Jehofa
Ei enw
Rydyn ni’n deall mai ystyr enw Jehofa ydy “Mae Ef yn Achosi i Fod”
Ge 1:1; Ex 3:13-15; Sal 102:25; Esei 42:5
Sut mae Jehofa’n cyflawni ystyr ei enw yn y ffordd mae’n gofalu am ei weision?
Sal 19:14; 68:5; Esei 33:22; 40:11; 2Co 1:3, 4
Gweler hefyd Sal 118:14; Esei 30:20; Jer 3:14; Sech 2:5
Pam mae sancteiddio enw Duw yn hollbwysig?
Sal 83:18; Esei 29:23; Esec 36:23; Lc 11:2
Pam mae Jehofa, Sofran y Bydysawd, yn haeddu ein hufudd-dod?
Rhai o deitlau Jehofa
Addysgwr Mawr—Esei 30:20
Brenin tragwyddoldeb —1Ti 1:17; Dat 15:3
Duw Goruchaf—Ge 14:18-22; Sal 7:17
Jehofa y lluoedd —1Sa 1:11
Mawrhydi—Heb 1:3; 8:1
Sofran Arglwydd—Esei 25:8; Am 3:7
Tad—Mth 6:9; In 5:21
Y Graig—De 32:4; Esei 26:4
Yr Hollalluog—Ge 17:1; Dat 19:6
Rhai o rinweddau arbennig Jehofa
Sut mae Jehofa’n pwysleisio ei fod yn sanctaidd, a sut dylai hynny effeithio ar ei weision?
Ex 28:36; Le 19:2; 2Co 7:1; 1Pe 1:13-16
Hanesion perthnasol o’r Beibl:
Esei 6:1-8—Roedd y proffwyd Eseia wedi ei lethu ar ôl gweld sancteiddrwydd Jehofa mewn gweledigaeth, ond dangosodd angel iddo ei bod hi’n bosib i bobl amherffaith fod yn bur yng ngolwg Duw
Rhu 6:12-23; 12:1, 2—Esboniodd yr apostol Paul sut gallwn ni frwydro yn erbyn ein tueddiadau pechadurus a ‘gwneud yr hyn sy’n sanctaidd’
Pa mor bwerus ydy Jehofa, a sut mae’n dangos ei bŵer?
Ex 15:3-6; 2Cr 16:9; Esei 40:22, 25, 26, 28-31
Hanesion perthnasol o’r Beibl:
De 8:12-18—Gwnaeth y proffwyd Moses atgoffa’r bobl bod Jehofa wedi defnyddio ei bŵer i’w bendithio nhw ac i roi pob peth da iddyn nhw
1Br 19:9-14—Fe wnaeth Jehofa godi calon ei broffwyd Elias pan oedd yn teimlo’n isel drwy ddangos iddo Ei bŵer anhygoel
Pam gallwn ni drystio cyfiawnder Jehofa yn llwyr?
De 32:4; Job 34:10; 37:23; Sal 37:28; Esei 33:22
Hanesion perthnasol o’r Beibl:
De 24:16-22—Yng Nghyfraith Moses, dangosodd Jehofa ei fod yn wastad yn gyfiawn, yn gariadus, ac yn drugarog
2Cr 19:4-7—Gwnaeth y Brenin Jehosaffat atgoffa’r barnwyr y dylen nhw farnu ar sail cyfiawnder Jehofa, nid cyfiawnder unrhyw ddyn
Beth sy’n datgelu doethineb godidog Jehofa?
Sal 104:24; Dia 2:1-8; Jer 10:12; Rhu 11:33; 16:27
Gweler hefyd Sal 139:14; Jer 17:10
Hanesion perthnasol o’r Beibl:
1Br 4:29-34—Rhoddodd Jehofa fwy o ddoethineb i’r Brenin Solomon na neb arall ar y ddaear bryd hynny
Lc 11:31; In 7:14-18—Mae Iesu’n llawer mwy doeth na Solomon, ond roedd yn cydnabod Ffynhonnell ei ddoethineb yn ostyngedig
Sut mae Jehofa’n dangos mai cariad yw ei brif rinwedd?
In 3:16; Rhu 8:32; 1In 4:8-10, 19
Gweler hefyd Seff 3:17; In 3:35
Hanesion perthnasol o’r Beibl:
Mth 10:29-31—Gan ddefnyddio eglureb am aderyn y to, dangosodd Iesu gymaint mae Jehofa’n caru ac yn gwerthfawrogi pob un o’i weision
Mc 1:9-11—Siaradodd Jehofa o’r nefoedd â’i Fab, gan roi iddo’r hyn sydd ei angen ar bob plentyn—cydnabyddiaeth, cariad, a chymeradwyaeth
Am ba resymau eraill rydyn ni’n caru Jehofa? Mae’r Beibl yn sôn am lawer o rinweddau Jehofa, er enghraifft, mae’n . . .
Amyneddgar—Esei 30:18; 2Pe 3:9
Anrhydeddus—Dat 4:1-6
Caredig—Lc 6:35; Rhu 2:4
Cyfiawn—Sal 7:9
Dibynadwy; cyson—Mal 3:6; Iag 1:17
Ffyddlon—Dat 15:4
Godidog—Sal 8:1; 148:13
Gostyngedig—Sal 18:35
Gweld popeth—2Cr 16:9; Dia 15:3
Hael—Sal 104:13-15; 145:16
Hapus—1Ti 1:11
Heddychlon—Php 4:9
Tosturiol—Esei 49:15; 63:9; Sech 2:8
Tragwyddol; heb ddechrau na diwedd—Sal 90:2; 93:2
Trugarog—Ex 34:6
Sut byddwn ni’n teimlo am Jehofa wrth inni nesáu ato?
De 6:4, 5; Mc 12:28-32
Sut gallwn ni wasanaethu Jehofa?
Beth sy’n dangos nad ydy Jehofa eisiau i’w weision wneud gormod?
De 10:12; Mich 6:8; 1In 5:3
Hanesion perthnasol o’r Beibl:
De 30:11-14—Doedd Cyfraith Moses ddim yn rhy anodd i’r Israeliaid ei dilyn
Mth 11:28-30—Gwnaeth Iesu, sy’n adlewyrchu ei Dad yn berffaith, ddweud wrth ei ddilynwyr ei fod yn Feistr caredig
Pam mae Jehofa’n haeddu ein clod?
Sal 105:1, 2; Esei 43:10-12, 21
Gweler hefyd Jer 20:9; Lc 6:45; Act 4:19, 20
Hanesion perthnasol o’r Beibl:
Sal 104:1, 2, 10-20, 33, 34—Yn y greadigaeth, gwelodd y salmydd ddigon o resymau dros glodfori Jehofa
Sal 148:1-14—Mae holl greadigaeth Jehofa, gan gynnwys yr angylion, yn ei anrhydeddu, felly dylen ninnau hefyd
Sut gall ein hymddygiad achosi i eraill anrhydeddu Jehofa?
Pam dylen ni nesáu at Jehofa?
Sal 73:28; Iag 4:8
Pam mae’n rhaid inni fod yn ostyngedig er mwyn nesáu at Dduw?
Sal 138:6; Esei 57:15
Pam mae’n rhaid inni ddarllen y Beibl a myfyrio arno er mwyn nesáu at Jehofa?
Sal 1:1-3; 77:11-13; Mal 3:16
Pam mae’n rhaid inni roi ar waith yr hyn rydyn ni’n ei ddysgu am Jehofa?
Pam na ddylen ni byth geisio cuddio rhywbeth oddi wrth Jehofa?
Job 34:22; Dia 28:13; Jer 23:24; 1Ti 5:24, 25
Hanesion perthnasol o’r Beibl:
2Br 5:20-27—Ceisiodd Gehasi guddio ei bechod, ond dangosodd Jehofa y gwir i’w broffwyd Eliseus
Act 5:1-11—Cafodd Ananias a Saffeira eu dal a’u cosbi am ddweud celwydd wrth yr ysbryd glân