LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • th gwers 7 t. 10
  • Gwybodaeth Gywir a Dibynadwy

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Gwybodaeth Gywir a Dibynadwy
  • Ymroi i Ddarllen a Dysgu
  • Erthyglau Tebyg
  • Cyflwyno’r Ysgrythurau yn Gywir
    Ymroi i Ddarllen a Dysgu
  • Dangos Gwerth Ymarferol y Deunydd
    Ymroi i Ddarllen a Dysgu
  • Defnyddio Cwestiynau
    Ymroi i Ddarllen a Dysgu
  • Ceisio Cyffwrdd â’r Galon
    Ymroi i Ddarllen a Dysgu
Gweld Mwy
Ymroi i Ddarllen a Dysgu
th gwers 7 t. 10

GWERS 7

Gwybodaeth Gywir a Dibynadwy

Adnod

Luc 1:3

CRYNODEB: Defnyddia dystiolaeth gadarn i helpu dy wrandawyr i ddod i’r casgliad cywir.

SUT I FYND ATI:

  • Defnyddia ffynonellau dibynadwy. Seilia dy sylwadau ar Air Duw, gan ddarllen yn uniongyrchol ohono lle bo modd. Os wyt ti’n cyfeirio at ffaith wyddonol, adroddiad yn y newyddion, profiad, neu dystiolaeth ategol arall, cadarnha o flaen llaw fod y ffynhonnell yn ddibynadwy a bod y wybodaeth yn gyfoes.

  • Defnyddia ffynonellau’n gywir. Esbonia adnodau yn unol â’r cyd-destun, â neges y Beibl cyfan, ac â chyhoeddiadau’r “gwas ffyddlon a chall.” (Mathew 24:45, Beibl Cymraeg Diwygiedig) Defnyddia ffynonellau seciwlar mewn ffordd sydd yn gyson â bwriad yr awdur a’r cyd-destun gwreiddiol.

    Awgrym ymarferol

    Paid â gorliwio ffeithiau a ffigyrau. Gofala nad wyt ti’n troi “rhai pobl” yn “y rhan fwyaf o bobl,” “mewn rhai achosion” yn “ym mhob achos,” neu “mae’n bosib” yn “mae’n debyg.”

  • Rhesyma ar y dystiolaeth. Ar ôl darllen adnod neu gyfeirio at ffynhonnell, gofynna gwestiynau neu rho eglureb a fydd yn helpu dy wrandawyr i ddod i’w casgliad eu hunain.

YN Y WEINIDOGAETH

Wrth baratoi ar gyfer pregethu, meddylia am gwestiynau a all godi, a chwilia am atebion posib. Os bydd rhywun yn codi cwestiwn dwyt ti ddim yn medru ei ateb, gelli di gynnig ymchwilio i’r pwnc a dod yn ôl i’w drafod.

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu