EIN BYWYD CRISTNOGOL
Cyfraniad i Jehofa
Sut gallwn ni gyfrannu i Jehofa heddiw? (1Cr 29:5, 9, 14) Isod, rhestrir sawl ffordd y gallwn wneud rhodd wirfoddol i gefnogi gwaith Tystion Jehofa, yn lleol ac yn fyd-eang.
MAE ARIAN SY’N CAEL EI ROI MEWN BLWCH CYFRANIADAU NEU AR LEIN YN CEFNOGI:
Y GWAITH BYD-EANG
adeiladu a chynnal adeiladau cangen a swyddfeydd cyfieithu
ysgolion theocrataidd
gweision llawn-amser arbennig
cymorth ar ôl trychineb
argraffu, cynhyrchu fideos, a chyhoeddi digidol
TREULIAU’R GYNULLEIDFA LEOL
treuliau’r gynulleidfa, fel costau gwasanaethau a gwaith cynnal a chadw syml ar ein Neuadd y Deyrnas
unrhyw benderfyniadau a wnaed gan y gynulleidfa i anfon arian i’r swyddfa gangen ar gyfer:
adeiladu Neuaddau Cynulliad a Neuaddau’r Deyrnas yn fyd-eang
y Cynllun Cymorth Byd-Eang
gweithgareddau byd-eang eraill
CYNADLEDDAU A CHYNULLIADAU
Mae arian sy’n cael ei roi i dy gynhadledd ranbarthol yn cael ei anfon ymlaen i’r gwaith byd-eang. Yn ei dro, mae’r gwaith byd-eang yn talu am dreuliau cynadleddau rhanbarthol, arbennig, a rhyngwladol.
Mae’r arian a roddir i gylchdaith yn cael ei ddefnyddio i rentu, rhedeg, a chynnal adeiladau lle cynhelir cynulliadau, yn ogystal â threuliau eraill y gylchdaith. Hefyd, gall cylchdaith benderfynu cyfrannu’r arian sy’n weddill i waith byd-eang Tystion Jehofa.