LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • ijwex erthygl 13
  • Roedden Nhw’n Gwisgo Triongl Porffor

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Roedden Nhw’n Gwisgo Triongl Porffor
  • Profiadau Tystion Jehofa
  • Erthyglau Tebyg
  • Beth Ddigwyddodd i Dystion Jehofa Adeg yr Holocost?
    Cwestiynau Cyffredin am Dystion Jehofa
Profiadau Tystion Jehofa
ijwex erthygl 13
Dillad streipiog yn dangos y triongl porffor a rhif y carcharor a ddefnyddiwyd i adnabod Tystion Jehofa yng ngwersylloedd crynhoi’r Natsïaid.

Roedden Nhw’n Gwisgo Triongl Porffor

Mae Maud yn byw yn Ffrainc ac yn gweithio mewn ysgol yn helpu plant anabl yn y dosbarthiadau. Yn ddiweddar, roedd y disgyblion mewn un dosbarth yn dysgu am yr Holocost a gwersylloedd crynhoi’r Natsïaid. Roedd carcharorion yn gorfod gwisgo darn o ddefnydd wedi ei wnïo ar eu dillad. Roedd lliw a siâp y bathodyn yn dangos pam roedd y person yn y carchar.

Cyfeiriodd un o’r athrawon at y triongl porffor ar ddillad rhai o’r carcharorion, gan ddweud: “Dw i’n meddwl bod y bobl hynny’n hoyw.” Ar ôl y wers, siaradodd Maud â’r athro ac esbonio bod y Natsïaid yn rhoi trionglau porffor i Dystion Jehofa.a Cynigiodd hi fwy o wybodaeth iddo ar y pwnc. Derbyniodd yr athro gynnig Maud a gofynnodd iddi rannu’r wybodaeth â’r disgyblion.

Mewn dosbarth arall ar yr un pwnc, dangosodd athrawes siart yn rhestru’r gwahanol fathodynnau a wisgwyd gan y carcharorion. Roedd y siart yn dangos mai Tystion Jehofa oedd yn gwisgo’r triongl porffor. Ar ôl y wers, cynigiodd Maud ddod â mwy o wybodaeth i’r athrawes. Cytunodd yr athrawes a threfnodd i Maud siarad â’r dosbarth.

Maud gyda’r tri chyhoeddiad a ddefnyddiodd.

Maud gyda’r cyhoeddiadau a ddefnyddiodd

Fe wnaeth Maud baratoi cyflwyniad pymtheg munud ar gyfer y dosbarth cyntaf, ond ar y diwrnod, dywedodd yr athro: “Cei di siarad am yr awr gyfan.” Yn gyntaf, dangosodd Maud fideo dogfennol am erledigaeth Tystion Jehofa gan y Natsïaid. Pan gyrhaeddon nhw’r rhan yn y fideo sy’n dweud bod y Natsïaid wedi cymryd 800 o blant y Tystion oddi ar eu rhieni, fe wnaeth Maud rewi’r fideo a darllen profiadau tri o’r plant hynny. Ar ddiwedd y fideo, darllenodd Maud lythyr ffarwelio a ysgrifennwyd ym 1940 gan dyst ifanc o Awstria. Roedd Gerhard Steinacher yn 19 oed, ac ysgrifennodd y llythyr at ei rieni ychydig o oriau cyn iddo gael ei ddienyddio gan y Natsïaid.b

Rhoddodd Maud gyflwyniad tebyg i’r ail ddosbarth. Diolch i ddewrder Maud, mae’r ddau athro bellach yn sicrhau eu bod nhw’n sôn am Dystion Jehofa yn eu gwersi am y rhai a oedd yn dioddef yng ngwersylloedd crynhoi’r Natsïaid.

a Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, cafodd Tystion Jehofa yn yr Almaen, a elwid hefyd yn Bibelforscher (Myfyrwyr y Beibl), eu carcharu am iddyn nhw wrthod cefnogi’r Natsïaid.

b Dedfrydwyd Gerhard Steinacher i farwolaeth am wrthod ymuno â’r fyddin yn yr Almaen. Yn ei lythyr olaf, ysgrifennodd: “Rydw i’n dal yn blentyn. Ni allaf sefyll, oni bai bod yr Arglwydd yn rhoi nerth imi, a dyna rydw i’n ei ofyn ganddo.” Drannoeth, cafodd Gerhard Steinacher ei ddienyddio. Mae ei feddargraff yn dweud: “Bu farw er clod i Dduw.”

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu