LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • ijwyp erthygl 81
  • Beth Os Ydw i Wedi Diflasu?

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Beth Os Ydw i Wedi Diflasu?
  • Cwestiynau Pobl Ifanc
  • Isbenawdau
  • Beth ddylet ti ei wybod?
  • Beth elli di ei wneud?
Cwestiynau Pobl Ifanc
ijwyp erthygl 81
Mae gan fachgen yn ei arddegau lawer o ddyfeisiau electronig, ond mae’n gorwedd ar ei wely ac yn syllu ar y nenfwd

CWESTIYNAU POBL IFANC

Beth Os Ydw i Wedi Diflasu?

I rai pobl, does ’na ddim byd gwaeth ’na bod gartref ar bnawn gwlyb gyda dim byd i’w wneud a nunlle i fynd. “Ar adegau felly,” meddai dyn ifanc o’r enw Robert, “mi fydda i jest yn eistedd yna, heb wybod beth i wneud gyda fi fy hun.”

A wyt ti erioed wedi teimlo fel ’na? Os felly, gall yr erthygl hon dy helpu!

  • Beth ddylet ti ei wybod?

  • Beth elli di ei wneud?

  • Barn dy gyfoedion

Beth ddylet ti ei wybod?

  • Efallai na fydd defnyddio technoleg yn helpu.

    Gall syrffio’r We fod yn ffordd o basio’r amser, ond gall hefyd fygu dy ddychymyg ac felly bydd yn cyfrannu at ddiflastod. “Rwyt ti’n cael dy hun yn syllu ar sgrin heb feddwl am unrhyw beth,” meddai Jeremy, 21 oed.

    Mae dynes ifanc o’r enw Elena yn cytuno. “Dim ond hyn a hyn gelli di wneud efo technoleg,” meddai hi. “Mae’n tynnu dy sylw di oddi ar fywyd go iawn, felly pan wyt ti’n rhoi dy ddyfais i lawr, rwyt ti’n diflasu mwy byth ar fywyd!”

  • Mae agwedd yn gwneud gwahaniaeth.

    A fydd cael llawer i’w wneud yn dy gadw di rhag diflasu? Mae hi i gyd yn dibynnu ar faint o ddiddordeb sydd gen ti yn yr hyn rwyt ti’n ei wneud. Er enghraifft, mae dynes ifanc o’r enw Karen yn dweud: “Roedd ysgol yn ddiflas iawn imi, er bod gen i bethau i’w gwneud trwy’r dydd. Mae’n rhaid iti gymryd diddordeb yn y pethau rwyt ti’n eu gwneud er mwyn peidio â diflasu.”

Oeddet ti’n gwybod? Dydy “cael dim byd i’w wneud” ddim yn rhwystr, mae’n gyfle—pridd da lle gall creadigrwydd dyfu.

Mae planhigyn mewn pot yn ymddangos fel bod ganddo gitâr, pen a phapur, a phalet artist yn tyfu allan ohono

Mae amser ar dy ddwylo yn bridd da lle gall creadigrwydd dyfu

Beth elli di ei wneud?

Ehanga dy orwelion. Gwna ffrindiau newydd. Dechreua hobi newydd. Gwna ymchwil ar bynciau newydd. Mae pobl sydd ag amrywiaeth o ddiddordebau yn llai tebygol o ddiflasu pan fyddan nhw ar eu pennau eu hunain—ac yn llai tebygol o fod yn ddiflas yng nghwmni pobl eraill!

Egwyddor o’r Beibl: “Gwna dy orau glas beth bynnag wyt ti’n ei wneud.”—Pregethwr 9:10.

“Wnes i ddechrau dysgu Tsieineeg Mandarin yn ddiweddar, ac mae ymarfer bob dydd wedi gwneud imi sylweddoli fy mod i wedi colli’r math yna o ddysgu. Dw i wrth fy modd yn cael prosiect i weithio arno. Mae’n cadw fy meddwl yn brysur ac yn fy helpu i wneud y defnydd gorau o fy amser.”—Melinda.

Canolbwyntia ar dy nod. Os wyt ti’n gweld pwrpas yn beth wyt ti’n ei wneud, bydd dy ddiddordeb ynddo yn cynyddu. Gall hyd yn oed gwaith ysgol fod yn llai diflas pan wyt ti’n gweld dy nod.

Egwyddor o’r Beibl: “Y peth gorau all rhywun ei wneud ydy . . . mwynhau ei waith.”—Pregethwr 2:24.

“Tuag at ddiwedd fy amser yn yr ysgol, oeddwn i’n astudio wyth awr bob dydd am fy mod i angen dal i fyny. Diflas? Nac oedd, achos o’n i’n benderfynol o fwrw iddi. Wnes i ganolbwyntio ar y prif nod, sef graddio, a gwnaeth hynny fy sbarduno.”—Hannah.

Derbynia’r hyn na elli di ei newid. Mae gan hyd yn oed y pethau mwyaf difyr rai agweddau diflas iddyn nhw. A bydd hyd yn oed y ffrindiau gorau yn canslo cynlluniau weithiau, gan dy adael di heb unrhyw beth i’w wneud. Yn hytrach na gadael i’r sefyllfa dy ddigalonni, ceisia feithrin agwedd bositif.

Egwyddor o’r Beibl: “Mae bodlonrwydd fel gwledd ddiddiwedd.”—Diarhebion 15:15.

“Dywedodd ffrind wrtho i i ddysgu mwynhau fy amser ar fy mhen fy hun. Wnaeth hi ddweud bod dysgu cael cydbwysedd rhwng bod gydag eraill a bod ar dy ben dy hun yn sgil gwerthfawr mewn bywyd y dylai pawb ei feistroli.”—Ivy.

Barn dy gyfoedion

Hannah

“O’n i’n arfer cenfigennu wrth bobl oedd i weld yn byw bywydau mor gyffrous. Yna wnes i sylweddoli eu bod nhw jest yn bobl gyffredin oedd yn gwneud pethau. Felly wnes i ddechrau gwneud pethau. Wnes i ddechrau ambell i hobi a gwneud ymchwil ar bynciau diddorol. Wrth iti ehangu dy wybodaeth o’r byd, rwyt ti’n rhyfeddu mwy arno ac mae’r diflastod yn mynd i ffwrdd.”—Hannah.

Caleb

“Yn fy arddegau cynnar, wnes i geisio cael gwared ar ddiflastod drwy chwarae gemau fideo. Ond wrth imi fynd yn hŷn, des i i’r casgliad fod hynny ddim yn gweithio mewn gwirionedd. Maen nhw’n dy gadw di’n brysur, ond pan wyt ti wedi gorffen does gen ti ddim byd i ddangos amdano. Ges i hyd i ffyrdd gwell o lenwi fy amser.”—Caleb.

Micaela

“O’n i’n arfer teimlo bod fy nyddiau yn hir ac yn ddiflas, ond wnes i ddysgu yn y pen draw os ydw i eisiau i bobl estyn allan i mi, mae’n rhaid i minnau estyn allan iddyn nhw. Wnes i ddechrau gwneud hynny, ac mi helpodd cryn dipyn. Rŵan, dw i’n falch o gael cyfnodau ‘diflas,’ am eu bod nhw mor brin bellach!”—Micaela.

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu