LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • ijwwd erthygl 10
  • Dannedd y Llygad Maharen

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Dannedd y Llygad Maharen
  • Wedi ei Ddylunio?
Wedi ei Ddylunio?
ijwwd erthygl 10
Llygad Maharen.

WEDI EI DDYLUNIO?

Dannedd y Llygad Maharen

Malwoden forol yw’r Llygad Maharen. Mae ganddi gragen ar ffurf côn a dannedd hynod o gryf. Maen nhw wedi eu gwneud o ffibrau main iawn o fwyn caled o’r enw goethite, wedi’u pacio’n dynn a’u gweu drwy brotein mwy meddal.

Ystyriwch: Mae ysgrafell y llygad maharen, sy’n fath o dafod, yn frith o ddannedd bychain crymion—pob un yn llai na milimetr o hyd—sy’n gweithio fel ffeil. Mae angen i’r dannedd fod yn hynod o gryf a chaled er mwyn crafu algâu oddi ar y graig wrth bori.

Defnyddiodd ymchwilwyr feicrosgop grym atomig i fesur y grym tynnol sydd ei angen i dorri’r dannedd. Fe wnaethon nhw ganfod bod cryfder tynnol dannedd y llygad maharen yn uwch nag unrhyw ddeunydd biolegol arall sydd wedi ei gofnodi—hyd yn oed yn gryfach na sidan pryf copyn. Dywedodd y prif ymchwilydd: “Dylen ni ystyried dilyn yr un egwyddorion yn y pethau rydyn ni’n eu dylunio.”

Mae ymchwilwyr yn credu y byddai deunydd synthetig sy’n debyg i ddannedd y llygad maharen yn ddefnyddiol ar gyfer ceir, cychod, awyrennau, a hyd yn oed gwaith deintyddol.

Beth rydych chi’n ei feddwl? Ai esblygu a wnaeth dannedd rhyfedd y llygad maharen? Neu a gawson nhw eu dylunio?

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu