Beth Yw Proffwydoliaeth?
Ateb y Beibl
Mae proffwydoliaeth yn neges sydd wedi ei hysbrydoli gan Dduw. Mae’r Beibl yn dweud bod proffwydi wedi siarad “yr hyn a ddaeth oddi wrth Dduw wrth iddyn nhw gael eu symud gan yr ysbryd glân.” (2 Pedr 1:20, 21) Felly, mae proffwyd yn un sy’n cael neges gan Dduw ac yna’n ei rhannu ag eraill.—Actau 3:18.
Sut roedd proffwydi yn derbyn gwybodaeth gan Dduw?
Roedd Duw yn defnyddio llawer o ffyrdd i drosglwyddo ei feddyliau i’w broffwydi:
Yn ysgrifenedig. Defnyddiodd Duw’r dull hwn o leiaf unwaith drwy ysgrifennu’r Deg Gorchymyn ei hun a’u rhoi nhw i Moses.—Exodus 31:18.
Cyfathrebu ar lafar drwy angylion. Er enghraifft, defnyddiodd Duw angel i ddweud wrth Moses y neges roedd am ei rhoi i Pharo. (Exodus 3:2-4, 10) Pan oedd y geiriau penodol yn bwysig, arweiniodd Duw angylion i drosglwyddo ei neges gair am air, fel y gwnaeth pan ddywedodd wrth Moses: “Dylet ti ysgrifennu’r geiriau hyn, oherwydd rydw i’n gwneud cyfamod â ti ac ag Israel yn unol â’r geiriau hyn.”—Exodus 34:27.a
Gweledigaethau. Roedd y rhain weithiau yn cael eu rhoi pan oedd y proffwyd yn effro ac yn hollol ymwybodol. (Eseia 1:1; Habacuc 1:1, Beibl Cymraeg Diwygiedig) Roedd rhai ohonyn nhw mor glir nes i’r proffwyd gael rhan ynddyn nhw. (Luc 9:28-36; Datguddiad 1:10-17) Ar adegau eraill, cafodd gweledigaethau eu rhoi tra bod yr unigolyn mewn llesmair, heb fod yn hollol ymwybodol. (Actau 10:10, 11; 22:17-21) Roedd Duw hefyd yn trosglwyddo ei neges drwy freuddwydion tra bod y proffwyd yn cysgu.—Daniel 7:1; Actau 16:9, 10.
Drwy arwain meddyliau. Roedd Duw’n arwain meddyliau ei broffwydi i gyfleu ei neges. Dyna ystyr y geiriau hyn o’r Beibl: “Mae’r holl Ysgrythurau wedi cael eu hysbrydoli gan Dduw.” Gall yr ymadrodd “wedi cael eu hysbrydoli gan Dduw” hefyd gael ei gyfieithu “wedi cael eu hanadlu gan Dduw.” (2 Timotheus 3:16) Defnyddiodd Duw ei ysbryd i “anadlu” ei fwriadau i mewn i feddyliau ei weision. Roedd y neges yn dod gan Dduw, ond y proffwyd a oedd yn dewis y geiriau.—2 Samuel 23:1, 2.
A ydy proffwydoliaethau yn wastad yn rhagweld y dyfodol?
Nac ydyn, dydy proffwydoliaethau’r Beibl ddim yn rhagweld y dyfodol yn unig. Er hynny, roedd y rhan fwyaf o negeseuon gan Dduw yn ymwneud â’r dyfodol. Er enghraifft, roedd proffwydi Duw yn rhybuddio’r Israeliaid dro ar ôl tro am eu gweithredoedd drwg. Roedd y rhybuddion hynny yn disgrifio’r bendithion a fyddai’n dod petasen nhw’n ymateb i’r rhybuddion, ond hefyd y canlyniadau drwg petasen nhw’n eu gwrthod. (Jeremeia 25:4-6) Roedd y canlyniad yn dibynnu ar beth roedd yr Israeliaid yn dewis ei wneud.—Deuteronomium 30:19, 20.
Enghreifftiau o broffwydoliaethau’r Beibl nad oedd yn rhagweld y dyfodol
Ar un achlysur pan ofynnodd yr Israeliaid am help gan Dduw, fe anfonodd proffwyd i esbonio nad oedd Ef wedi eu helpu nhw oherwydd eu hanufudd-dod.—Barnwyr 6:6-10.
Pan siaradodd Iesu â dynes o Samaria, fe ddatgelodd pethau am ei gorffennol nad oedd ef yn gallu eu gwybod heb help gan Dduw. Fe wnaeth hi gydnabod ei fod yn broffwyd er nad oedd ef wedi rhagweld y dyfodol o gwbl.—Ioan 4:17-19.
Pan oedd Iesu ar dreial, gwnaeth ei elynion orchuddio ei wyneb, ei daro, ac yna dweud: “Proffwyda! Pwy wnaeth dy daro di?” Doedden nhw ddim yn gofyn i Iesu ragweld y dyfodol, ond i ddefnyddio grym dwyfol i ddweud pwy oedd wedi ei daro.—Luc 22:63, 64.
a Er ei bod hi’n gallu ymddangos bod Duw wedi siarad yn uniongyrchol i Moses yn yr enghraifft hon, mae’r Beibl yn dangos bod Duw wedi defnyddio angylion i drosglwyddo’r Gyfraith iddo.—Actau 7:53; Galatiaid 3:19.