Beth Yw Bedydd?
Ateb y Beibl
I gael ei fedyddio, mae’n rhaid i rywun gael ei drochi’n llwyr mewn dŵr.a Mae’r Beibl yn sôn am lawer o bobl a gafodd eu bedyddio. (Actau 2:41) Er enghraifft, cafodd Iesu ei fedyddio yn yr Iorddonen. (Mathew 3:13, 16) Flynyddoedd yn ddiweddarach, cafodd dyn o Ethiopia ei fedyddio mewn dŵr wrth ymyl y ffordd rhwng Jerwsalem a Gasa.—Actau 8:36-40.
Dysgodd Iesu fod yn rhaid i’w ddilynwyr gael eu bedyddio. (Mathew 28:19, 20) Dywedodd yr apostol Pedr yr un peth.—1 Pedr 3:21.
Yn yr erthygl hon
Beth mae bedydd yn ei olygu?
Mae rhywun sy’n cael ei fedyddio yn dangos yn gyhoeddus ei fod wedi edifarhau am ei bechodau ac wedi addo gwneud ewyllys Duw yn ddiamod. Mae hynny’n cynnwys bod yn ufudd i Dduw ac i Iesu ym mhob agwedd ar fywyd. Mae pobl sy’n cael eu bedyddio yn cychwyn ar y ffordd i fywyd tragwyddol.
Mae cael ei drochi mewn dŵr yn symbol addas iawn ar gyfer y newid mae rhywun wedi ei wneud yn ei fywyd. Ym mha ffordd? Mae’r Beibl yn cymharu bedydd â chladdu. (Rhufeiniaid 6:4; Colosiaid 2:12) Drwy fynd o dan y dŵr, mae rhywun yn dangos ei fod wedi marw, fel petai, o ran y ffordd roedd yn arfer byw. Drwy godi o’r dŵr, mae fel petai’n dechrau bywyd newydd fel Cristion.
Beth mae’r Beibl yn ei ddweud am fedyddio plant bach?
Nid yw’r Beibl yn dweud y dylai babanod gael eu bedyddio. Yn wir, mae bedyddio babanod yn mynd yn groes i ddysgeidiaeth yr Ysgrythurau.
Mae’r Beibl yn sôn am sawl peth penodol y mae angen i’r rhai sydd eisiau cael eu bedyddio eu gwneud. Er enghraifft, mae’n rhaid iddyn nhw ddeall o leiaf ddysgeidiaethau sylfaenol Gair Duw a’u dilyn yn eu bywydau. Fe fyddan nhw wedi edifarhau am eu pechodau a chysegru eu bywydau i Dduw mewn gweddi. (Actau 2:38, 41; 8:12) Nid yw’n bosib i fabanod gymryd y camau hyn.
Beth mae cael eich bedyddio yn enw’r Tad, y Mab a’r ysbryd glân yn ei olygu?
Dywedodd Iesu y dylai ei ddilynwyr wneud disgyblion, “gan eu bedyddio nhw yn enw’r Tad a’r Mab a’r ysbryd glân, a’u dysgu nhw i gadw’r holl bethau rydw i wedi eu gorchymyn i chi.” (Mathew 28:19, 20) Pan fydd rhywun yn cael ei fedyddio “yn enw’r Tad, y Mab a’r ysbryd glân,” mae’n golygu ei fod yn deall pwy yw’r Tad a’r Mab ac yn derbyn eu hawdurdod, a’i fod yn cydnabod rôl yr ysbryd glân. Er enghraifft, dywedodd yr apostol Pedr wrth ddyn a fu’n gloff o’i enedigaeth: “Yn enw Iesu Grist o Nasareth, cerdda!” (Actau 3:6) Mae’r ystyr yn eglur—roedd Pedr yn cydnabod awdurdod Crist ac yn dangos mai Crist oedd yn gyfrifol am iacháu’r dyn.
Mae “y Tad” yn cyfeirio at Jehofab Dduw. Ef yw’r Creawdwr, y Duw Hollalluog, yr Un sydd wedi rhoi bywyd i bawb, ac felly Ef yw’r awdurdod uchaf oll.—Genesis 17:1; Datguddiad 4:11.
“Y Mab” yw Iesu Grist, a roddodd ei fywyd droston ni. (Rhufeiniaid 6:23) Allwn ni ddim cael ein hachub heb ddeall a derbyn rôl hanfodol Iesu ym mhwrpas Duw ar gyfer y ddynolryw.—Ioan 14:6; 20:31; Actau 4:8-12.
“Yr ysbryd glân” yw grym gweithredol Duw, hynny yw’r grym mae’n ei ddefnyddio i gyflawni ei ewyllys.c Mae Duw wedi defnyddio ei ysbryd i greu, i roi bywyd, i gyfleu negeseuon i’w broffwydi ac eraill, ac i roi’r nerth iddyn nhw wneud ei ewyllys. (Genesis 1:2; Job 33:4; Rhufeiniaid 15:18, 19) Defnyddiodd Duw’r ysbryd glân hefyd i ysbrydoli ysgrifenwyr y Beibl i gofnodi ei feddyliau.—2 Pedr 1:21.
A yw rhywun sy’n cael ei ailfedyddio yn pechu?
Mae llawer o bobl yn penderfynu newid crefydd. Ond beth petai rhywun eisoes wedi cael ei fedyddio yn ei hen grefydd? A fyddai’n pechu o gael ei fedyddio eto? Mae rhai’n credu y byddai’n pechu, ac maen nhw’n tynnu sylw at Effesiaid 4:5, sy’n sôn am “un Arglwydd, un ffydd, un bedydd.” Ond nid yw’r adnod hon yn dweud na chaiff neb ei ailfedyddio. Sut felly?
Cyd-destun. Mae cyd-destun Effesiaid 4:5 yn dangos bod yr apostol Paul yn pwysleisio’r angen i wir Gristnogion fod yn gytûn o ran eu daliadau a’u ffydd. (Effesiaid 4:1-3, 16) Yr unig ffordd iddyn nhw gael y fath undod oedd trwy ddilyn yr un Arglwydd, Iesu Grist; rhannu’r un ffydd neu ddealltwriaeth o ddysgeidiaeth y Beibl; a dilyn yr un gofynion Ysgrythurol ar gyfer bedydd.
Fe wnaeth yr apostol Paul annog rhai oedd eisoes wedi eu bedyddio i gael eu bedyddio eto. Roedd hyn oherwydd eu bod nhw wedi cael eu bedyddio heb ddeall dysgeidiaeth Crist yn iawn.—Actau 19:1-5.
Y sail gywir ar gyfer bedydd. I’w fedydd fod yn dderbyniol i Dduw, mae angen i rywun gael gwybodaeth gywir o’r gwirioneddau yn y Beibl. (1 Timotheus 2:3, 4) Os ydy rhywun wedi ei fedyddio ar sail syniadau crefyddol sy’n groes i ddysgeidiaeth y Beibl, ni fyddai’r bedydd hwnnw yn dderbyniol i Dduw. (Ioan 4:23, 24) Mae’n debyg bod y person yn ddiffuant, ond pan gafodd ei fedyddio nid oedd “yn wir yn deall ewyllys Duw.” (Rhufeiniaid 10:2) Er mwyn plesio Duw, byddai’n rhaid iddo ddysgu’r gwir o’r Beibl, rhoi hyn ar waith yn ei fywyd, cysegru ei fywyd i Dduw, a chael ei fedyddio eto. Mewn sefyllfa o’r fath, fyddai cael ei ailfedyddio ddim yn bechod. Yn wir, dyna fyddai’r peth cywir i’w wneud.
Mathau eraill o fedydd yn y Beibl
Mae’r Beibl yn cyfeirio at fathau eraill o fedydd a oedd ag ystyr gwahanol i fedydd trochiad dilynwyr Crist. Ystyriwch rai esiamplau.
Y bedyddio roedd Ioan Fedyddiwr yn ei wneud.d Cafodd Iddewon a rhai oedd wedi troi at y grefydd Iddewig eu bedyddio gan Ioan i ddangos eu bod nhw wedi edifarhau am dorri’r Gyfraith a roddodd Duw i’r Israeliaid. Drwy fedyddio pobl, roedd Ioan yn eu helpu i fod yn barod i adnabod y Meseia, Iesu o Nasareth, a’i dderbyn.—Luc 1:13-17; 3:2, 3; Actau 19:4.
Bedydd Iesu ei hun. Roedd bedydd Iesu gan Ioan Fedyddiwr yn unigryw. Dyn perffaith oedd Iesu. Nid oedd erioed wedi pechu. (1 Pedr 2:21, 22) Felly doedd bedydd Iesu ddim yn golygu ei fod yn edifarhau nac yn ‘gofyn i Dduw am gydwybod dda.’ (1 Pedr 3:21) Yn hytrach, drwy gael ei fedyddio, roedd Iesu yn ei roi ei hun i wneud ewyllys Duw fel y Meseia, neu’r Crist. Byddai hyn yn cynnwys rhoi ei fywyd droston ni.—Hebreaid 10:7-10.
Bedydd â’r ysbryd glân. Cyfeiriodd Ioan Fedyddiwr ac Iesu Grist at fedydd â’r ysbryd glân. (Mathew 3:11; Luc 3:16; Actau 1:1-5) Nid yw’r bedydd hwnnw yr un fath â bedydd yn enw’r ysbryd glân. (Mathew 28:19) Pam felly?
Dim ond nifer cymharol fach o ddilynwyr Iesu sy’n cael eu bedyddio â’r ysbryd glân. Mae’r rhain yn cael eu heneinio â’r ysbryd glân oherwydd eu bod nhw’n cael eu galw i wasanaethu gyda Christ yn y nef fel brenhinoedd ac offeiriaid dros y ddaear.e (1 Pedr 1:3, 4; Datguddiad 5:9, 10) Byddan nhw’n rheoli dros filiynau o ddilynwyr Crist sy’n edrych ymlaen at fyw am byth ym Mharadwys ar y ddaear.—Mathew 5:5; Luc 23:43.
Bedydd yn unol â Christ Iesu a bedydd i rannu yn ei farwolaeth. Mae unigolion sy’n cael eu bedyddio â’r ysbryd glân hefyd yn cael eu “bedyddio yn unol â Christ Iesu.” (Rhufeiniaid 6:3) Felly dilynwyr eneiniog Iesu, a fydd yn rheoli gydag ef yn y nef, sy’n derbyn y bedydd hwn. Drwy gael eu bedyddio yn unol â Iesu, maen nhw’n dod yn aelodau o’i gynulleidfa eneiniog. Ef yw’r Pen a nhw yw’r corff.—1 Corinthiaid 12:12, 13, 27; Colosiaid 1:18.
Caiff Cristnogion eneiniog hefyd eu “bedyddio i rannu [ym marwolaeth Crist].” (Rhufeiniaid 6:3, 4) Maen nhw’n efelychu Crist drwy ganolbwyntio ar ufuddhau i Dduw yn eu bywydau yn hytrach na phlesio eu hunain. Fel Iesu, maen nhw’n gwybod na fyddan nhw’n cael byw am byth ar y ddaear. Bydd y bedydd ffigurol hwn yn dod i ben pan fyddan nhw’n marw a chael eu hatgyfodi i fywyd ysbrydol yn y nef.—Rhufeiniaid 6:5; 1 Corinthiaid 15:42-44.
Bedydd â thân. Dywedodd Ioan Fedyddiwr wrth ei wrandawyr: “Bydd yr un hwnnw [Iesu] yn eich bedyddio chi â’r ysbryd glân ac â thân. Mae rhaw nithio yn ei law, a bydd yn glanhau’n llwyr ei lawr dyrnu a bydd yn casglu ei wenith i’r ysgubor, ond bydd ef yn llosgi’r us â thân na ellir ei ddiffodd.” (Mathew 3:11, 12) Sylwch fod bedydd â than yn wahanol i fedydd â’r ysbryd glân. Beth roedd Ioan yn ei feddwl yn yr eglureb hon?
Mae’r gwenith yn cynrychioli’r rhai sy’n gwrando ar Iesu ac yn ufuddhau iddo. Mae’r rhain yn gallu cael eu bedyddio â’r ysbryd glân. Mae’r us yn cynrychioli’r rhai sy’n gwrthod gwrando ar Iesu. Yn y diwedd, fe gân nhw eu bedyddio â thân, sydd yn symbol o ddinistr tragwyddol.—Mathew 3:7-12; Luc 3:16, 17.
a Yn ôl Vine’s Complete Expository Dictionary of Old and New Testament Words, mae’r gair Groeg sy’n cael ei gyfieithu’n “fedydd” yn golygu “mynd i mewn i’r dŵr, mynd o dan y dŵr, ac yna codi o’r dŵr.”
b Jehofa yw enw personol Duw. (Salm 83:18, Beibl Cysegr-lân) Gweler yr erthygl “Pwy Yw Jehofa?”
c Gweler yr erthygl “Beth Yw’r Ysbryd Glân?”
d Gweler yr erthygl “Who Was John the Baptist?”
e Gweler yr erthygl “Pwy Sy’n Mynd i’r Nefoedd?”
f Mae’r Beibl yn defnyddio’r term “bedyddio” i gyfeirio at olchi llestri a phethau eraill mewn ffordd seremonïol. (Marc 7:4; Hebreaid 9:10) Ond mae hyn wrth gwrs yn hollol wahanol i’r bedydd drwy drochiad yr oedd Iesu a’i ddilynwyr yn ei gael.