EIN BYWYD CRISTNOGOL
Cawson Ni’n Hyfforddi Gan Jehofa i Fagu Ein Teulu
Beth all cyplau ddysgu gan eu Tad nefol, Jehofa, a fydd yn eu helpu nhw i lwyddo wrth fagu eu plant? Gwylia’r fideo Taught by Jehovah to Raise Our Family, ac yna ateba’r cwestiynau canlynol am Abilio ac Ulla Amorim:
I ba raddau gwnaeth eu profiadau fel plant eu paratoi nhw i fagu eu plant eu hunain?
Pa atgofion melys o’u plentyndod soniodd eu plant amdanyn nhw?
Sut ceisiodd Abilio ac Ulla roi Deuteronomium 6:6, 7 ar waith?
Pam gwnaethon nhw ddim jest rhoi rhestr o reolau i’w plant?
Sut gwnaethon nhw helpu eu plant i wneud penderfyniadau da yn eu bywydau?
Roedden nhw wastad yn annog eu plant i anelu at wasanaeth llawn-amser. Pa aberth posib oedd hyn yn ei olygu ar ran y rhieni? (bt-E 178 ¶19)