LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • g19 Rhif 2 tt. 14-15
  • Yr Angen am Werthoedd Moesol

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Yr Angen am Werthoedd Moesol
  • Deffrwch!—2019
  • Isbenawdau
  • Erthyglau Tebyg
  • BETH YW GWERTHOEDD MOESOL?
  • PWYSIGRWYDD GWERTHOEDD MOESOL
  • SUT I DDYSGU GWERTHOEDD MOESOL
  • 7 Gwerthoedd
    Deffrwch!—2018
  • Da a Drwg: Beth Sy’n Arwain Llawer?
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Teyrnas Jehofa (Cyhoeddus)—2024
  • Ydy Safonau Moesol y Beibl yn Berthnasol Heddiw?
    Pynciau Eraill
  • Da a Drwg: Cwestiwn Rydyn Ni i Gyd yn Ei Wynebu
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Teyrnas Jehofa (Cyhoeddus)—2024
Gweld Mwy
Deffrwch!—2019
g19 Rhif 2 tt. 14-15
Geneth yn gweld ei mam yn cynnig dychwelyd pwrs i ddynes a’i gollodd

GWERS 6

Yr Angen Am Werthoedd Moesol

BETH YW GWERTHOEDD MOESOL?

I bobl sydd â gwerthoedd moesol, mae’r gwahaniaeth rhwng da a drwg yn amlwg. Dydy eu gwerthoedd moesol ddim wedi eu seilio ar eu teimladau yng ngwres y foment, ond yn hytrach ar egwyddorion cadarn sy’n llywio eu hymddygiad—hyd yn oed pan nad oes neb yn eu gwylio.

PWYSIGRWYDD GWERTHOEDD MOESOL

Mae plant yn cael eu bombardio â syniadau anghywir am foesau—a hynny drwy gerddoriaeth, drwy ffilmiau neu raglenni teledu, neu gan eu cyd-ddisgyblion. Gall dylanwadau o’r fath herio eu safonau o dda a drwg.

Mae hyn yn broblem fawr i arddegwyr. Yn ôl y llyfr Beyond the Big Talk, mae’n rhaid iddyn nhw “ddeall y bydd eu cyfoedion a’r cyfryngau yn rhoi pwysau mawr arnyn nhw i fod yn boblogaidd a chael eu derbyn, ac mae’n rhaid iddyn nhw ddysgu gwneud penderfyniadau sy’n cyd-fynd â’u safonau yn hytrach na dilyn eu ffrindiau o hyd.” Yn amlwg felly, mae’n rhaid i hyfforddiant ddechrau cyn eu glasoed.

SUT I DDYSGU GWERTHOEDD MOESOL

Sefydlwch god moesol.

EGWYDDOR O’R BEIBL: “Mae’r rhai sydd wedi tyfu i fyny . . . wedi dod i arfer gwahaniaethu rhwng y drwg a’r da.”—Hebreaid 5:14.

  • Diffiniwch yr hyn sy’n dda a drwg. Tynnwch sylw at weithredoedd cyffredin i gyferbynnu rhwng da a drwg: “Mae hyn yn onest; dydy hynny ddim.” “Mae hyn yn ffyddlon; dydy hynny ddim.” “Mae hyn yn garedig; dydy hynny ddim.” Mewn amser, bydd eich plentyn yn dysgu pa weithredoedd sy’n dda neu’n ddrwg.

  • Esboniwch pam mae rhywbeth yn dda neu’n ddrwg. Gallwch ofyn cwestiynau fel: Pam mai dweud y gwir yw’r peth gorau i’w wneud? Sut gall dweud celwydd frifo ffrind? Pam mae dwyn yn ddrwg? Rhesymwch â’ch plentyn i’w helpu i ddatblygu ei gydwybod.

  • Pwysleisiwch fuddion cadw moesau da. Gallwch ddweud: “Os wyt ti’n onest, bydd pobl yn dy drystio” neu “Os wyt ti’n garedig, bydd pobl yn hoffi dy gwmni.”

Sicrhewch fod gan eich teulu cyfan enw da am gadw at eich cod moesol.

EGWYDDOR O’R BEIBL: “Dylech chi roi eich hunain ar brawf!”—2 Corinthiaid 13:5.

  • Dylai eich teulu fyw’n unol â’ch cod moesol, fel bod y canlynol yn wir:

    • “Dydy ein teulu ni ddim yn dweud celwydd.”

    • “Dydyn ni ddim yn taro eraill nac yn sgrechian arnyn nhw.”

    • “Dydyn ni ddim yn defnyddio geiriau cas.”

Bydd eich plentyn yn gweld fod gwerthoedd moesol yn fwy na rheolau i’w dilyn, ond maen nhw’n rhan o hunaniaeth y teulu.

  • Trafodwch werthoedd eich teulu yn aml â’ch plant. Defnyddiwch sefyllfaoedd sy’n codi bob dydd i’w dysgu. Gallwch gymharu eich gwerthoedd â’r rhai a gyflwynir ar y teledu neu yn yr ysgol. Gofynnwch gwestiynau i’ch plant, fel: “Beth fyddet ti wedi ei wneud?” a “Sut byddai ein teulu ni wedi delio â hyn?”

Cryfhewch eu gwerthoedd moesol.

EGWYDDOR O’R BEIBL: “Peidiwch gwneud dim fydd gynnoch chi gywilydd ohono.”—1 Pedr 3:16.

  • Canmolwch ymddygiad da. Os ydy eich plentyn yn dangos gwerthoedd moesol da, rhowch ganmoliaeth iddo gan esbonio’r rheswm pam. Er enghraifft, gallwch ddweud: “Mi oeddet ti’n onest, ac mae hynny wedi fy mhlesio.” Os bydd eich plentyn yn cyfaddef cam, rhowch ganmoliaeth ddiffuant iddo am ei onestrwydd cyn ei gywiro.

  • Cywirwch ymddygiad drwg. Helpwch eich plentyn i gymryd cyfrifoldeb am eu gweithredoedd. Dylai plant wybod beth wnaethon nhw o’i le a sut roedd eu hymddygiad yn groes i werthoedd y teulu. Mae rhai rhieni yn gyndyn o gywiro eu plant fel hyn gan ofni eu digalonni, ond yn y pen draw, bydd hyn yn eu helpu i ddatblygu cydwybod sy’n sensitif i dda a drwg.

Am fwy o wybodaeth am sut i fagu plant, ewch i wefan Gymraeg jw.org.

Geneth yn gweld ei mam yn cynnig dychwelyd pwrs i ddynes a’i gollodd

HYFFORDDWCH NAWR

Bydd plant sy’n gweld gonestrwydd eu rhieni yn fwy tebygol o fod yn onest eu hunain, hyd yn oed pan does neb yn eu gweld

Arwain Drwy Esiampl

  • Ydw i’n dangos i fy mhlant, mewn gair a gweithred, fy mod i’n byw’n unol â gwerthoedd ein teulu?

  • Ydw i a fy mhriod yn cytuno ar yr un safonau?

  • Ydw i’n cyfiawnhau anwybyddu fy nghod moesol drwy ddweud neu feddwl, “Mae hyn yn iawn i oedolion”?

Ein Profiad Ni

“Defnyddion ni brofiadau pobl eraill i gymharu buddion moesau da â chanlyniadau penderfyniadau annoeth. Pan ddywedodd ein plant wrthon ni am un o’u cyfoedion a wnaeth benderfyniad gwael, gwnaethon ni drafod y peth â nhw fel na fydden nhw’n ei efelychu.”—Nicole.

“Pan oedd ein merch yn ifanc iawn, bydden ni’n dweud wrthi fod ganddi ddau ddewis—un yn dda a’r llall yn ddrwg—a bydden ni’n esbonio canlyniadau’r ddau. Dyma sut y dysgodd hi i wneud penderfyniadau. Gwers bwysig oedd hon, gan fod bywyd pawb, waeth beth fo’n hoedran, yn llawn penderfyniadau.”—Yolanda.

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu