LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • km 7/13 tt. 2-3
  • Frodyr Ifanc, Ydych Chi’n Ymestyn Allan?

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Frodyr Ifanc, Ydych Chi’n Ymestyn Allan?
  • Ein Gweinidogaeth—2013
  • Erthyglau Tebyg
  • A Wyt Ti’n “Estyn Allan”?
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa—2014
  • Ymdrecha i Wneud Gwaith Da
    Ein Bywyd a’n Gweinidogaeth Gristnogol—Gweithlyfr y Cyfarfodydd—2019
  • Mae Gen Ti Le yng Nghynulleidfa Jehofa!
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2020
  • Frodyr Ifanc​—⁠Gallwch Ddod yn Gristnogion Aeddfed
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2023
Ein Gweinidogaeth—2013
km 7/13 tt. 2-3

Frodyr Ifanc, Ydych Chi’n Ymestyn Allan?

1. Pryd dylai brawd ifanc ddechrau rhoi’r cyfarwyddyd yn 1 Timotheus 3:1 ar waith?

1 “Pwy bynnag sydd â’i fryd ar swydd arolygydd, y mae’n chwennych gwaith rhagorol.” (1 Tim. 3:1) Mae’r geiriau ysbrydoledig hynny’n annog brodyr i ymestyn allan am y fraint o wasanaethu’r gynulleidfa. A oes rhaid ichi fod yn oedolyn i wneud hynny? Mewn gwirionedd, yr amser gorau i ymestyn allan yw tra eich bod chi dal yn ifanc. Drwy wneud hyn, gallwch dderbyn hyfforddiant a phrofi eich bod chi’n gymwys i gael eich penodi i fod yn was gweinidogaethol pan rydych yn hŷn. (1 Tim. 3:10) Os ydych yn frawd ifanc sydd wedi ei fedyddio, sut gallwch chi ymestyn allan?

2. Sut gallwch chi fagu agwedd hunanaberthol a’i dangos?

2 Hunanaberth: Cofiwch eich bod chi’n ymestyn allan am waith rhagorol, nid am deitl. Felly, ceisiwch fagu awydd i helpu eich brodyr a chwiorydd. Un ffordd o wneud hyn yw drwy fyfyrio ar esiampl dda Iesu. (Math. 20:28; Ioan 4:6, 7; 13:4, 5) Gofynnwch i Jehofah eich helpu chi i gymryd diddordeb mewn eraill. (1 Cor. 10:24) Ydych chi’n gallu rhoi cymorth ymarferol i’r rhai yn y gynulleidfa sy’n hŷn neu’n fethedig? Ydych chi’n gwirfoddoli i dorri’r glaswellt, clirio’r eira, neu i helpu gyda gwaith cynnal a chadw eich Neuadd y Deyrnas? A allwch chi wirfoddoli i roi anerchiad ar fyr rybudd yn Ysgol y Weinidogaeth? Byddwch yn darganfod fod ymroi i helpu eraill yn dod â llawenydd.—Act. 20:35.

3. Pa mor bwysig yw ysbrydolrwydd, a sut gall hyn gael ei datblygu?

3 Ysbrydolrwydd: Mae ysbrydolrwydd gwas yn llawer pwysicach na’i alluoedd neu ei dalentau. Mae dyn ysbrydol yn ceisio gweld pethau o safbwynt Jehofah a Iesu. (1 Cor. 2:15, 16) Mae’n dangos “ffrwyth yr Ysbryd.” (Gal. 5:22, 23) Mae’n gyhoeddwr selog sy’n rhoi pethau’r Deyrnas yn gyntaf. (Math. 6:33) Gallwch ddatblygu rhinweddau ysbrydol drwy astudio’n rheolaidd. Mae hyn yn cynnwys paratoi ar gyfer cyfarfodydd y gynulleidfa a’u mynychu, darllen y Beibl bob dydd, a darllen pob rhifyn o’r Watchtower a’r Awake! (Salm 1:1, 2; Heb. 10:24, 25) Er mwyn annog Timotheus i gynyddu’n ysbrydol, ysgrifennodd Paul: “Cadw lygad . . . ar yr hyfforddiant a roddi.” (1 Tim. 4:15, 16) Felly, gwnewch eich gorau glas gyda’ch aseiniadau yn Ysgol y Weinidogaeth. Paratowch ar gyfer y weinidogaeth a chymerwch ran ynddi’n rheolaidd. Gosodwch a cheisiwch gyrraedd nodau ysbrydol fel arloesi, gweithio ym Methel, neu fynd i’r Ysgol Feiblaidd ar Gyfer Brodyr Sengl. Bydd ysbrydolrwydd yn eich helpu chi i ‘ffoi oddi wrth nwydau ieuenctid.’—2 Tim. 2:22.

4. Beth yw gwerth bod yn ddibynadwy a ffyddlon?

4 Dibynadwy a Ffyddlon: Nid oedd rhaid i’r apostolion boeni am y gwaith o rannu bwyd i Gristnogion anghenus yn y ganrif gyntaf, oherwydd roedd gan y brodyr a oedd wedi eu haseinio i wneud hyn enw da am fod yn ddibynadwy a ffyddlon. Roedd hyn yn gadael i’r apostolion ganolbwyntio ar bethau pwysig eraill. (Act. 6:1-4) Felly, pan rydych yn derbyn aseiniad yn y gynulleidfa gwnewch eich gorau. Efelychwch Noa a ddilynodd yn fanwl y cyfarwyddiadau i adeiladu’r arch. (Gen. 6:22) Mae ffyddlondeb yn werthfawr i Jehofah ac yn dangos aeddfedrwydd ysbrydol.—1 Cor. 4:2; gweler y blwch “Buddion Hyfforddiant.”

5. Pam dylai brodyr ifanc ymestyn allan?

5 Fel y cafodd ei broffwydo, mae Jehofah yn cyflymu’r gwaith o gynaeafu. (Esei. 60:22) Ar gyfartaledd, mae chwarter miliwn yn cael eu bedyddio bob blwyddyn. Gyda chymaint o rai newydd yn dod i mewn i’r gwirionedd, mae angen dynion ysbrydol cymwys i ofalu am gyfrifoldebau yn y gynulleidfa. Nawr, mwy nag erioed, mae digon o waith i wneud yng ngwasanaeth Jehofah. (1 Cor. 15:58) Frodyr ifanc, ydych chi’n ymestyn allan? Os ydych, rydych chi’n dymuno gwaith rhagorol!

[Broliant ar dudalen 2]

Gyda chymaint o rai newydd yn dod i mewn i’r gwirionedd, mae angen dynion ysbrydol cymwys i ofalu am gyfrifoldebau yn y gynulleidfa

[Blwch ar dudalen 3]

Buddion Hyfforddiant

Mae brodyr ifanc cymwys yn elwa pan mae henuriaid yn rhoi aseiniadau iddyn nhw a’u hyfforddi. Un tro ar ôl cyfarfod, roedd arolygwr cylchdaith yn eistedd ar y llwyfan yn rhoi anogaeth i gyhoeddwr. Sylweddolodd fod brawd ifanc yn sefyll gerllaw, ac felly gofynnodd i’r bachgen os oedd yn aros i siarad ag ef. Dywedodd y brawd ifanc fod ganddo aseiniad i hwfro’r llwyfan ar ôl pob cyfarfod. Roedd ei rieni’n barod i adael, ond doedd y bachgen ddim eisiau gadael heb gyflawni ei aseiniad. Roedd arolygwr y gylchdaith yn hapus i symud allan o’r ffordd. Dywedodd: “Roedd henuriaid y gynulleidfa honno yn edrych am gyfleoedd i hyfforddi brodyr ifanc cymwys drwy roi aseiniadau yn y gynulleidfa iddyn nhw. O ganlyniad, doedd hi ddim yn anarferol iddyn nhw gymeradwyo brawd ifanc i fod yn was gweinidogaethol pan oeddwn i’n ymweld â’r gynulleidfa.”

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu