LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • ijwbq erthygl 181
  • Beth Yw’r Beibl?

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Beth Yw’r Beibl?
  • Atebion i Gwestiynau am y Beibl
  • Isbenawdau
  • Erthyglau Tebyg
  • Ateb y Beibl
  • Ffeithiau am y Beibl
  • Am beth mae’r Beibl yn sôn?
  • Ydy’r Beibl wedi cael ei newid?
  • Pam mae ’na gymaint o wahanol gyfieithiadau o’r Beibl?
  • Pwy benderfynodd beth ddylai cael ei gynnwys yn y Beibl?
  • Oes ’na lyfrau coll sy’n perthyn yn y Beibl?
  • Sut i gael hyd i adnodau yn y Beibl
  • Rhestr o lyfrau yn y Beibl
  • Cynnwys Y Llyfr
    Llyfr i Bawb
  • Y Beibl—Pam Cymaint o Fersiynau?
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Teyrnas Jehofa (Cyhoeddus)—2017
Atebion i Gwestiynau am y Beibl
ijwbq erthygl 181
Y Beibl Sanctaidd wedi ei amgylchynu ag amryw o lyfrau ymchwil.

Beth Yw’r Beibl?

Ateb y Beibl

Mae’r Beibl yn gasgliad o 66 o lyfrau cysegredig. Cafodd ei ysgrifennu dros gyfnod o tua 1,600 o flynyddoedd. Mae’r Beibl yn cynnwys “neges gan Dduw”—Gair Duw—1 Thesaloniaid 2:13.

Yn yr erthygl hon

  • Ffeithiau am y Beibl

  • Am beth mae’r Beibl yn sôn?

  • Ydy’r Beibl wedi cael ei newid?

  • Pam mae ’na gymaint o wahanol gyfieithiadau o’r Beibl?

  • Pwy benderfynodd beth ddylai cael ei gynnwys yn y Beibl?

  • Oes ’na lyfrau coll sy’n perthyn yn y Beibl?

  • Sut i gael hyd i adnodau yn y Beibl

  • Rhestr o lyfrau yn y Beibl

Ffeithiau am y Beibl

  • Pwy ysgrifennodd y Beibl? Duw yw Awdur y Beibl, ond defnyddiodd tua 40 o ddynion i’w ysgrifennu. Dyma rhai ohonyn nhw: Moses, y Brenin Dafydd, Mathew, Marc, Luc, ac Ioan.a Rhoddodd Duw yr hyn oedd ar ei feddwl ym meddyliau’r ysgrifenwyr hyn er mwyn iddyn nhw gofnodi ei neges.—2 Timotheus 3:16.

    Eglureb: Os bydd dyn busnes yn gofyn i’w ysgrifennydd ysgrifennu neges ar ei ran, gan roi rhyw syniad bras o’r hyn oedd ar ei feddwl, mae’r dyn busnes yn dal yn awdur y neges. Yn debyg i hyn, er bod Duw wedi defnyddio dynion i ysgrifennu ei neges, ef yw gwir Awdur y Beibl.

  • Beth mae’r gair “Beibl” yn ei olygu? Mae’r gair “Beibl” yn dod o’r gair Groeg biblia, sy’n golygu “llyfrau bach.” Ymhen amser, daeth y gair biblia i ddisgrifio’r casgliad cyfan o lyfrau bach sydd gyda’i gilydd yn cael eu hadnabod fel y Beibl.

  • Pryd cafodd y Beibl ei ysgrifennu? Rhoddwyd cychwyn ar ysgrifennu’r Beibl ym 1513 COG a chafodd ei gwblhau dros 1,600 o flynyddoedd wedyn, tua 98 OG.

  • Ble mae’r Beibl gwreiddiol? Hyd y gwyddon ni, does ’na ’r un o ysgrifau gwreiddiol y Beibl wedi goroesi. Mae hyn am fod ysgrifenwyr y Beibl wedi defnyddio deunydd sy’n dirywio dros amser, fel papyrws a memrwn. Ond, gwnaeth ysgrifenyddion proffesiynol gopïo ac ailgopïo’r ysgrifau Beiblaidd yn ofalus iawn dros y canrifoedd, gan ddiogelu eu cynnwys ar gyfer darllenwyr y dyfodol.

  • Beth yw’r “Hen Destament” a’r “Testament Newydd”? Mae’r hyn sy’n aml yn cael ei alw’n Hen Destament yn disgrifio’r rhan honno o’r Beibl a gafodd ei hysgrifennu yn Hebraeg,b a elwir hefyd yr Ysgrythurau Hebraeg. Mae’r hyn sy’n cael ei alw’n Destament Newydd yn cyfeirio at y rhan a gafodd ei hysgrifennu yn yr iaith Roeg, ac felly’n cael ei hadnabod fel yr Ysgrythurau Groeg Cristnogol. Mae’r ddwy ran gyda’i gilydd yn ffurfio un llyfr cyflawn, a elwir hefyd Yr Ysgrythurau Sanctaidd.c

  • Beth yw cynnwys y Beibl? Mae’r gwahanol rannau o’r Beibl yn cynnwys hanes, deddfau, proffwydoliaeth, barddoniaeth, diarhebion, caneuon, a llythyrau.—Gweler “Rhestr o Lyfrau’r Beibl.”

Am beth mae’r Beibl yn sôn?

Mae’r Beibl yn dechrau gyda throsolwg byr ar greadigaeth y nefoedd a’r ddaear gan yr Hollalluog Dduw. Drwy gyfrwng y Beibl, mae’n cyflwyno ei hun wrth ei enw, Jehofa, ac yn gwahodd pobl i ddod i’w adnabod.—Salm 83:18, Beibl Cysegr-lân.

Mae’r Beibl yn esbonio bod Duw wedi cael ei gamgynrychioli, ac yn dangos sut bydd ef yn adfer ei enw da.

Mae’r Beibl yn datgelu pwrpas Duw ar gyfer dynolryw a’r ddaear. Mae’n dangos sut y bydd Duw yn y dyfodol yn cael gwared ar yr hyn sy’n achosi dioddefaint i bobl.

Mae’r Beibl yn rhoi cyngor ymarferol ar gyfer bywyd bob dydd. Dyma ambell enghraifft:

  • Cadw perthynas da ag eraill. “Dylech chi bob amser drin pobl eraill fel byddech chi’n hoffi iddyn nhw’ch trin chi.”—Mathew 7:12.

    Ystyr: Dylen ni drin pobl eraill fel y bydden ninnau’n hoffi cael ein trin.

  • Ymdopi â straen. “Peidiwch felly â phryderu am yfory, oherwydd bydd gan yfory ei bryder ei hun.”—Mathew 6:34, Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig.

    Ystyr: Yn lle poeni’n ormodol am beth allai ddigwydd yn y dyfodol, mae’n well byw un dydd ar y tro.

  • Mwynhau priodas hapus. “Dyna ddylai pob un ohonoch chi ei wneud – caru ei wraig fel mae’n ei garu ei hun, fel bod y wraig wedyn yn parchu ei gŵr.”—Effesiaid 5:33.

    Ystyr: Mae cariad a pharch yn hanfodol ar gyfer priodas lwyddiannus.

Ydy’r Beibl wedi cael ei newid?

Nac ydy. Mae ysgolheigion wedi cymharu llawysgrifau hynafol y Beibl yn ofalus gyda’r Beibl heddiw ac wedi gweld nad yw neges sylfaenol y Beibl wedi newid yn y bôn. Mae hyn yn gwneud synwyr—wedi’r cyfan, os ydy Duw eisiau i’w neges gael ei darllen a’i deall, oni fyddai’n rhesymol y byddai’n gwneud yn siŵr na fyddai’r neges yn cael ei newid?d—Eseia 40:8.

Pam mae ’na gymaint o wahanol gyfieithiadau o’r Beibl?

Mae’r rhan fwyaf o ddarllenwyr heddiw yn methu deall hen ieithoedd gwreiddiol y Beibl. Eto mae gan y Beibl newyddion da “i bobl o bob cenedl, llwyth, iaith, a hil.” (Datguddiad 14:6) Felly, mae pobl angen cyfieithiad o’r Beibl mewn iaith ddealladwy er mwyn iddyn nhw allu darllen a deall neges Duw yn iawn.

Mae ’na dri math o gyfieithiad o’r Beibl:

  • Cyfieithiad air am air sydd mor llythrennol ag sy’n bosib.

  • Cyfieithiad syniad am syniad sy’n defnyddio geiriau sy’n cyfleu ystyr iaith y testun gwreiddiol.

  • Aralleiriad sy’n mynd ati’n rhydd i fynegi’r testun mewn ffordd sy’n bleserus i’w ddarllen. Ond ar adegau, gall rhyddid aralleiriad gorchuddio gwir ystyr y testun.

Mae gan gyfieithiad da o’r Beibl gydbwysedd rhwng cyfieithiad llythrennol ac iaith gyfoes ddealladwy i gyfleu neges Duw i ddynolryw mewn ffordd gywir.e

Pwy benderfynodd beth ddylai cael ei gynnwys yn y Beibl?

Fel ei Awdur, penderfynodd Duw beth ddylai fod yn y Beibl. Yn gyntaf, dewisodd Israel gynt i “ofalu am neges Duw,” a gwarchod yr Ysgrythurau Hebraeg.—Rhufeiniaid 3:2.

Oes ’na lyfrau coll sy’n perthyn yn y Beibl?

Nac oes. Mae’r Beibl yn gyfan; does ’na ddim llyfrau “coll.” Mae rhai yn honni y dylai amryw o lyfrau hynafol, a oedd yn guddiedig am yn hir, fod yn y Beibl.f Ond, mae gan y Beibl ei safon ei hun i ddangos ei fod yn Air gwreiddiol Duw. (2 Timotheus 1:13) Drwy ddefnyddio’r safon hon, mae llyfrau’r Beibl sydd wedi ei hysbrydoli gan Dduw yn cytuno’n llwyr â’i gilydd. Allwn ni ddim dweud hynny am bob ysgrif hynafol y mae rhai yn honni y dylen nhw fod yn y Beibl.g

Sut i gael hyd i adnodau yn y Beibl

Sut i gael hyd i adnodau’r Beibl gan ddefnyddio 2 Timotheus 3:16 fel enghraifft. Mae’r cyfeiriad yn dweud wrthoch chi pa lyfr o’r Beibl i chwilio amdano, fel llyfr 2 Timotheus (gweler y rhestr isod am y drefn fwyaf cyffredin ar gyfer llyfrau’r Beibl). Mae’r rhif cyntaf yn dweud wrthoch chi pa bennod i chwilio amdani, fel pennod 3. Mae’r rhif neu rifau sy’n dilyn yn dweud wrthoch chi pa adnod neu adnodau i’w darllen, fel adnod 16.

Rhestr o lyfrau yn y Beibl

Yr Ysgrythurau Hebraeg (“Hen Destament”)

  • Hanes a deddfau

    • Genesis

    • Exodus

    • Lefiticus

    • Numeri

    • Deuteronomium

  • Hanes cenedl Israel

    • Josua

    • Barnwyr

    • Ruth

    • 1 ac 2 Samuel

    • 1 ac 2 Brenhinoedd

    • 1 ac 2 Cronicl

    • Esra

    • Nehemeia

    • Esther

  • Barddoniaeth

    • Job

    • Salmau

    • Diarhebion

    • Pregethwr

    • Caniad Solomon

  • Proffwydoliaeth

    • Eseia

    • Jeremeia

    • Galarnad

    • Eseciel

    • Daniel

    • Hosea

    • Joel

    • Amos

    • Obadeia

    • Jona

    • Micha

    • Nahum

    • Habacuc

    • Seffaneia

    • Haggai

    • Sechareia

    • Malachi

Yr Ysgrythurau Groeg Cristnogol (“Testament Newydd”)

  • Hanes bywyd a gweinidogaeth Iesu (Yr Efengylau)

    • Mathew

    • Marc

    • Luc

    • Ioan

  • Hanes y gynulleidfa Gristnogol gynnar

    • Actau

  • Llythyrau i amryw gynulleidfaoedd Cristnogol

    • Rhufeiniaid

    • 1 ac 2 Corinthiaid

    • Galatiaid

    • Effesiaid

    • Philipiaid

    • Colosiaid

    • 1 ac 2 Thesaloniaid

  • Llythyrau at Gristnogion penodol

    • 1 ac 2 Timotheus

    • Titus

    • Philemon

  • Llythyrau cyffredinol at Gristnogion

    • Hebreaid

    • Iago

    • 1 ac 2 Pedr

    • 1, 2, a 3 Ioan

    • Jwdas

  • Proffwydoliaeth

    • Datguddiad

a Am restr gyflawn o lyfrau’r Beibl, pwy a’u hysgrifennodd, a phryd, gweler “Rhestr o Lyfrau’r Beibl.”

b Cafodd rai rhannau bach o’r Beibl eu hysgrifennu yn Aramaeg, iaith sy’n perthyn yn agos i’r Hebraeg.

c Mae’n well gan lawer o ddarllenwyr y Beibl yr ymadroddion “Yr Ysgrythurau Hebraeg” a’r “Ysgrythurau Groeg Cristnogol.” Mae’r termau hyn yn osgoi rhoi’r argraff fod yr “Hen Destament” yn henffasiwn ac wedi cael ei ddisodli gan y “Testament Newydd.”

d Gweler “Ydy’r Beibl Wedi Cael ei Newid Neu ei Addasu?”

e Mae llawer yn mwynhau’r New World Translation of the Holy Scriptures am ei fod yn gywir ac yn hawdd ei ddarllen. Gweler “Pa Mor Gywir Yw’r New World Translation?”

f Gyda’i gilydd gelwir yr ysgrifau hyn yn Apocryffa. Yn ôl yr Encyclopædia Britannica, “mewn llenyddiaeth Feiblaidd, [mae’r ymadrodd hwn yn cyfeirio at] weithiau y tu allan i’r hyn sy’n cael ei dderbyn fel ysgrythur ganonaidd”—hynny yw, y tu allan i’r rhestr awdurdodol o lyfrau sy’n perthyn yn y Beibl.

g I ddysgu mwy, gweler “Apocryphal Gospels—Hidden Truths About Jesus?”

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu