CÂN 150
Trowch at Dduw am Waredigaeth
(Seffaneia 2:3)
1. Uno yn fyddin fawr
Y mae’r holl frenhinoedd nawr,
Yn erbyn Duw, yn erbyn Crist,
Yn herio’u gallu a’u hawl.
Tewir eu brolio gwag—
Eu dryllio yn ddarnau mân
Wna Iesu Grist, Brenin Teyrnas Dduw,
A’u malu ar faes y gad.
(CYTGAN)
Am waredigaeth, trowch at Dduw.
Rhowch hyder ynddo—grymus yw.
Ceisiwch Dduw’n ddi-baid,
Safwch nawr o’i blaid,
Hwn sydd rhaid—mae dydd Duw gerllaw.
Yn bendant, eich gwaredu wna
Â’i alluog law.
2. Dewis o flaen pawb sydd,
Mae gan bawb ewyllys rhydd.
Cânt wrthod gwrando ar Air Duw,
Neu’n wylaidd, cânt feithrin ffydd.
Aml dreialon ddaw,
Ond ni ildiwn byth i’r braw.
Diogel yw llwybrau cyfiawn Duw,
A llwyddo wnawn o dan brawf.
(CYTGAN)
Am waredigaeth, trowch at Dduw.
Rhowch hyder ynddo—grymus yw.
Ceisiwch Dduw’n ddi-baid,
Safwch nawr o’i blaid,
Hwn sydd rhaid—mae dydd Duw gerllaw.
Yn bendant, eich gwaredu wna
Â’i alluog law.
(Gweler hefyd 1 Sam. 2:9; Salm 2:2, 3, 9; Diar. 2:8; Math. 6:33.)