LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • ijwfq erthygl 49
  • Pam Mae Tystion Jehofa Wedi Newid Rhai o’u Daliadau?

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Pam Mae Tystion Jehofa Wedi Newid Rhai o’u Daliadau?
  • Cwestiynau Cyffredin am Dystion Jehofa
  • Erthyglau Tebyg
  • Awgrymiad ar Gyfer Astudio
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2023
  • Ydy Tystion Jehofa yn Wir Gristnogion?
    Mwynhewch Fywyd am Byth!—Cwrs Rhyngweithiol am y Beibl
  • Ar Gynnydd Mae’r Llewyrch
    Canwn yn Llawen i Jehofa
  • Ar Gynnydd Mae’r Llewyrch
    Canwch i Jehofa
Cwestiynau Cyffredin am Dystion Jehofa
ijwfq erthygl 49
Un o Dystion Jehofa yn darllen y Beibl

Pam Mae Tystion Jehofa Wedi Newid Rhai o’u Daliadau?

Y Beibl yw’r unig awdurdod ar gyfer ein daliadau, felly rydyn ni wedi cywiro ein daliadau wrth i ni ddeall yr Ysgrythurau yn well.a

Mae newidiadau o’r fath yn cyd-fynd â’r egwyddor yn Diarhebion 4:​18: “Mae llwybr y rhai sy’n byw yn iawn yn ddisglair fel y wawr, ac yn goleuo fwyfwy nes mae’n ganol dydd.” Yn debyg i olygfa sy’n cael ei datgelu’n raddol â golau’r haul, mae Duw yn datgelu ei wirioneddau’n raddol, ac yn ei amser ei hun. (1 Pedr 1:​10-​12) Fel y rhagfynegwyd yn y Beibl, mae’r broses hon wedi cyflymu wrth i’r diwedd ddod.​—Daniel 12:4.

Ni ddylai’r newidiadau yn ein dealltwriaeth ein synnu. Roedd gan addolwyr Duw yn y gorffennol syniadau a disgwyliadau anghywir hefyd, roedd angen iddyn nhw newid eu ffordd o feddwl.

  • Cynigiodd Moses ei hun fel gwaredwr i genedl Israel 40 mlynedd cyn amserlen Duw.​—Actau 7:​23-​25, 30, 35.

  • Methodd yr apostolion ddeall y broffwydoliaeth am farwolaeth ac atgyfodiad y Meseia.​—Eseia 53:​8-​12; Mathew 16:21-​23.

  • Roedd gan rai Cristnogion cynnar syniadau anghywir fod “Dydd yr Arglwydd eisoes wedi dod.”​—2 Thesaloniaid 2:​1, 2, BCND.

Felly, cywirodd Duw eu dealltwriaeth, ac rydyn ni’n gweddïo arno barhau i wneud yr un peth i ni.​—Iago 1:5.

a Nid ydyn ni’n ceisio cuddio newidiadau yn ein dealltwriaeth. Mewn gwirionedd, rydyn ni’n eu cofnodi ac yn eu cyhoeddi. Am esiampl, gweler “Eglurhad o’n Daliadau” yn ein cyhoeddiadau ar-lein.

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu