LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • g19 Rhif 2 tt. 6-7
  • Sut i Fod yn Ostyngedig

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Sut i Fod yn Ostyngedig
  • Deffrwch!—2019
  • Isbenawdau
  • Erthyglau Tebyg
  • BETH YW GOSTYNGEIDDRWYDD?
  • PWYSIGRWYDD GOSTYNGEIDDRWYDD
  • SUT I DDYSGU GOSTYNGEIDDRWYDD
  • Mae Jehofa yn Trysori’r Gostyngedig
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2019
  • Dysgu Plant i Fod yn Ostyngedig
    Deffrwch!—2017
  • Paid â Meddwl Gormod Ohonot Ti Dy Hun
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2020
Deffrwch!—2019
g19 Rhif 2 tt. 6-7
Bachgen yn rhoi sbwriel yn y bin

GWERS 2

Sut I Fod Yn Ostyngedig

BETH YW GOSTYNGEIDDRWYDD?

Mae pobl ostyngedig yn bobl barchus. Dydyn nhw ddim yn ffroenuchel, nac yn disgwyl i eraill eu trin fel rhywun pwysig. Yn hytrach, mae person gostyngedig yn dangos diddordeb diffuant mewn pobl eraill ac yn fodlon dysgu oddi wrthyn nhw.

Weithiau, mae pobl yn meddwl bod gostyngeiddrwydd yn wendid. Ond mewn gwirionedd, mae’n gryfder sy’n helpu pobl i gydnabod eu gwendidau a’u cyfyngiadau.

PWYSIGRWYDD GOSTYNGEIDDRWYDD

  • Mae gostyngeiddrwydd yn gwella ein perthynas ag eraill. Yn ôl y llyfr The Narcissism Epidemic: “Fel arfer, mae pobl ostyngedig yn ei chael hi’n haws gwneud ffrindiau,” yn ogystal â “chyfathrebu a chymdeithasu â phobl eraill.”

  • Mae gostyngeiddrwydd yn gwella dyfodol eich plentyn. Bydd dysgu bod yn ostyngedig yn helpu eich plentyn nawr ac yn y dyfodol, er enghraifft wrth geisio gwaith. “Mae person ifanc sy’n meddwl gormod ohono’i hun, heb gydnabod ei wendidau, yn annhebygol o wneud yn dda mewn cyfweliad am swydd,” ysgrifennodd Dr Leonard Sax. “Ond mae person ifanc sydd wir eisiau clywed barn y cyfwelydd yn fwy tebygol o gael y swydd.”a

SUT I DDYSGU GOSTYNGEIDDRWYDD

Helpwch eich plentyn i beidio â meddwl gormod ohono’i hun.

EGWYDDOR O’R BEIBL: “Os dych chi’n meddwl eich bod chi’n rhywun, dych chi’n twyllo’ch hunain—dych chi’n neb mewn gwirionedd.”—Galatiaid 6:3.

  • Osgowch ymadroddion diystyr. Mae dywediadau fel “Daw dy holl freuddwydion yn wir” a “Cei di wneud beth bynnag rwyt ti eisiau” yn gallu sbarduno plentyn, ond yn aml dydyn nhw ddim yn dod yn wir. Mae’ch plant yn fwy tebygol o lwyddo drwy osod nod rhesymol a gweithio’n galed i’w gyrraedd.

  • Canmolwch weithredoedd penodol. Nid yw dweud wrth blentyn ‘ti’n wych’ yn meithrin gostyngeiddrwydd. Byddwch yn benodol.

  • Rhwystrwch orddefnydd o gyfryngau cymdeithasol. Ar gyfryngau cymdeithasol, mae pobl yn aml yn brolio am eu doniau a’r hyn maen nhw wedi ei wneud, sy’n gwbl groes i ostyngeiddrwydd.

  • Anogwch eich plentyn i fod yn gyflym i ymddiheuro. Helpwch eich plentyn i gydnabod ei fai a’i deall.

Anogwch eich plant i fod yn ddiolchgar.

EGWYDDOR O’R BEIBL: “Byddwch yn ddiolchgar.”—Colosiaid 3:15.

  • Gwerthfawrogi’r greadigaeth. Dylai plant werthfawrogi natur, a chymaint y dibynnwn arni am fywyd. Rydyn ni angen aer i’w anadlu, dŵr i’w yfed, a bwyd i’w fwyta. Defnyddiwch yr esiamplau hyn i helpu eich plant i edmygu rhyfeddodau byd natur a’u gwerthfawrogi.

  • Gwerthfawrogi pobl. Atgoffwch eich plentyn fod pawb yn well nag ef mewn rhyw ffordd neu’i gilydd, ac y gall ddysgu oddi wrthyn nhw yn hytrach na chenfigennu eu sgiliau a’u galluoedd.

  • Mynegi diolchgarwch. Dysgwch eich plant i ddiolch yn ddiffuant, yn hytrach na dweud geiriau gwag. Mae agwedd ddiolchgar yn hanfodol er mwyn aros yn ostyngedig.

Dysgwch eich plentyn fod gwasanaethu eraill yn beth da.

EGWYDDOR O’R BEIBL: “Byddwch yn ostyngedig, a pheidio meddwl eich bod chi’n well na phobl eraill. Meddyliwch am bobl eraill gyntaf, yn lle dim ond meddwl amdanoch chi’ch hunain.”—Philipiaid 2:3, 4.

  • Disgwyliwch i’ch plentyn wneud gwaith tŷ. Gall esgusodi eich plentyn rhag gorfod gwneud gwaith tŷ achosi iddo feddwl ‘Dw i’n rhy bwysig i wneud hyn!’ Dylai dyletswyddau teuluol ddod yn gyntaf, ac amser chwarae wedyn. Esboniwch iddo gymaint y bydd eraill yn elwa ar ei waith ac yn ei werthfawrogi a’i barchu amdano.

  • Pwysleisiwch fod gwasanaethu eraill yn fraint. Mae gwasanaethu eraill yn ffordd wych o ddatblygu aeddfedrwydd. Felly, anogwch eich plentyn i fod yn effro i anghenion pobl eraill. Yna, trafodwch sut y gallai ef eu helpu. Canmolwch a chefnogwch eich plentyn wrth iddo wasanaethu eraill.

a O’r llyfr The Collapse of Parenting.

Bachgen yn rhoi sbwriel yn y bin

HYFFORDDWCH NAWR

Mae plentyn sy’n dysgu gwneud tasgau annymunol yn fwy tebygol o gydweithio’n dda ag eraill fel oedolyn

Arwain Drwy Esiampl

  • Ydw i’n dweud wrth fy mhlant fy mod innau hefyd angen help gan eraill?

  • Ydw i’n gwerthfawrogi eraill drwy siarad yn bositif amdanyn nhw, neu ydw i’n eu bychanu?

  • Ydy hi’n amlwg i’m plant fod helpu eraill yn bwysig i mi?

Ein Profiad Ni

“Dywedodd ein merch wrthon ni am un o’i chyd-ddisgyblion a oedd yn gas wrth eraill a doedd neb yn ei hoffi. Dywedais wrthi am ystyried pa broblemau sydd gan y ferch gartref. Wedi’r cyfan, nid pawb sydd â bywyd teuluol hapus. Gwnaeth hynny helpu ein merch i weld nad ydy hi’n well nag eraill. Ond, efallai fod ganddi amgylchiadau gwell.”—Karen.

“Rydyn ni’n annog ein merched i fwynhau’r hyn maen nhw’n ei ddysgu yn yr ysgol ac i wneud eu gorau, heb gymharu eu hunain ag eraill. Rydyn ni eisiau iddyn nhw wybod na fyddwn ninnau’n eu cymharu ag eraill chwaith.”—Marianna.

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu