GWERS 6
Cymhwyso’r Ysgrythurau yn Effeithiol
Ioan 10:33-36
CRYNODEB: Mae angen gwneud mwy na darllen adnod a symud yn syth ymlaen i’r pwynt nesaf. Sicrha fod dy wrandawyr yn gweld y cysylltiad rhwng yr adnodau rwyt ti’n eu darllen a’r pwynt rwyt ti’n ei wneud.
SUT I FYND ATI:
Tynna sylw at y geiriau allweddol. Ar ôl darllen adnod, tynna sylw at y geiriau sy’n berthnasol i’r pwynt rwyt ti’n ei wneud. Gelli di wneud hyn drwy ailadrodd y geiriau hynny, neu drwy osod cwestiwn sy’n gofyn i dy wrandawyr feddwl am y geiriau allweddol.
Pwysleisia’r prif bwynt. Os wyt ti wedi cynnig rheswm eglur dros ddarllen adnod, esbonia sut mae geiriau allweddol yr adnod yn cysylltu â’r rheswm hwnnw.
Cadwa’r neges yn syml. Paid â mynd ar ôl manylion dibwys sydd ddim yn ategu’r prif bwynt. Ystyria faint mae dy wrandawyr eisoes yn ei wybod am y pwnc ac yna penderfyna faint o ffeithiau sydd eu hangen er mwyn i dy gynulleidfa ddeall y pwynt yn glir.