LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • ijwyp erthygl 99
  • Sut Galla i Hyfforddi Fy Nghydwybod?

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Sut Galla i Hyfforddi Fy Nghydwybod?
  • Cwestiynau Pobl Ifanc
  • Isbenawdau
  • Erthyglau Tebyg
  • Beth yw’r gydwybod?
  • Pam hyfforddi dy gydwybod?
  • Sut gelli di hyfforddi dy gydwybod?
  • Sut Mae Cadw Cydwybod Lân?
    “Cadwch Eich Hunain yng Nghariad Duw”
  • Gad i Gyfreithiau ac Egwyddorion Duw Hyfforddi Dy Gydwybod
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2018
Cwestiynau Pobl Ifanc
ijwyp erthygl 99
Bachgen yn ei arddegau yn gwneud penderfyniad. Mae ’na saethau y tu ôl iddo sy’n cynrychioli da a drwg.

CWESTIYNAU POBL IFANC

Sut Galla i Hyfforddi Fy Nghydwybod?

Pa un o’r canlynol gall dy gydwybod fod yn debyg iddo?

  • cwmpawd

  • drych

  • ffrind

  • barnwr

Yr ateb cywir yw pob un. Bydd yr erthygl hon yn esbonio pam.

  • Beth yw’r gydwybod?

  • Pam hyfforddi dy gydwybod?

  • Sut gelli di hyfforddi dy gydwybod?

  • Barn dy gyfoedion

Beth yw’r gydwybod?

Dy gydwybod yw’r teimlad tu mewn o beth sy’n dda neu’n ddrwg. Mae’r Beibl yn dweud ei bod hi fel cyfraith sydd wedi ei hysgrifennu ar y galon. (Rhufeiniaid 2:15) Mae cydwybod dda yn dy helpu di i bwyso a mesur rhywbeth rwyt ti ar fin ei wneud, neu rwyt ti eisoes wedi ei wneud.

  • Mae dy gydwybod fel cwmpawd. Mae’n dy arwain di yn y cyfeiriad iawn er mwyn iti allu osgoi trwbwl.

  • Mae dy gydwybod fel drych. Mae’n adlewyrchu dy foesau, ac yn datgelu sut berson wyt ti ar y tu mewn.

  • Mae dy gydwybod fel ffrind da. Gall roi cyngor da iti a dy helpu di i lwyddo—os wyt ti’n gwrando arni.

  • Mae dy gydwybod fel barnwr. Mae’n dy gyhuddo di pan wyt ti’n gwneud rhywbeth drwg.

Bachgen yn ei arddegau mewn siop gemau fideo yn penderfynu pa gêm y dylai ei dewis.

Gall cydwybod dda dy helpu i wneud penderfyniadau doeth

Y gwir yw: Mae dy gydwybod yn adnodd angenrheidiol sy’n gallu dy helpu i (1) gwneud penderfyniadau da a (2) dangos dy fod ti’n difaru ac eisiau gwneud yn iawn am dy gamgymeriadau.

Pam hyfforddi dy gydwybod?

Mae’r Beibl yn dweud, ‘cadw eich cydwybod yn lân.’ (1 Pedr 3:16, Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig) Mae hynny’n anodd ei wneud os nad wyt ti wedi hyfforddi dy gydwybod.

“Byddwn i’n dweud celwyddau wrth fy rhieni am le o’n i, ac yn ei gadw’n gyfrinach. I gychwyn oedd fy nghydwybod yn fy mhigo, ond dros amser o’n i’n teimlo doedd dim byd o’i le efo beth o’n i’n ei wneud.”—Jennifer.

Yn y pen draw, gwnaeth cydwybod Jennifer wneud iddi stopio twyllo ei rhieni a dweud wrthyn nhw beth oedd yn mynd ymlaen.

Rhywbeth i’w ystyried: Ar ba adeg gynharach gallai cydwybod Jennifer fod wedi ei phigo?

“Mae arwain bywyd dwbl yn anodd ac yn achosi lot o straen. Unwaith mae dy gydwybod wedi caniatáu iti wneud un penderfyniad drwg, mae’n haws iti wneud penderfyniad drwg arall.”—Matthew.

Mae rhai pobl yn anwybyddu eu cydwybod yn gyfan gwbl. Mae’r Beibl yn dweud, “does dim byd yn codi cywilydd arnyn nhw.” (Effesiaid 4:19) Neu yn ôl cyfieithiad J. Williams Hughes, maen nhw “wedi colli pob gallu i gywilyddio am fod yn euog.”

Rhywbeth i’w ystyried: Pan nad ydy pobl yn teimlo’n euog am wneud pethau drwg, ydyn nhw’n wir yn hapusach eu byd? Pa broblemau byddan nhw’n debyg o ddod ar eu traws?

Y gwir yw: Er mwyn iti gael cydwybod dda, mae’n rhaid “dod i arfer gwahaniaethu rhwng y drwg a’r da.”—Hebreaid 5:14.

Sut gelli di hyfforddi dy gydwybod?

Er mwyn hyfforddi dy gydwybod, mae angen safon i anelu ato. Mae rhai pobl yn dilyn safonau . . .

  • teulu a diwylliant

  • cyfoedion

  • pobl enwog

Ond mae safon y Beibl yn llawer gwell na’r rhain i gyd. Dydy hynny ddim yn syndod gan mai “Duw sydd wedi ysbrydoli’r” Beibl, yr Un sydd wedi ein creu ni ac sy’n gwybod beth sydd orau inni.—2 Timotheus 3:16.

Ystyria rhai enghreifftiau.

Y SAFON: “Byw yn onest ym mhob peth.”—Hebreaid 13:18, Beibl Cysegr-lân.

  • Sut gall y safon honno effeithio ar dy gydwybod pan gei di dy demtio i dwyllo ar brawf, i ddweud celwyddau wrth dy rieni, neu i ddwyn?

  • Os ydy dy gydwybod yn dy gymell i fod yn onest ym mhob peth, sut rwyt ti’n meddwl y byddi di’n elwa nawr ac yn y dyfodol?

Y SAFON: “Gwnewch bopeth allwch chi i osgoi anfoesoldeb rhywiol.”—1 Corinthiaid 6:18.

  • Sut gall y safon honno effeithio ar dy gydwybod pan gei di dy demtio i edrych ar bornograffi neu i gael rhyw cyn priodi?

  • Os ydy dy gydwybod yn dy gymell i wneud popeth gelli di i osgoi anfoesoldeb rhywiol, sut byddi di’n elwa nawr ac yn y dyfodol?

Y SAFON: “Eich lle chi ydy bod yn garedig, yn dyner gyda’ch gilydd, a maddau i’ch gilydd.”—Effesiaid 4:32.

  • Sut gall y safon honno ddylanwadu arnat ti pan fyddi di’n anghytuno â rhywun yn y teulu neu ffrind?

  • Os ydy dy gydwybod yn dy gymell i fod yn drugarog ac yn garedig, sut byddi di’n elwa nawr ac yn y dyfodol?

Y SAFON: “Mae’r ARGLWYDD yn . . . casáu y rhai drwg a’r rhai sy’n hoffi trais.”—Salm 11:5.

  • Sut dylai’r safon honno ddylanwadu ar dy ddewis o ffilmiau, rhaglenni teledu, a gemau fideo?

  • Os ydy dy gydwybod yn dy gymell i wrthod adloniant treisgar, sut byddi di’n elwa nawr ac yn y dyfodol?

STORI WIR: “Mae gen i ffrindiau oedd yn chwarae gemau fideo treisgar, ac o’n innau hefyd. Wedyn, dyma fy nhad yn dweud doeddwn i ddim yn cael chwarae’r gemau hynny ddim mwy. Felly oeddwn i ond yn chwarae nhw pan oeddwn i’n mynd i weld fy ffrindiau. O’n i’n cadw’n ddistaw am y peth ar ôl mynd adref. Byddai Dad yn gofyn beth sy’n bod arna i, a byddwn i’n dweud bod popeth yn iawn. Ond, un diwrnod, wnes i ddarllen Salm 11:5 a dechrau teimlo’n ddrwg am beth o’n i’n ei wneud. Sylweddolais fod rhaid imi stopio chwarae’r gemau fideo hynny. A’r tro yma, mi wnes i. O weld fy esiampl, cafodd un o fy ffrindiau hefyd ei gymell i stopio chwarae gemau fideo treisgar.”—Jeremy.

Rhywbeth i’w ystyried: Pryd wnaeth cydwybod Jeremy ddechrau gweithio, a phryd wnaeth ef ddechrau gwrando arni? Beth rwyt ti’n ei ddysgu o stori Jeremy?

Y gwir yw: Mae dy gydwybod yn dangos pwy wyt ti a beth sy’n bwysig iti. Beth mae dy gydwybod yn ei ddweud amdanat ti?

Barn dy gyfoedion

Alexis.

“Hyd yn oed os ydy ein cydwybod yn gwybod beth sy’n dda neu’n ddrwg, dydy hynny ddim yn golygu byddwn ni’n gwneud y peth iawn. Os ydy cwmpawd yn gweithio’n iawn ac yn dangos pa ffordd dylet ti fynd, rwyt ti dal angen penderfynu dilyn ei arweiniad.”—Alexis.

Lionel.

“Dydy’r gydwybod ddim yn ffens sy’n dy gau di i mewn. Yn hytrach, mae’n ffordd sy’n dy arwain di i le rwyt ti angen mynd. Mae dy gydwybod yn dy rybuddio er mwyn dy amddiffyn rhag peryglon moesol y gelli di ddod ar eu traws.”—Lionel.

Isabella.

“Dw i wedi dysgu i beidio â gwneud penderfyniadau ar sail cydwybod rhywun arall. Dw i wedi hyfforddi fy nghydwybod, felly dylwn i beidio ag anwybyddu sut dw i’n teimlo am wneud rhywbeth. Ddylwn i ddim newid fy safonau jest er mwyn cael fy nerbyn gan rywun arall.”—Isabella.

Adolygu: Sut galla i hyfforddi fy nghydwybod?

  • Ystyria werth uchel safonau’r Beibl. Cafodd y Beibl ei ysbrydoli gan Dduw, yr un a’n creodd ni ac sy’n gwybod beth sydd orau inni.

  • Cymhara dy gydwybod â safonau’r Beibl. Ym mha ffyrdd gelli dy dyfu fel dy fod ti’n gweld pethau o safbwynt Duw?

  • Cadwa at safonau’r Beibl. Gad i’r hyn rwyt ti’n ei wybod am safonau’r Beibl ddylanwadu ar dy benderfyniadau bob dydd.

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu