LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • lmd gwers 2
  • Naturioldeb

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Naturioldeb
  • Caru Pobl—Gwneud Disgyblion
  • Isbenawdau
  • Erthyglau Tebyg
  • Esiampl Philip
  • Beth Rydyn Ni’n Ei Ddysgu o Esiampl Philip?
  • Dilyna Esiampl Philip
  • Hogi Ein Sgiliau yn y Weinidogaeth—Dechrau Sgwrs er Mwyn Tystiolaethu’n Anffurfiol
    Ein Gweinidogaeth—2014
  • Dangos Diddordeb
    Caru Pobl—Gwneud Disgyblion
  • Cyhoeddi’r “Newyddion Da am Iesu”
    ‘Tystiolaethu’n Drylwyr am Deyrnas Dduw’
  • Hogi Ein Sgiliau yn y Weinidogaeth—Dechrau Sgyrsiau a All Roi Cyfle Inni Dystiolaethu
    Ein Bywyd a’n Gweinidogaeth Gristnogol—Gweithlyfr y Cyfarfodydd—2018
Gweld Mwy
Caru Pobl—Gwneud Disgyblion
lmd gwers 2

DECHRAU SGWRS

Philip y pregethwr yn siarad â dyn o Ethiopia sy’n eistedd yn ei gerbyd yn darllen sgrôl.

Act. 8:30, 31

GWERS 2

Naturioldeb

Egwyddor: “Mor dda ydy gair yn ei bryd!”—Diar. 15:23.

Esiampl Philip

Philip y pregethwr yn siarad â dyn o Ethiopia sy’n eistedd yn ei gerbyd yn darllen sgrôl.

FIDEO: Philip yn Siarad â’r Eunuch o Ethiopia

1. Gwylia’r FIDEO, neu darllena Actau 8:​30, 31. Yna ystyria’r cwestiynau canlynol:

  1. Sut dechreuodd Philip y sgwrs?

  2. Pam roedd hyn yn ffordd naturiol o ddechrau sgwrs a dysgu rhywbeth newydd i’r dyn?

Beth Rydyn Ni’n Ei Ddysgu o Esiampl Philip?

2. Os ydyn ni’n gadael i’r sgwrs lifo’n naturiol, mae’n debyg bydd y person yn teimlo’n gyfforddus ac yn fodlon trafod ein neges.

Dilyna Esiampl Philip

3. Sylwa ar yr hyn sydd o dy gwmpas. Mae’r olwg ar wyneb rhywun ac iaith ei gorff yn dweud llawer wrthon ni. Ydy’r person i’w weld yn fodlon siarad? Fe allet ti ddechrau sgwrsio am rywbeth yn y Beibl drwy ofyn, “Oeddech chi’n gwybod bod . . . ?” Paid â gorfodi rhywun i siarad os nad yw’n fodlon.

4. Bydda’n amyneddgar. Paid â meddwl dy fod ti’n gorfod dechrau sôn am y Beibl yn syth. Arhosa am gyfle i gyflwyno’r pwnc yn naturiol. Weithiau bydd hynny’n golygu aros tan y sgwrs nesaf.

5. Bydda’n hyblyg. Efallai bydd sgwrs yn mynd i gyfeiriad annisgwyl. Felly bydda’n fodlon rhannu rhywbeth sy’n berthnasol i’r person, hyd yn oed os bydd hynny’n golygu trafod rhywbeth gwahanol i’r pwnc oedd ar dy feddwl di.

GWELER HEFYD

Preg. 3:​1, 7; 1 Cor. 9:22; 2 Cor. 2:17; Col. 4:6

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu