-
Pa Fath o Bobl Yw Tystion Jehofa?Pwy Sy’n Gwneud Ewyllys Jehofa Heddiw?
-
-
GWERS 1
Pa Fath o Bobl Yw Tystion Jehofa?
Denmarc
Taiwan
Feneswela
India
Faint o Dystion Jehofa rydych chi yn eu hadnabod? Efallai rydyn ni’n byw drws nesaf i chi, neu’n gweithio gyda chi, neu’n mynd i’r un ysgol â chi. Mae’n bosibl eich bod chi wedi sgwrsio am y Beibl â ni. Pwy ydyn ni, a pham rydyn ni’n trafod ein daliadau yn gyhoeddus?
Pobl gyffredin ydyn ni. Mae cefndir pob un ohonon ni’n wahanol. Ar un adeg, roedd rhai ohonon ni’n perthyn i grefyddau gwahanol, a rhai ohonon ni’n anffyddwyr. Ond cyn inni ddod yn Dystion, fe wnaeth pob un ohonon ni astudio dysgeidiaethau’r Beibl yn ofalus. (Actau 17:11) Oherwydd ein bod ni’n cytuno â’r hyn roedden ni’n ei ddysgu, fe wnaethon ni benderfynu o’n gwirfodd i addoli Jehofa Dduw.
Rydyn ni’n elwa ar astudio’r Beibl. Fel pawb arall, mae’n rhaid inni ymdopi â’n problemau a’n gwendidau. Ond mae rhoi egwyddorion y Beibl ar waith wedi gwneud byd o wahaniaeth i’n bywydau. (Salm 128:1, 2) Dyna un rheswm pam rydyn ni’n siarad ag eraill am y pethau da rydyn ni wedi eu dysgu drwy ddarllen y Beibl.
Rydyn ni’n byw yn unol â safonau Duw. Mae safonau’r Beibl yn helpu pobl i deimlo’n hapus. Maen nhw’n ysgogi pobl i barchu eraill, ac i fod yn onest a charedig. Mae safonau’r Beibl yn cyfrannu at undod y teulu, yn hyrwyddo moesoldeb, ac yn annog aelodau’r gymuned i fod yn weithgar ac i fyw bywyd iach. Oherwydd ein bod ni’n credu nad yw Duw’n “dangos ffafriaeth,” rydyn ni’n perthyn i frawdoliaeth ysbrydol sy’n wirioneddol ryngwladol, heb unrhyw raniadau hiliol neu wleidyddol. Er mai pobl gyffredin ydyn ni, fel grŵp rydyn ni’n unigryw.—Actau 4:13; 10:34, 35.
Pa fath o bobl yw Tystion Jehofa?
Mae’r Tystion wedi dysgu am ba safonau drwy astudio’r Beibl?
-
-
Pam Rydyn Ni’n Cael Ein Galw’n Dystion Jehofa?Pwy Sy’n Gwneud Ewyllys Jehofa Heddiw?
-
-
GWERS 2
Pam Rydyn Ni’n Cael Ein Galw’n Dystion Jehofa?
Noa
Abraham a Sara
Moses
Iesu Grist
Mae llawer yn meddwl mai enw ar grefydd newydd yw Tystion Jehofa. Fodd bynnag, dros 2,700 o flynyddoedd yn ôl, roedd gweision yr unig wir Dduw yn cael eu disgrifio fel ‘tystion.’ (Eseia 43:10-12) Hyd at 1931, roedden ni’n defnyddio’r enw Myfyrwyr y Beibl. Pam, felly, y dewison ni’r enw Tystion Jehofa?
Mae’n rhoi sylw i’n Duw. Mae enw Duw, Jehofa, i’w weld filoedd o weithiau mewn hen lawysgrifau’r Beibl. Mewn llawer o gyfieithiadau, mae’r enw hwn wedi cael ei ddisodli gan deitlau fel Arglwydd neu Dduw. Ond defnyddiodd Duw ei enw personol, Jehofa, wrth iddo’i ddatgelu ei hun i Moses, gan ddweud, “Dyma fydd fy enw am byth.” (Exodus 3:15; 6:2, Beibl Cysegr-lân) Dangosodd Jehofa, felly, ei fod yn wahanol i’r gau dduwiau i gyd. Rydyn ni’n falch o ddwyn enw sanctaidd Duw.
Mae’n disgrifio ein cenhadaeth. Gan ddechrau gyda’r dyn cyfiawn Abel, bu nifer mawr o bobl yn tystiolaethu am eu ffydd yn Jehofa. Trwy’r canrifoedd, daeth Noa, Abraham, Moses, Sara, Dafydd, ac eraill yn rhan o’r ‘dorf hon o dystion.’ (Hebreaid 11:4–12:1) Fel y mae unigolyn yn rhoi tystiolaeth gerbron llys ar ran rhywun dieuog, rydyn ni’n benderfynol o ddweud y gwir wrth bawb am Dduw.
Rydyn ni’n efelychu Iesu. Yn y Beibl, gelwir Iesu “y tyst ffyddlon a gwir.” (Datguddiad 3:14) Dywedodd Iesu wrth Dduw, “Yr wyf wedi gwneud dy enw di’n hysbys,” a thrwy gydol ei fywyd, fe wnaeth “dystiolaethu i’r gwirionedd.” (Ioan 17:26; 18:37) Felly, dylai dilynwyr Crist hefyd ddwyn enw Jehofa a’i wneud yn hysbys. Dyma beth mae Tystion Jehofa yn ceisio ei wneud.
Pam y gwnaeth Myfyrwyr y Beibl fabwysiadu’r enw Tystion Jehofa?
Ers pryd y mae Jehofa wedi cael ei dystion ar y ddaear?
Pwy yw Tyst mwyaf Jehofa?
-
-
Sut Cafodd Gwirionedd y Beibl ei Ailddarganfod?Pwy Sy’n Gwneud Ewyllys Jehofa Heddiw?
-
-
GWERS 3
Sut Cafodd Gwirionedd y Beibl ei Ailddarganfod?
Myfyrwyr y Beibl, 1870au
Rhifyn cyntaf y Watchtower, 1879
Y Watchtower heddiw
Rhagfynegodd y Beibl y byddai gau athrawon yn codi o blith y Cristnogion cynnar ar ôl marwolaeth Crist, ac fe fydden nhw’n llygru gwirioneddau’r Beibl. (Actau 20:29, 30) Ymhen amser, dyna ddigwyddodd. Fe wnaethon nhw gymysgu dysgeidiaethau Iesu â syniadau crefyddol paganaidd, ac fe arweiniodd hyn at gau Gristnogaeth. (2 Timotheus 4:3, 4) Heddiw, sut gallwn ni wybod bod gennyn ni ddealltwriaeth gywir o’r hyn mae’r Beibl yn ei wir ddysgu?
Daeth hi’n amser i Jehofa ddatgelu’r gwirionedd. Rhagfynegodd Duw y byddai ‘gwybodaeth yn cynyddu’ yn amser y diwedd. (Daniel 12:4, troednodyn) Ym 1870, fe wnaeth grŵp bychan a oedd yn chwilio am y gwirionedd sylweddoli nad oedd llawer o ddysgeidiaethau’r eglwysi yn seiliedig ar y Beibl. Felly, dechreuon nhw ymchwilio i ddysgeidiaethau gwreiddiol y Beibl, ac fe fendithiodd Jehofa eu hymdrechion a’u helpu nhw i ddeall yr Ysgrythurau.
Dynion diffuant yn astudio’r Beibl yn fanwl. Datblygodd Myfyrwyr y Beibl ddull o astudio rydyn ni yn dal i’w ddefnyddio hyd heddiw. Roedden nhw’n trafod y Beibl fesul pwnc. Pan oedden nhw’n dod ar draws adnodau anodd eu deall, roedden nhw’n chwilio am adnodau eraill i egluro’r ystyr. Ar ôl iddyn nhw ddod i gasgliad a oedd yn cytuno â gweddill y Beibl, roedden nhw’n cofnodi hynny. Felly, drwy adael i’r Beibl ei ddehongli ei hun, roedden nhw’n ailddarganfod y gwir ynglŷn ag enw Duw, ei Deyrnas, ei fwriad ar gyfer dynolryw a’r ddaear, cyflwr y meirw, a gobaith yr atgyfodiad. Roedd yr ymchwil honno’n eu rhyddhau nhw rhag llawer o syniadau ac arferion cyfeiliornus.—Ioan 8:31, 32.
Erbyn 1879, roedd Myfyrwyr y Beibl yn gwybod bod rhaid iddyn nhw ddysgu’r gwir i eraill. Felly, y flwyddyn honno fe ddechreuon nhw gyhoeddi’r cylchgrawn yr ydyn ni’n dal i’w gyhoeddi heddiw, sef y Watchtower Announcing Jehovah’s Kingdom. Erbyn hyn, rydyn ni’n dysgu gwirionedd y Beibl i bobl mewn 240 o wledydd ac mewn dros 750 o ieithoedd. Nid yw gwybodaeth y Beibl erioed wedi bod ar gael i gynifer o bobl!
Ar ôl marwolaeth Crist, beth ddigwyddodd i wirioneddau’r Beibl?
Beth sydd wedi ein helpu i ailddarganfod gwirioneddau Gair Duw?
-
-
Pam Rydyn Ni Wedi Cyhoeddi Cyfieithiad o’r Beibl?Pwy Sy’n Gwneud Ewyllys Jehofa Heddiw?
-
-
GWERS 4
Pam Rydyn Ni Wedi Cyhoeddi Cyfieithiad o’r Beibl?
Congo (Kinshasa)
Rwanda
Dernyn Symmachus yn cynnwys yr enw dwyfol yn Salm 69:31, trydedd neu bedwaredd ganrif OG
Am ddegawdau, roedd Tystion Jehofa yn defnyddio, yn argraffu, ac yn dosbarthu gwahanol gyfieithiadau o’r Beibl. Ond wedyn, fe welon ni’r angen i gyhoeddi cyfieithiad newydd a fyddai’n helpu pobl “i ganfod y gwirionedd,” gan mai dyna yw ewyllys Duw i bawb. (1 Timotheus 2:3, 4) Felly, ym 1950, dechreuon ni gyhoeddi Beibl Saesneg cyfoes, y New World Translation, fesul rhan. Mae’r Beibl hwn wedi cael ei gyfieithu’n fanwl gywir i fwy na 130 o ieithoedd.a
Roedd angen Beibl hawdd ei ddeall. Mae ieithoedd yn newid dros amser, ac mae llawer o gyfieithiadau yn cynnwys ymadroddion hen-ffasiwn ac anodd eu deall. Ar ben hynny, mae hen lawysgrifau sy’n fwy cywir ac yn nes at y testun gwreiddiol wedi dod i’r golwg. Mae’r rhain yn rhoi gwell dealltwriaeth inni o ieithoedd y Beibl, sef Hebraeg, Aramaeg, a Groeg.
Roedd angen cyfieithiad a oedd yn ffyddlon i air Duw. Yn hytrach na bod mor hy â newid gair Duw, dylai cyfieithwyr y Beibl lynu wrth y testun gwreiddiol. Fodd bynnag, yn y rhan fwyaf o gyfieithiadau, nid yw’r enw dwyfol, Jehofa, yn cael ei ddefnyddio.
Roedd angen Beibl sy’n rhoi clod i’r Awdur. (2 Samuel 23:2) Mae’r New World Translation wedi adfer enw Jehofa ryw 7,000 o weithiau lle mae’n ymddangos yn llawysgrifau hynaf y Beibl. Fe welir esiampl yn y llun isod. (Salm 83:18, BC) Mae’r Beibl hwn yn ffrwyth blynyddoedd o waith ymchwil. Mae’n bleser i’w ddarllen oherwydd ei fod yn cyfleu meddyliau Duw yn glir. Ond hyd yn oed os nad oes gennych chi’r New World Translation yn eich iaith eich hun, yr hyn sy’n bwysig yw eich bod chi’n darllen gair Jehofa bob dydd.—Josua 1:8; Salm 1:2, 3.
Pam roedd angen cyfieithiad newydd o’r Beibl?
I ddysgu am ewyllys Duw, beth y dylen ni ei wneud bob dydd?
a Nid yw’r New World Translation ar gael yn y Gymraeg ar hyn o bryd. Fodd bynnag, mae nifer yn elwa ar ddarllen y cyfieithiad hwn mewn ieithoedd eraill.
-