LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • sgd tt. 34-35
  • 5 Neges y Beibl

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • 5 Neges y Beibl
  • Cymorth i Astudio Gair Duw
  • Isbenawdau
  • Ar ôl 4026 COG
  • 1943 COG
  • Ar ôl 1070 COG
  • 29 OG
  • 33 OG
  • Tua 1914 OG
  • Dyfodol
Cymorth i Astudio Gair Duw
sgd tt. 34-35

5

Neges y Beibl

Fersiwn Printiedig

Mae gan Jehofa Dduw yr hawl i reoli. Ei ffordd Ef o reoli yw’r ffordd orau. Bydd Ei fwriad ar gyfer y ddaear a dynolryw yn cael ei gyflawni.

Adda ac Efa yng Ngardd Eden gyda sarff gerllaw

Ar ôl 4026 COG

Mae’r “sarff” yn cwestiynu hawl Jehofa i reoli a’i ffordd o reoli. Mae Jehofa yn addo gosod “had” a fydd, yn y pen draw, yn ysigo’r sarff, Satan. (Genesis 3:1-5, 15) Ond, mae Jehofa yn caniatáu amser i ddynolryw reoli drosto’i hun o dan ddylanwad y sarff.

Abraham yn clywed addewid Duw

1943 COG

Mae Jehofa yn dweud wrth Abraham y bydd yr “had” addawedig yn un o’i ddisgynyddion.​—Genesis 22:18.

Brenin Dafydd

Ar ôl 1070 COG

Mae Jehofa yn sicrhau Brenin Dafydd, a’i fab Solomon yn nes ymlaen, y bydd yr had yn dod drwy eu llinach nhw.—2 Samuel 7:12, 16; 1 Brenhinoedd 9:3-5; Eseia 9:6, 7.

Iesu ar adeg ei fedydd

29 OG

Mae Jehofa yn dweud bod Iesu yn Etifedd gorsedd Dafydd, yr “had” addawedig.​—Galatiaid 3:16; Luc 1:31-33; 3:21, 22.

Iesu ar adeg ei farwolaeth

33 OG

Mae’r sarff Satan yn ysigo’r “had” addawedig am gyfnod byr, drwy gynllwynio i Iesu gael ei ladd. Mae Jehofa yn atgyfodi Iesu i fywyd yn y nefoedd ac yn derbyn gwerth ei fywyd perffaith. Mae hyn yn rhoi sail i faddau pechodau ac i roi bywyd tragwyddol i ddisgynyddion Adda.​—Genesis 3:15; Actau 2:32-36; 1 Corinthiaid 15:21, 22.

Y sarff, Satan, yn cael ei fwrw i’r ddaear yn ôl yr addewid yn Datguddiad

Tua 1914 OG

Mae Iesu’n bwrw’r sarff, Satan, i’r ddaear, ac yn ei gyfyngu yno.​—Datguddiad 12:7-9, 12.

Iesu yn rheoli dros y ddaear o’i orsedd nefol fel yr addawyd yn Datguddiad

Dyfodol

Mae Iesu’n caethiwo Satan am 1,000 o flynyddoedd, ac yna, mewn ffordd symbolaidd yn sathru pen Satan. Mae bwriad gwreiddiol Jehofa ar gyfer y ddaear a dynolryw yn cael ei gyflawni. Mae ei enw’n cael ei sancteiddio, a’i ffordd o reoli yn cael ei chyfiawnhau.​—Datguddiad 20:1-3, 10; 21:3, 4.

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu