LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • ijwbq erthygl 131
  • Beth Mae’r Beibl yn ei Ddweud am Wisgo Colur a Gemwaith?

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Beth Mae’r Beibl yn ei Ddweud am Wisgo Colur a Gemwaith?
  • Atebion i Gwestiynau am y Beibl
  • Isbenawdau
  • Ateb y Beibl
  • Nid yw addurniad corfforol yn cael ei gondemnio
  • Camsyniadau am golur a gemwaith
Atebion i Gwestiynau am y Beibl
ijwbq erthygl 131
Dynes yn gwisgo cadwyn

Beth Mae’r Beibl yn ei Ddweud am Wisgo Colur a Gemwaith?

Ateb y Beibl

Er nad yw’n trafod y pwnc yn fanwl, nid yw’r Beibl yn condemnio gwisgo colur, gemwaith, na ffurfiau eraill o addurno’r corff. Ond, yn hytrach na chanolbwyntio ar sut mae rhywun yn edrych, mae’r Beibl yn cymeradwyo’r “math o harddwch fydd byth yn diflannu, sef ysbryd addfwyn a thawel.”—1 Pedr 3:​3, 4.

Nid yw addurniad corfforol yn cael ei gondemnio

  • Gwisgodd gwragedd ffyddlon yn y Beibl addurniadau. Fe wnaeth Rebeca, a briododd Isaac mab Abraham, wisgo modrwy aur yn ei thrwyn, breichledau aur, a gemwaith drud a oedd wedi derbyn gan ei darpar dad-yng-nghyfraith. (Genesis 24:22, 30, 53) Hefyd, dderbyniodd Esther “driniaethau harddwch” er mwyn paratoi ar gyfer y posibilrwydd y byddai hi’n cael ei dewis yn frenhines dros Ymerodraeth Persia. Roedd y triniaethau hyn yn cynnwys defnyddio “coluron” neu gosmetigau gwahanol.—Esther 2:7, 9, 12.

  • Mae darluniau Beiblaidd yn defnyddio gemwaith mewn cymariaethau cadarnhaol. Er enghraifft, mae person sy’n rhoi cyngor da “fel modrwy aur . . . i glust sy’n gwrando.” (Diarhebion 25:12, Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig) Yn yr un modd, mae Duw ei hun yn cymharu’r ffordd wnaeth ef drin cenedl Israel i’r ffordd mae gŵr yn addurno ei briodferch â breichledau, cadwyn, a chlustdlysau. Roedd yr addurniad hwn yn gwneud y genedl yn “hynod o hardd.”—Eseciel 16:11-​13.

Camsyniadau am golur a gemwaith

Camsyniad: Yn 1 Pedr 3:3, mae’r Beibl yn condemnio ‘pethau fel steil gwallt’ a ‘thlysau aur.’

Ffaith: Mae’r cyd-destun yn dangos bod y Beibl yn amlygu gwerth harddwch mewnol mewn cyferbyniad i hynny sydd yn y golwg.(1 Pedr 3:3-6) Mae’r cyferbyniad hwn yn cael ei wneud mewn mannau eraill yn y Beibl.—1 Samuel 16:7; Diarhebion 11:22; 31:30; 1 Timotheus 2:9, 10.

Camsyniad: Fe wnaeth y Frenhines ddrwg Jesebel ddefnyddio colur ar ei llygaid. Mae hyn yn dangos bod gwisgo colur yn ddrwg.​—2 Brenhinoedd 9:30.

Ffaith: Cafodd Jesebel ei barnu oherwydd ei bod yn ddewines ac yn llofrudd, nid oherwydd ei golwg.—2 Brenhinoedd 9:7, 22, 36, 37.

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu