LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • ijwbq erthygl 100
  • Beth Yw’r Anghenfil Ysgarlad yn Datguddiad Pennod 17?

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Beth Yw’r Anghenfil Ysgarlad yn Datguddiad Pennod 17?
  • Atebion i Gwestiynau am y Beibl
  • Isbenawdau
  • Erthyglau Tebyg
  • Ateb y Beibl
  • Datguddiad—Beth Mae’n ei Olygu i Elynion Duw?
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2022
  • Beth Yw’r Bwystfil â Saith Pen yn Datguddiad Pennod 13?
    Atebion i Gwestiynau am y Beibl
Atebion i Gwestiynau am y Beibl
ijwbq erthygl 100
Anghenfil ysgarlad Datguddiad pennod 17

Beth Yw’r Anghenfil Ysgarlad yn Datguddiad Pennod 17?

Ateb y Beibl

Mae’r anghenfil ysgarlad, sy’n cael ei ddisgrifio yn Datguddiad pennod 17, yn symbol o’r gyfundrefn sy’n bwriadu uno a chynrychioli cenhedloedd y byd. Cynghrair y Cenhedloedd oedd hyn i gychwyn, ond heddiw y Cenhedloedd Unedig yw’r gyfundrefn hon.

Sut i adnabod yr anghenfil ysgarlad

  1. Corff gwleidyddol. Mae gan yr anghenfil ysgarlad “saith pen” sy’n cynrychioli “saith bryn” a “saith brenin,” neu lywodraeth sy’n rheoli. (Datguddiad 17:​9, 10) Mae’r Beibl yn defnyddio mynyddoedd neu fryniau, ac angenfilod, i gynrychioli llywodraethau.​—Jeremeia 51:24, 25; Daniel 2:​44, 45; 7:​17, 23.

  2. Tebygrwydd i’r system wleidyddol fyd-eang. Mae’r anghenfil ysgarlad yn debyg i’r anghenfil seithben yn Datguddiad pennod 13, sy’n cynrychioli’r system wleidyddol fyd-eang. Mae gan y ddau anghenfil saith pen, deg corn, ac enwau cableddus. (Datguddiad 13:1; 17:3) Mae’r pethau hyn yn rhy debyg i fod yn gyd-ddigwyddiad. Mae’r anghenfil ysgarlad yn ddelw, neu’n ddarlun, o’r system wleidyddol fyd-eang.​—Datguddiad 13:15.

  3. Grym oddi wrth lywodraethau eraill. Mae’r anghenfil ysgarlad yn deillio o lywodraethau eraill sy’n rheoli.​—Datguddiad 17:11, Beibl Cysegr-lân, 17.

  4. Yn gyswllt â chrefydd. Mae Babilon Fawr, sef holl gau grefyddau’r byd, yn eistedd ar yr anghenfil ysgarlad, sy’n dangos bod grwpiau crefyddol yn dylanwadu ar yr anghenfil.​—Datguddiad 17:​3-5.

  5. Dwyn gwarth ar Dduw. Mae’r anghenfil yn llawn “enwau cableddus.”​—Datguddiad 17:3.

  6. Yn anweithredol am gyfnod. Byddai’r anghenfil ysgarlad yn y “pydew diwaelod,”a neu’n anweithredol, am gyfnod, ond wedyn byddai’n codi eto.​—Datguddiad 17:8.

Proffwydoliaeth y Beibl yn cael ei chyflawni

Ystyriwch sut mae’r Cenhedloedd Unedig, a’i ragflaenydd, Cynghrair y Cenhedloedd, wedi cyflawni proffwydoliaeth y Beibl am yr anghenfil ysgarlad.

  1. Corff gwleidyddol. Mae’r Cenhedloedd Unedig yn cefnogi’r system wleidyddol drwy gadw “ei holl Aelodau yn sofran ac yn gydradd.”b

  2. Tebygrwydd i’r system wleidyddol fyd-eang. Yn 2011, cyrhaeddodd y Cenhedloedd Unedig 193 aelod-wladwriaeth. Felly, mae’n honni cynrychioli’r mwyafrif helaeth o genhedloedd a phobloedd y byd.

  3. Grym oddi wrth lywodraethau eraill. Mae’r Cenhedloedd Unedig yn dibynnu ar ei aelodau, a does ganddo ond y grym a’r awdurdod maen nhw’n eu caniatáu iddo.

  4. Yn gyswllt â chrefydd. Mae Cynghrair y Cenhedloedd a’r Cenhedloedd Unedig ill dau wedi derbyn cefnogaeth gyson gan grefyddau’r byd.c

  5. Dwyn gwarth ar Dduw. Cafodd y Cenhedloedd Unedig ei sefydlu er mwyn “cynnal heddwch a diogelwch rhyngwladol.”d Er bod y nod hwn yn ymddangos yn un canmoladwy, y gwir yw, mae’r CU yn dwyn gwarth ar Dduw drwy honni gwneud yr hyn mae Duw wedi dweud y gall ei Deyrnas ef yn unig ei gyflawni.​—Salm 46:9; Daniel 2:​44.

  6. Yn anweithredol am gyfnod. Doedd Cynghrair y Cenhedloedd, a gafodd ei ffurfio yn fuan ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf i gadw heddwch, ddim yn gallu atal gelyniaeth ryngwladol. Daeth yn anweithredol pan gychwynnodd yr Ail Ryfel Byd ym 1939. Ym 1945, ar ôl i’r Ail Ryfel Byd orffen, cafodd y Cenhedloedd Unedig ei ffurfio. Mae ei fwriadau, ei ddulliau, a’i strwythur yn debyg iawn i rai Cynghrair y Cenhedloedd.

a Yn ôl Vine’s Expository Dictionary of Old and New Testament Words, mae’r gair Groeg sy’n cael ei gyfieithu “pydew diwaelod” yn disgrifio “dyfnder na ellir ei fesur.” Yn y Beibl, mae’n cyfeirio at le neu gyflwr o gaethiwed ac anweithrededd llwyr.

b Gweler Erthygl 2 Siarter y Cenhedloedd Unedig.

c Er enghraifft, ym 1918, cyhoeddodd un cyngor oedd yn cynrychioli dwsinau o enwadau Protestannaidd yn America y byddai’r Gynghrair yn “fynegiant gwleidyddol o Deyrnas Dduw ar y ddaear.” Ym 1965, daeth cynrychiolwyr Bwdaeth, Catholigiaeth, Uniongred y Dwyrain, Hindŵaeth, Islam, Iddewiaeth, a Phrotestaniaeth at ei gilydd yn San Francisco i gefnogi’r Cenhedloedd Unedig a gweddïo drostyn nhw. Ac ym 1979, mynegodd y Pab John Paul II ei obaith y byddai’r CU “yn parhau fel prif fforwm heddwch a chyfiawnder am byth.”

d Gweler Erthygl 1 Siarter y Cenhedloedd Unedig.

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu