LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • ijwbq erthygl 26
  • Os Gweddïaf ar Dduw a Fydd Ef yn Fy Helpu?

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Os Gweddïaf ar Dduw a Fydd Ef yn Fy Helpu?
  • Atebion i Gwestiynau am y Beibl
  • Isbenawdau
  • Erthyglau Tebyg
  • Ateb y Beibl
  • Ydy Jehofa yn Gwrando Arnon Ni?
    Gwrando ar Dduw a Byw am Byth
  • Ydy Duw yn Gwrando ar Ein Gweddïau?
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Teyrnas Jehofa (Cyhoeddus)—2021
  • Nesáu at Dduw mewn Gweddi
    Beth Mae Duw yn ei Ofyn Gennym Ni?
  • Y Fraint o Weddïo
    Beth Allwn Ni ei Ddysgu o’r Beibl?
Gweld Mwy
Atebion i Gwestiynau am y Beibl
ijwbq erthygl 26

Os Gweddïaf ar Dduw a Fydd Ef yn Fy Helpu?

Ateb y Beibl

Bydd, mae Duw yn helpu’r rhai sy’n gwir ofyn am bethau sydd yn unol â’i ewyllys. Hyd yn oed os ydych chi erioed wedi gweddïo o’r blaen, gall esiamplau rhai o’r Beibl a weddïodd, “Duw, helpa fi,” eich calonogi chi. Er enghraifft:

  • “Helpa fi, O ARGLWYDD, fy Nuw; achub fi am fod dy gariad mor ffyddlon.”—Salm 109:26.

  • “Dw i mewn angen ac yn ddiamddiffyn; O Dduw, brysia ata i!”—Salm 70:5.

Wrth gwrs, roedd gan ysgrifennydd y geiriau hynny ffydd gref yn Nuw. Ond eto, mae Duw yn gwrando ar bawb sy’n dod ato gyda’r agwedd gywir, fel “y rhai sydd wedi torri eu calonnau” neu “sydd wedi anobeithio.”—Salm 34:18.

Does dim rhaid i chi boeni bod Duw mor bell i ffwrdd nad oes ganddo unrhyw ddiddordeb yn eich problemau. Mae’r Beibl yn dweud: “Er bod yr ARGLWYDD mor fawr, mae’n gofalu am y gwylaidd; ac mae’n gwybod o bell am y balch.” (Salm 138:6) Yn wir, dywedodd Iesu wrth ei ddisgyblion un tro: “Mae Duw hyd yn oed wedi cyfri gwallt eich pen chi!” (Mathew 10:30) Mae Duw yn gweld pethau amdanoch chi nad ydych chi wedi sylwi eich hun. Gymaint mwy, felly, bydd ef yn gwrando os gweddïwch am ei help gyda’ch pryderon!—1Pedr 5:7.

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu