LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • ijwyp erthygl 90
  • Sut Galla’ i Osgoi Meddyliau Negyddol?

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Sut Galla’ i Osgoi Meddyliau Negyddol?
  • Cwestiynau Pobl Ifanc
  • Isbenawdau
  • Erthyglau Tebyg
  • Sut fath o berson wyt ti?
  • Pam mae’n bwysig?
  • Beth elli di ei wneud?
  • Darllen am bethau positif
  • Beth os Dydy Pobl Ddim yn Fy Nerbyn I?
    Cwestiynau Pobl Ifanc
  • Plant a’r Cyfryngau Cymdeithasol—Rhan 2: Dysgu Pobl Ifanc i Fod yn Ddiogel ar y Cyfryngau Cymdeithasol
    Help ar Gyfer y Teulu
  • Paid â Gadael i Feiau Pobl Eraill Dy Faglu Di
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2016
Cwestiynau Pobl Ifanc
ijwyp erthygl 90
Dynes yn meddwl yn negyddol o dan gwmwl du glawiog

CWESTIYNAU POBL IFANC

Sut Galla’ i Osgoi Meddyliau Negyddol?

  • Sut fath o berson wyt ti?

  • Pam mae’n bwysig?

  • Beth elli di ei wneud?

  • Darllen am bethau positif

  • Barn dy gyfoedion

Sut fath o berson wyt ti?

  • Optimistig

    “Dw i’n trio bod mor hapus a bodlon â phosib. Dw i’n ceisio byw fy mywyd efo gwên ar fy wyneb bob diwrnod.”—Valerie.

  • Pesimistig

    “Dw i’n amau unrhyw beth positif ar unwaith—mae’n rhy dda i fod yn wir neu mae ’na gamgymeriad.”—Rebecca.

  • Realistig

    “Mae bod yn optimistig yn arwain at siom, ac mae bod yn besimistig yn ffordd drist o fyw. Mae bod yn realistig yn helpu imi weld pethau fel y maen nhw.”—Anna.

Pam mae’n bwysig?

Mae’r Beibl yn dweud bod “bodlonrwydd fel gwledd ddiddiwedd.” (Diarhebion 15:15) Yn amlwg, mae pobl sy’n osgoi meddyliau negyddol ac sydd ag agwedd bositif tuag at fywyd yn tueddu bod yn hapusach. Fel arfer mae ganddyn nhw fwy o ffrindiau hefyd. Wedi’r cwbl, pwy sydd eisiau treulio amser gyda phobl sydd o dan gwmwl du drwy’r adeg?

Ond, mae’n rhaid i hyd yn oed y bobl fwyaf positif wynebu pethau anodd mewn bywyd. Er enghraifft:

  • Gall y newyddion dy fombardio di gydag adroddiadau o ryfel, terfysgaeth, neu drosedd.

  • Efallai fod rhaid iti ddelio gyda phroblemau yn y teulu.

  • Mae’n debyg dy fod ti’n cystadlu gyda dy amherffeithrwydd neu wendidau dy hun.

  • Efallai fod ffrind wedi dy frifo di.

Yn hytrach nag anwybyddu’r problemau—neu obsesu drostyn nhw nes iti ddigalonni—ceisia fod yn gytbwys. Bydd agwedd realistig yn dy helpu di i beidio â gor-feddwl mewn ffordd negyddol, ac i dderbyn problemau bywyd heb gael dy lethu ganddyn nhw.

Dynes yn meddwl yn bositif wrth i’r glaw stopio

Gelli di ddelio â stormydd bywyd ac, mewn amser, fe ddaw tywydd teg

Beth elli di ei wneud?

  • Cadwa’r agwedd gywir tuag at dy wendidau.

    Mae’r Beibl yn dweud: “Does neb drwy’r byd i gyd mor gyfiawn nes ei fod yn gwneud dim ond da, a byth yn pechu.” (Pregethwr 7:20) Mae’r ffaith bod gen ti wendidau ac yn gwneud camgymeriadau yn dangos dy fod ti’n normal, nid dy fod ti’n fethiant.

    Sut i fod yn realistig: Gweithia ar dy wendidau, ond cofia dwyt ti ddim yn berffaith. “Dwi’n trio peidio â chanolbwyntio ar fy ngwendidau,” meddai dyn ifanc o’r enw Caleb. “Yn lle hynny, dw i’n trio dysgu ohonyn nhw a gweld ym mha ffordd galla’ i wella.”

  • Paid â chymharu.

    Mae’r Beibl yn dweud: “Gadewch i ni beidio bod yn falch, a phryfocio’n gilydd a bod yn eiddigeddus o’n gilydd.” (Galatiaid 5:26) Mae edrych ar luniau o’r holl ddigwyddiadau gest ti ddim gwahoddiad iddyn nhw yn gallu gwneud iti deimlo’n chwerw. Mae’n gallu gwneud iti ystyried dy ffrindiau gorau fel gelynion.

    Sut i fod yn realistig: Derbyn y ffaith nad wyt ti am gael gwahoddiad i bob digwyddiad. A beth bynnag, dydy lluniau ar gyfryngau cymdeithasol ddim yn dangos y darlun cyfan. “Fel arfer, dim ond y pethau cyffrous sy’n cael eu dangos ar gyfryngau cymdeithasol,” meddai Alexis, merch yn ei harddegau. “Dydyn nhw ddim yn dangos y pethau diflas.”

  • Ceisia gadw’r heddwch—yn enwedig yn dy deulu.

    Mae’r Beibl yn dweud: “Gwnewch bopeth allwch chi i fyw mewn heddwch gyda phawb.” (Rhufeiniaid 12:18) Elli di ddim rheoli ymddygiad pobl eraill, ond gelli di reoli dy ymateb. Gelli di ddewis cadw’r heddwch.

    Sut i fod yn realistig: Bydda’n benderfynol o beidio ag ychwanegu at densiwn yn y teulu, ond o fod yn heddychlon fel byddet ti gyda dy ffrindiau. “Does neb yn berffaith, ’dyn ni i gyd am godi gwrychyn ein gilydd bob hyn a hyn,” dywedodd Melinda sydd yn ei harddegau. “’Dyn ni jest angen penderfynu sut ’dyn ni am ymateb—ydyn ni am gadw’r heddwch ta beidio?”

  • Bydda’n ddiolchgar.

    Mae’r Beibl yn dweud: “Byddwch yn ddiolchgar.” (Colosiaid 3:15) Bydd agwedd ddiolchgar yn dy helpu di i ganolbwyntio ar bethau da yn dy fywyd yn hytrach nag ar bopeth sy’n mynd yn chwithig.

    Sut i fod yn realistig: Cydnabod dy broblemau, ond paid ag anwybyddu’r pethau da yn dy fywyd. “Bob diwrnod, dw i’n ysgrifennu un peth positif yn fy nyddiadur,” dywedodd un ddynes ifanc o’r enw Rebecca. “Dw i eisiau atgoffa fy hun bod gen i lawer o bethau positif i feddwl amdanyn nhw ar y cyfan.”

  • Dewisa dy ffrindiau’n ofalus.

    Mae’r Beibl yn dweud: “Mae cwmni drwg yn llygru cymeriad da.” (1 Corinthiaid 15:33) Os wyt ti’n treulio amser gyda phobl sy’n feirniadol, yn sarcastig, neu’n chwerw, bydd eu hagwedd negyddol yn dylanwadu arnat tithau.

    Sut i fod yn realistig: Bydd dy ffrindiau yn wynebu cyfnodau anodd, ac am gyfnod efallai y bydden nhw’n ddigalon. Cefnoga nhw, ond paid â dy golli dy hun yn eu problemau nhw. “Dylen ni beidio â threulio gormod o amser gyda phobl sydd ag agwedd negyddol,” dywedodd un ddynes ifanc o’r enw Michelle. “Ym mathemateg, os wyt ti’n adio dau rif negatif at ei gilydd, ti ond yn cael rhif mwy negatif.”

Darllen am bethau positif

Mae’r Beibl yn dweud ein bod ni’n byw mewn adeg “ofnadwy o anodd.” (2 Timotheus 3:1) Wyt ti’n ei chael hi’n anodd cadw agwedd bositif mewn byd mor negatif? Darllena “Mae’r Beibl yn Rhoi Gobaith Inni”

Barn dy gyfoedion

Emma

“Weithiau, pan dw i’n fy nal fy hun yn meddwl yn negyddol, dwi’n gwneud rhestr o’r pethau da a drwg ynglŷn â’r sefyllfa. Wedyn dw i’n gallu cymryd cam yn ôl ac edrych ar y sefyllfa o safbwynt gwahanol. Fel arfer, mae ’na ochr bositif i sefyllfa sy’n edrych yn negyddol.”—Emma.

Jesse

“Pan dw i’n meddwl yn negyddol, dw i’n edrych am ffordd galla’ i helpu rhywun, neu am rywbeth galla’ i wneud dros eraill. Dywedodd Iesu fod rhoi i eraill yn dod â hapusrwydd, ac mae rhoi yn troi’r fantol yn erbyn y meddyliau negyddol dw i’n delio efo weithiau.”—Jesse.

Adolygu: Sut galla’ i osgoi meddyliau negyddol?

Cadwa’r agwedd gywir tuag at dy wendidau. Gweithia ar dy wendidau, ond cofia dwyt ti ddim yn berffaith.

Paid â chymharu. Paid â’i chymryd yn bersonol os dwyt ti ddim yn cael gwahoddiad i ddigwyddiad.

Ceisia gadw’r heddwch—yn enwedig yn dy deulu. Paid ag ychwanegu at densiynau sydd yna’n barod, gwna dy ran di i gadw’r heddwch.

Bydda’n ddiolchgar. Cydnabod dy broblemau, ond paid ag anwybyddu’r pethau da yn dy fywyd.

Dewisa dy ffrindiau’n ofalus. Treulia amser gyda phobl sydd ddim yn gadael i broblemau bywyd eu llethu.

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu