LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • ijwbq erthygl 159
  • Ydy Anifeiliaid yn Mynd i’r Nefoedd?

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Ydy Anifeiliaid yn Mynd i’r Nefoedd?
  • Atebion i Gwestiynau am y Beibl
  • Isbenawdau
  • Erthyglau Tebyg
  • Ateb y Beibl
  • A oes gan anifail enaid?
  • Ydy enaid yn marw?
  • Ydy anifeiliaid yn pechu?
  • A oes esgus dros fod yn greulon wrth anifeiliaid?
  • Figaniaeth—Beth Mae’r Beibl yn ei Ddweud?
    Pynciau Eraill
  • “Enaid” ac “Ysbryd”—Beth Yw Gwir Ystyr y Termau Hyn?
    Beth Mae’r Beibl yn ei Wir Ddysgu?
Atebion i Gwestiynau am y Beibl
ijwbq erthygl 159
Ci

Ydy Anifeiliaid yn Mynd i’r Nefoedd?

Ateb y Beibl

Yn ôl y Beibl, o’r holl greaduriaid ar y ddaear, dim ond nifer penodol o fodau dynol sy’n mynd i’r nefoedd. (Datguddiad 14:1, 3) Maen nhw’n mynd i’r nefoedd i fod yn frenhinoedd ac yn offeiriaid gyda Iesu. (Luc 22:28-30; Datguddiad 20:6) Bydd y rhan fwyaf o fodau dynol yn cael eu hatgyfodi i fyw mewn paradwys ar y ddaear.—Salm 37:11, 29.

Nid oes dim sôn yn y Beibl am nefoedd ar gyfer anifeiliaid anwes, a hynny am reswm da. Mae’n amhosib i anifeiliaid gymryd y camau sydd eu hangen er mwyn derbyn yr “alwad nefol.” (Hebreaid 3:1) Mae’r camau hyn yn cynnwys dod i adnabod Duw, credu ynddo, ac ufuddhau i’w orchmynion. (Mathew 19:17; Ioan 3:16; 17:3) Dim ond bodau dynol a gafodd eu creu gyda’r gobaith o fyw am byth.—Genesis 2:16, 17; 3:22, 23.

Cyn i neb allu mynd i’r nefoedd, mae angen atgyfodiad. (1 Corinthiaid 15:42) Mae’r Beibl yn sôn am nifer o atgyfodiadau. (1 Brenhinoedd 17:17-24; 2 Brenhinoedd 4:32-37; 13:20, 21; Luc 7:11-15; 8:41, 42, 49-56; Ioan 11:38-44; Actau 9:36-42; 20:7-12) Ond ym mhob achos, pobl a atgyfodwyd, nid anifeiliaid.

  • A oes gan anifail enaid?

  • Ydy enaid yn marw?

  • Ydy anifeiliaid yn pechu?

  • A oes esgus dros fod yn greulon wrth anifeiliaid?

A oes gan anifail enaid?

Nac oes. Wrth drafod bodau dynol ac anifeiliaid fel ei gilydd, mae’r Beibl yn dweud mai eneidiau ydyn nhw. (Numeri 31:28, Beibl Cysegr-lân) Pan gafodd y dyn cyntaf, Adda, ei greu, nid derbyn enaid a wnaeth, ond “aeth yn enaid.” (Genesis 2:7, BC) Dau beth sydd i enaid: y “pridd” a’r “anadl sy’n rhoi bywyd.”

Ydy enaid yn marw?

Ydy, mae’r Beibl yn dweud bod eneidiau’n gallu marw. (Eseciel 18:20, BC) Wrth farw, mae anifeiliaid a bodau dynol fel ei gilydd yn mynd yn ôl i’r pridd. (Pregethwr 3:19, 20) Mewn geiriau eraill, maen nhw’n peidio â bod.

Ydy anifeiliaid yn pechu?

Nac ydyn. Ystyr pechu yw gwneud, meddwl, neu deimlo rhywbeth sydd yn groes i safonau Duw. Er mwyn pechu, mae’n rhaid i greadur fedru penderfynu ar gwestiynau moesol. Dyna rywbeth na all anifeiliaid ei wneud. Gwneud pethau wrth reddf y mae anifeiliaid fel arfer. (2 Pedr 2:12) Ar ddiwedd eu hoes, daw terfyn naturiol ar eu bywydau, er nad ydyn nhw’n pechu.

A oes esgus dros fod yn greulon wrth anifeiliaid?

Nac oes. Rhoddodd Duw awdurdod dros yr anifeiliaid i fodau dynol, ond nid yw hynny’n golygu bod hawl gennyn ni i’w cam-drin. (Genesis 1:28; Salm 8:6-8) Mae lles pob anifail, gan gynnwys yr adar bach, yn bwysig i Dduw. (Jona 4:11; Mathew 10:29) Gorchmynnodd i’w addolwyr ofalu am eu hanifeiliaid.—Exodus 23:12; Deuteronomium 25:4; Diarhebion 12:10.

Adnodau yn y Beibl am anifeiliaid

Genesis 1:28: “Dyma Duw yn eu bendithio, a dweud [wrth y bodau dynol cyntaf]: ‘Dw i eisiau i chi gael plant, fel bod mwy a mwy ohonoch chi. Llanwch y ddaear a defnyddiwch ei photensial hi; a bod yn feistr i ofalu am y pysgod sydd yn y môr, yr adar sy’n hedfan yn yr awyr, a’r holl greaduriaid sy’n byw ar y ddaear.’”

Ystyr: Rhoddodd Duw awdurdod dros yr anifeiliaid i fodau dynol.

Numeri 31:28, BC: “A chyfod deyrnged . . . un enaid o bob pum cant o’r dynion, ac o’r eidionau, ac o’r asynnod, ac o’r defaid.”

Ystyr: Mae bodau dynol ac anifeiliaid fel ei gilydd yn eneidiau.

Diarhebion 12:10: “Mae pobl dda yn gofalu am eu hanifeiliaid, ond mae hyd yn oed tosturi pobl ddrwg yn greulon!”

Ystyr: Mae pobl sy’n gofalu am eu hanifeiliaid, gan gynnwys eu hanifeiliaid anwes, yn plesio Duw.

Mathew 10:29: “Beth ydy gwerth aderyn y to? Dych chi’n gallu prynu dau ohonyn nhw am newid mân! Ond does dim un aderyn bach yn syrthio’n farw heb i’ch Tad wybod am y peth.”

Ystyr: Mae Duw yn sylwi ar yr anifeiliaid, hyd yn oed yr adar bach.

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu