GWERS 3
Defnyddio Cwestiynau
Mathew 16:13-16
CRYNODEB: Gofynna gwestiynau caredig i ennyn a chynnal diddordeb, i resymu â dy wrandawyr, ac i dynnu sylw at bwyntiau pwysig.
SUT I FYND ATI:
Enynna a chynnal ddiddordeb. Gofynna gwestiynau rhethregol sy’n procio’r meddwl neu’n ennyn chwilfrydedd.
Rhesyma ar y pwnc. Helpa dy wrandawyr i ddilyn rhesymeg y ddadl drwy ofyn cyfres o gwestiynau sy’n arwain at gasgliad rhesymol.
Pwysleisia bwyntiau pwysig. Gofynna gwestiwn diddorol i gyflwyno syniad allweddol. Defnyddia gwestiynau i adolygu ar ôl trafod pwynt pwysig neu wrth ddod â’r drafodaeth i ben.