TRYSORAU O AIR DUW | EXODUS 25-26
Y Peth Pwysicaf yn y Tabernacl
Yr Arch oedd y peth pwysicaf yn y tabernacl ac yng ngwersyll Israel. Roedd presenoldeb Duw yn cael ei gynrychioli gan gwmwl rhwng y ddau gerwb uwch ben caead yr Arch. Ar Ddydd y Cymod bob blwyddyn, aeth yr Archoffeiriad i mewn i’r Lle Mwyaf Sanctaidd a thaenellu gwaed tarw a gafr o flaen y caead i wneud yn iawn am bechodau Israel. (Le 16:14, 15) Gwnaeth hyn gynrychioli Iesu, yr Archoffeiriad mwyaf, yn mynd o flaen presenoldeb Jehofa yn y nefoedd i gyflwyno gwerth ei aberth pridwerthol.—Heb 9:24-26.
Cysyllta’r adnodau canlynol â’r buddion sydd ar gael inni oherwydd y pridwerth:
ADNODAU
BUDDION
gobaith o fyw am byth
maddeuant am bechodau
cydwybod lân
Beth sy’n rhaid inni ei wneud i dderbyn y buddion hyn?