK THAT JESUS DID—TEACH, AC YNA ATEBA’R CWESTIYNAU CANLYNOL:

  • Pam mae’r enghraifft hon yn un wael o ddysgu, er bod y wybodaeth yn gywir?

  • Pam mae’n bwysig inni wneud mwy nag esbonio’r wybodaeth?

GWYLIA AIL RAN Y FIDEO, AC YNA ATEBA’R CWESTIYNAU CANLYNOL:

  • Sut defnyddiodd y brawd gwestiynau mewn ffordd effeithiol?

  • Pa agweddau eraill o’i ffordd o ddysgu allwn ni eu hefelychu?

Dyn wedi ei lethu wrth iddo gael ei ddysgu’n wael; dyn yn gweld y gwir yn glir wrth iddo gael ei ddysgu’n effeithiol

Beth yw effaith ein ffordd o ddysgu ar eraill? (Lc 24:32)

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu