LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • Sut Mae’r Henuriaid yn Helpu’r Gynulleidfa?
    Pwy Sy’n Gwneud Ewyllys Jehofa Heddiw?
    • GWERS 15

      Sut Mae’r Henuriaid yn Helpu’r Gynulleidfa?

      Henuriad yn sgwrsio gydag aelodau’r gynulleidfa

      Y Ffindir

      Henuriad yn dysgu eraill yn y gynulleidfa

      Dysgu eraill

      Henuriad yn annogi aelodau o’r gynulleidfa

      Bugeilio

      Henuriad yn y weinidogaeth cyhoeddus

      Tystiolaethu

      Nid oes gan Dystion Jehofa weinidogion sy’n derbyn cyflog. Yn hytrach, gan ddilyn y patrwm a sefydlwyd yng nghynulleidfa Gristnogol y ganrif gyntaf, mae arolygwyr cymwys yn cael eu penodi i “fugeilio” cynulleidfa Duw. (Actau 20:28) Mae’r henuriaid yn ddynion ysbrydol sy’n arwain y gynulleidfa ac yn ei bugeilio, ‘nid dan orfod, ond o’u gwirfodd yn ôl ffordd Duw; nid er mwyn elw anonest, ond o eiddgarwch.’ (1 Pedr 5:1-3) Pa waith maen nhw’n ei wneud ar ein cyfer ni?

      Maen nhw’n gofalu amdanon ni ac yn ein hamddiffyn. Mae’r henuriaid yn cofio mai Duw sydd wedi rhoi’r cyfrifoldeb hwnnw iddyn nhw, ac felly dydyn nhw ddim yn tra-arglwyddiaethu ar ei bobl, ond, yn hytrach maen nhw’n gweithio er ein lles a’n llawenydd. (2 Corinthiaid 1:24) Fel y mae bugail yn gofalu am bob un o’i ddefaid, felly y mae’r henuriaid yn ceisio dod i adnabod pob un aelod o’r gynulleidfa.—Diarhebion 27:23.

      Maen nhw yn ein dysgu ni i wneud ewyllys Duw. Bob wythnos, mae’r henuriaid yn arwain cyfarfodydd y gynulleidfa er mwyn cryfhau ein ffydd. (Actau 15:32) Hefyd, maen nhw’n arwain yn y gwaith pregethu drwy weithio gyda ni a thrwy ein hyfforddi ni ym mhob agwedd ar y weinidogaeth.

      Maen nhw’n rhoi anogaeth bersonol inni. Er mwyn gofalu am ein hiechyd ysbrydol, mae’r henuriaid yn galw draw i’n gweld ni yn ein cartrefi neu’n siarad â ni yn Neuadd y Deyrnas er mwyn ein helpu a’n cysuro ni o’r Beibl. —Iago 5:14, 15.

      Yn ogystal â’u gwaith yn y gynulleidfa, mae gan y rhan fwyaf o’r henuriaid swyddi a chyfrifoldebau teuluol sy’n mynnu amser a sylw. Mae’r brodyr hyn yn gweithio’n galed ac yn haeddu ein parch.—1 Thesaloniaid 5:12, 13.

      • Beth yw cyfrifoldebau henuriaid y gynulleidfa?

      • Sut mae’r henuriaid yn dangos diddordeb personol ynon ni?

      I DDYSGU MWY

      Pwy sy’n gymwys i wasanaethu fel henuriad neu was gweinidogaethol? Gallwch weld y gofynion Ysgrythurol yn 1 Timotheus 3:1-10, 12, a Titus 1:5-9.

  • Beth Yw Gwaith y Gweision Gweinidogaethol?
    Pwy Sy’n Gwneud Ewyllys Jehofa Heddiw?
    • GWERS 16

      Beth Yw Gwaith y Gweision Gweinidogaethol?

      Gwas gweinidogaethol yn helpu i ddosbarthu ein cyhoeddiadau

      Myanmar

      Gwas gweinidogaethol yn cyflwyno anerchiad Beiblaidd

      Rhoi anerchiad yn y cyfarfod

      Gwas gweinidogaethol yn arwain cyfarfod

      Grŵp gweinidogaeth

      Gwas gweinidogaethol yn helpu i gynnal a chadw Neuadd y Deyrnas

      Cynnal a chadw Neuadd y Deyrnas

      Mae’r Beibl yn disgrifio dau grŵp o ddynion sy’n gofalu am y gynulleidfa—“arolygwyr” a “diaconiaid” neu weision gweinidogaethol fel y mae Tystion Jehofa yn eu galw nhw. (Philipiaid 1:1) Yn gyffredinol, ceir nifer o henuriaid a gweision gweinidogaethol ym mhob cynulleidfa. Pa waith mae’r gweision gweinidogaethol yn ei wneud er ein lles?

      Maen nhw’n helpu’r henuriaid. Mae’r gweision gweinidogaethol yn ddynion ysbrydol, dibynadwy, a chydwybodol. Mae rhai ohonyn nhw’n ifanc ac eraill yn hŷn. Maen nhw’n gofalu am y gwaith rheolaidd ond pwysig sy’n ymwneud â chynnal y cyfarfodydd. Mae hyn yn rhoi amser i’r henuriaid ganolbwyntio ar eu cyfrifoldeb o ddysgu a bugeilio’r gynulleidfa.

      Maen nhw’n rhoi help ymarferol. Mae rhai gweision gweinidogaethol yn cael eu haseinio i groesawu pobl i’r cyfarfodydd. Mae eraill yn gofalu am yr offer sain, y llenyddiaeth, a chyfrifon y gynulleidfa. Maen nhw hefyd yn trefnu’r diriogaeth ar gyfer y weinidogaeth ac yn helpu gyda’r gwaith o gynnal a chadw Neuadd y Deyrnas. Efallai y bydd yr henuriaid yn gofyn iddyn nhw helpu’r rhai mewn oed. Beth bynnag yw cyfrifoldebau’r gweision gweinidogaethol, mae’r gynulleidfa yn eu parchu oherwydd eu bod nhw’n gweithio’n galed.—1 Timotheus 3:13.

      Maen nhw’n gosod esiampl dda fel dynion Cristnogol. Mae gweision gweinidogaethol yn cael eu dewis oherwydd eu rhinweddau ysbrydol. Mae eu hanerchiadau yn y cyfarfodydd yn cryfhau ein ffydd. Mae eu hesiampl dda yn y weinidogaeth yn ein helpu ni i fod yn fwy selog yn y gwaith pregethu. Gan eu bod nhw’n cydweithio’n dda â’r henuriaid, maen nhw’n cyfrannu at lawenydd a heddwch y gynulleidfa. (Effesiaid 4:16) Ymhen amser, efallai y bydden nhw’n gymwys i wasanaethu fel henuriaid.

      • Pa fath o ddynion yw’r gweision gweinidogaethol?

      • Sut mae’r gweision yn hwyluso gwaith y gynulleidfa?

      I DDYSGU MWY

      Bob tro rydych yn mynd i Neuadd y Deyrnas, ceisiwch ddod i adnabod un o’r henuriaid neu un o’r gweision gweinidogaethol yn well, nes eich bod yn adnabod pob un ohonyn nhw a’u teuluoedd.

  • Sut Mae Arolygwyr Cylchdaith yn Ein Helpu?
    Pwy Sy’n Gwneud Ewyllys Jehofa Heddiw?
    • GWERS 17

      Sut Mae Arolygwyr Cylchdaith yn Ein Helpu?

      Arolygwr cylchdaith a’i wraig

      Malawi

      Arolygwr cylchdaith yn wneud grŵp gweinidogaeth

      Grŵp gweinidogaeth

      Arolygwr cylchdaith yn y weinidogaeth cyhoeddus

      Y weinidogaeth

      Arolygwr cylchdaith yn cyfarfod â henuriaid

      Cyfarfod henuriaid

      Mae’r Ysgrythurau Groeg yn cyfeirio’n aml at Barnabas a Paul. Arolygwyr teithiol oedd y dynion hyn, yn ymweld â chynulleidfaoedd Cristnogol y ganrif gyntaf. Pam roedden nhw’n gwneud hynny? Oherwydd eu bod nhw’n caru eu brodyr ysbrydol. Dywedodd Paul ei fod yn awyddus i “ymweld â’r credinwyr” er mwyn gweld sut roedden nhw. Roedd yn fodlon teithio cannoedd o filltiroedd er mwyn eu cryfhau nhw. (Actau 15:36) Mae arolygwyr teithiol heddiw yn teimlo’r un ffordd.

      Maen nhw’n dod i’n calonogi ni. Mae arolygwyr cylchdaith yn ymweld â thua 20 o gynulleidfaoedd ddwywaith y flwyddyn, gan dreulio wythnos gyda phob un. Gallwn elwa ar brofiad y brodyr hynny ac, os ydyn nhw wedi priodi, ar brofiad eu gwragedd hefyd. Maen nhw’n ceisio dod i adnabod y rhai hen a’r rhai ifainc, ac maen nhw’n awyddus i weithio gyda ni yn y weinidogaeth ac i ymweld â’r rhai sy’n astudio’r Beibl. Mae’r arolygwyr a’r henuriaid yn bugeilio’r gynulleidfa. Hefyd, maen nhw’n rhoi anerchiadau calonogol yn y cyfarfodydd ac yn y cynulliadau.—Actau 15:35.

      Mae ganddyn nhw ddiddordeb ym mhob un. Mae arolygwyr cylchdaith yn cymryd diddordeb mawr yng nghyflwr ysbrydol y gynulleidfa. Maen nhw’n cyfarfod â’r henuriaid a’r gweision gweinidogaethol i weld sut mae’r gynulleidfa wedi gwella, ac i roi cyngor ymarferol ar sut i ddelio â’u cyfrifoldebau. Maen nhw’n helpu’r arloeswyr i fod yn llwyddiannus yn y weinidogaeth, ac maen nhw’n mwynhau dod i adnabod y rhai newydd a chlywed am eu cynnydd ysbrydol. Mae’r brodyr hyn yn ‘gydweithwyr yn ein gwasanaeth.’ (2 Corinthiaid 8:23) Dylen ni efelychu eu ffydd a’u defosiwn i Dduw.—Hebreaid 13:7.

      • Pam mae arolygwyr cylchdaith yn ymweld â’r cynulleidfaoedd?

      • Sut gallwch chi elwa ar eu hymweliadau?

      I DDYSGU MWY

      Nodwch ddyddiad ymweliad nesaf arolygwr eich cylchdaith ar eich calendr, er mwyn ichi fod yn bresennol ar gyfer ei anerchiadau yn Neuadd y Deyrnas. Os hoffech iddo ef neu ei wraig ddod i’ch astudiaeth Feiblaidd yr wythnos honno, gofynnwch i’ch athro drefnu hynny.

  • Sut Rydyn Ni’n Helpu Ein Brodyr Sy’n Wynebu Trychineb?
    Pwy Sy’n Gwneud Ewyllys Jehofa Heddiw?
    • GWERS 18

      Sut Rydyn Ni’n Helpu Ein Brodyr Sy’n Wynebu Trychineb?

      Tystion Jehofa yn rhoi cymorth ar ôl trychineb yng Ngweriniaeth Dominica

      Y Weriniaeth Ddominicaidd

      Gwirfoddolwyr yn ailadeiladu Neuadd y Deyrnas yn Japan

      Japan

      Un o Dystion Jehofa yn cysuro rhywun ar ôl trychineb yn Haiti

      Haiti

      Pan fo trychineb yn digwydd, mae Tystion Jehofa yn trefnu cymorth ar unwaith i helpu eu brodyr. Mae ymdrechion o’r fath yn dangos y cariad sydd gennyn ni tuag at ein gilydd. (Ioan 13:34, 35; 1 Ioan 3:17, 18) Ym mha ffyrdd rydyn ni’n helpu?

      Rydyn ni’n cyfrannu’n ariannol. Pan ddigwyddodd newyn mawr yn Jwdea, rhoddodd y Cristnogion cynnar yn Antiochia gymorth ariannol i helpu eu brodyr ysbrydol. (Actau 11:27-30) Yn yr un modd, pan ydyn ni’n clywed bod ein brodyr yn wynebu trychinebau, rydyn ni’n anfon arian trwy’r gynulleidfa leol er mwyn cyfrannu’n faterol ar gyfer y rhai sydd mewn gwir angen. —2 Corinthiaid 8:13-15.

      Rydyn ni’n rhoi cymorth ymarferol. Mae’r henuriaid yn ardal y drychineb yn cysylltu â phob aelod o’r gynulleidfa i sicrhau eu bod nhw’n ddiogel. Bydd pwyllgor cymorth yn trefnu bod bwyd, dŵr glân, dillad, lloches, a chymorth meddygol ar gael. Mae Tystion sy’n meddu ar sgiliau priodol, yn talu eu costau teithio eu hunain er mwyn gwirfoddoli i drwsio neu ailadeiladu tai a Neuaddau’r Deyrnas. Mae’r undod sydd gennyn ni fel cyfundrefn, a’n profiad o weithio gyda’n gilydd, yn ein galluogi ni i weithredu’n gyflym. Er ein bod ni’n helpu’r “rhai sydd o deulu’r ffydd,” rydyn ni hefyd yn helpu eraill pan fo hynny’n bosibl, beth bynnag yw eu crefydd.—Galatiaid 6:10.

      Rydyn ni’n rhoi cymorth ysbrydol ac emosiynol. Mae gwir angen cysur ar y rhai sydd wedi dioddef o achos trychinebau. Ar adegau fel hyn, rydyn ni’n dibynnu ar nerth Jehofa, y “Duw sy’n rhoi pob diddanwch.” (2 Corinthiaid 1:3, 4) Mae’n bleser inni rannu addewidion y Beibl â phobl sy’n dioddef a dangos iddyn nhw y bydd Teyrnas Dduw yn fuan yn rhoi terfyn ar yr holl drychinebau sy’n achosi poen a dioddefaint.—Datguddiad 21:4.

      • Pam mae’r Tystion yn gallu ymateb yn gyflym i drychinebau?

      • Pa gysur ysbrydol y gallwn ni ei roi i’r rhai sy’n goroesi trychinebau?

  • Pwy Yw’r “Gwas Ffyddlon a Chall”?
    Pwy Sy’n Gwneud Ewyllys Jehofa Heddiw?
    • GWERS 19

      Pwy Yw’r “Gwas Ffyddlon a Chall”?

      Iesu yn sgwrsio â’i ddisgyblion
      Un o Dystion Jehofa yn astudio’r Beibl gyda chymorth llyfr Beiblaidd

      Rydyn ni i gyd yn elwa ar fwyd ysbrydol

      Dau aelod o’r Corff Llywodraethol Tystion Jehofa

      Ychydig cyn iddo farw, cafodd Iesu sgwrs â phedwar o’i ddisgyblion—Pedr, Iago, Ioan, ac Andreas. Wrth iddo ragfynegi’r digwyddiadau a fyddai’n arwydd o’i bresenoldeb yn y dyddiau diwethaf, fe gododd gwestiwn pwysig: “Pwy ynteu yw’r gwas ffyddlon a chall a osodwyd gan ei feistr dros weision y tŷ, i roi eu bwyd iddynt yn ei bryd?” (Mathew 24:3, 45; Marc 13:3, 4) Fel eu “meistr,” roedd Iesu’n addo i’w ddisgyblion y byddai’n penodi rhai a fyddai’n darparu bwyd ysbrydol yn rheolaidd i’w ddilynwyr yn ystod y dyddiau diwethaf. Pwy fyddai’n rhan o’r “gwas”  hwn?

      Grŵp bach o ddilynwyr Iesu sydd wedi eu heneinio gan ysbryd Duw. Mae’r “gwas” yn gysylltiedig â Chorff Llywodraethol Tystion Jehofa. Mae’n darparu bwyd ysbrydol i’w gyd-addolwyr yn ei bryd. Rydyn ni’n dibynnu ar y gwas ffyddlon ‘i roi ein bwyd inni’ yn rheolaidd.—Luc 12:42.

      Mae’n gofalu am deulu Duw. (1 Timotheus 3:15) Rhoddodd Iesu gyfrifoldeb pwysig i’r gwas ffyddlon, sef, gofalu am y rhan ddaearol o gyfundrefn Jehofa. Mae hynny’n cynnwys edrych ar ôl asedau materol y gyfundrefn, arwain y gwaith pregethu, a’n dysgu ni drwy’r cynulleidfaoedd. Felly, er mwyn rhoi’r hyn rydyn ni’n ei angen yn ei bryd, mae’r “gwas ffyddlon a chall” yn dosbarthu bwyd ysbrydol inni drwy gyfrwng y cyhoeddiadau rydyn ni’n eu defnyddio yn y weinidogaeth a thrwy gyfrwng y cyfarfodydd a’r cynulliadau.

      Mae’r gwas yn ffyddlon i wirioneddau’r Beibl ac i’r comisiwn o bregethu’r newyddion da, ac mae’n gall yn y ffordd y mae’n gofalu am fuddiannau Crist ar y ddaear. (Actau 10:42) Mae’r cynnydd yn y nifer sy’n addoli Jehofa a’r wledd ysbrydol y maen nhw’n ei mwynhau yn dystiolaeth o fendith Jehofa ar waith y “gwas.”—Eseia 60:22; 65:13.

      • Pwy gafodd ei benodi gan Iesu i fwydo ei ddisgyblion yn ysbrydol?

      • Ym mha ffyrdd y mae’r gwas yn ffyddlon ac yn gall?

  • Sut Mae’r Corff Llywodraethol yn Gweithio Heddiw?
    Pwy Sy’n Gwneud Ewyllys Jehofa Heddiw?
    • GWERS 20

      Sut Mae’r Corff Llywodraethol yn Gweithio Heddiw?

      Corff llywodraethol y ganrif gyntaf

      Corff llywodraethol y ganrif gyntaf

      Cristnogion y ganrif gyntaf yn darllen llythyr oddi wrth y corff llywodraethol

      Darllen llythyr oddi wrth y corff llywodraethol

      Yn y ganrif gyntaf, roedd “yr apostolion a’r henuriaid yn Jerwsalem” yn gwasanaethu fel corff llywodraethol a oedd yn gwneud penderfyniadau pwysig dros yr holl gynulleidfaoedd o Gristnogion eneiniog. (Actau 15:2) Roedden nhw’n trafod yr Ysgrythurau ac yn ildio i arweiniad ysbryd Duw cyn dod i benderfyniad unfrydol. (Actau 15:25) Dilynir yr un patrwm heddiw.

      Mae’n cael ei ddefnyddio gan Dduw i wneud ei ewyllys. Mae gan y brodyr eneiniog sydd ar y Corff Llywodraethol ddiddordeb dwfn yng Ngair Duw, ac mae ganddyn nhw brofiad o ddelio gyda materion ysbrydol ac ymarferol. Maen nhw’n cyfarfod bob wythnos i drafod anghenion y frawdoliaeth fyd-eang. Fel roedd yn digwydd yn y ganrif gyntaf, anfonir cyfarwyddiadau sy’n seiliedig ar y Beibl at y cynulleidfaoedd drwy lythyr neu drwy’r arolygwyr teithiol ac eraill. Mae hynny’n helpu pobl Dduw i feddwl ac ymddwyn yn gytûn. (Actau 16:4, 5) Mae’r Corff Llywodraethol yn goruchwylio’r gwaith o baratoi bwyd ysbrydol, yn hyrwyddo’r gwaith pregethu, ac yn arolygu’r gwaith o benodi brodyr i gymryd cyfrifoldebau.

      Mae’n ildio i arweiniad ysbryd Duw. Mae’r Corff Llywodraethol yn troi at Jehofa, Penarglwydd y Bydysawd, ac at Iesu, Pen y gynulleidfa, am arweiniad. (1 Corinthiaid 11:3; Effesiaid 5:23) Nid yw’r aelodau yn eu gweld eu hunain fel arweinwyr pobl Dduw. Ynghyd â phob Cristion eneiniog, maen nhw’n “dilyn yr Oen [Iesu] i ble bynnag yr â.” (Datguddiad 14:4) Mae’r Corff Llywodraethol yn ddiolchgar am ein gweddïau drostyn nhw a thros eu gwaith.

      • Pwy oedd aelodau’r corff llywodraethol yn y ganrif gyntaf?

      • Sut mae’r Corff Llywodraethol heddiw yn edrych at Dduw am arweiniad?

      I DDYSGU MWY

      Darllenwch Actau 15:1-35, a sylwch sut roedd corff llywodraethol y ganrif gyntaf yn trafod ac yn datrys anghydfod drwy ddilyn arweiniad yr Ysgrythurau a’r ysbryd glân.

  • Beth Yw Bethel?
    Pwy Sy’n Gwneud Ewyllys Jehofa Heddiw?
    • GWERS 21

      Beth Yw Bethel?

      Dau o Dystion Jehofa yn gweithio yn yr Adran Celf

      Adran Celf, U.D.A.

      Un o Dystion Jehofa yn gweithio yn argraffdy Bethel yn yr Almaen

      Yr Almaen

      Un o Dystion Jehofa yn gweithio yn argraffdy Bethel yn yr Almaen

      Cenya

      Arlwyo byrddau yn ffreutur Bethel yn Colombia

      Colombia

      Mae’r enw Bethel, sy’n dod o’r Hebraeg, yn golygu ‘Tŷ Dduw.’ (Genesis 28:17, 19) Mae hwnnw’n enw addas ar gyfer adeiladau y mae Tystion Jehofa yn eu defnyddio o gwmpas y byd er mwyn cefnogi a threfnu’r gwaith pregethu. Mae’r Corff Llywodraethol yn gweithio o’r pencadlys byd-eang yn Nhalaith Efrog Newydd, U.D.A., ac o’r lle hwnnw y mae’n goruchwylio gwaith y swyddfeydd cangen mewn llawer o wledydd eraill. Fel grŵp, mae’r rhai sy’n gweithio yn y llefydd hynny yn cael eu hadnabod fel y teulu Bethel. Fel teulu, maen nhw’n byw ac yn gweithio gyda’i gilydd, yn bwyta gyda’i gilydd, ac yn astudio’r Beibl gyda’i gilydd.—Salm 133:1.

      Mae’n lle unigryw ac mae’r aelodau yn rhoi o’u gwirfodd. Ym mhob Bethel, mae brodyr a chwiorydd Cristnogol sydd wedi dewis gwneud ewyllys Duw yn gwasanaethu’r Deyrnas yn llawn amser. (Mathew 6:33) Does dim un ohonyn nhw’n derbyn cyflog, ond mae pob un yn cael llety a lluniaeth ynghyd â lwfans i’w helpu gyda’i dreuliau personol. Mae gan bawb yn y Bethel aseiniad. Mae rhai’n gweithio mewn swyddfeydd, yn y gegin, neu yn yr ystafell fwyta. Mae eraill yn gwneud gwaith argraffu, rhwymo llyfrau, cadw tŷ, golchi dillad, cynnal a chadw, neu bethau eraill.

      Mae’n lle prysur sy’n cefnogi’r gwaith o bregethu’r Deyrnas. Prif amcan pob Bethel yw sicrhau bod cynifer o bobl ag sy’n bosibl yn clywed neges y Beibl. Er enghraifft, cymerwch y llyfryn hwn. Cafodd ei ysgrifennu o dan arweiniad y Corff Llywodraethol, ei anfon yn electroneg i gannoedd o dimau cyfieithu o gwmpas y byd, ei argraffu ar weisg cyflym mewn argraffdai Bethel, a’i gludo i fwy na 110,000 o gynulleidfaoedd. Pob cam o’r ffordd, mae teuluoedd Bethel yn rhoi cefnogaeth hanfodol i’r gwaith pwysicaf oll—pregethu’r newyddion da.—Marc 13:10.

      • Pwy sy’n gwasanaethu ym Methel, a pha ddarpariaethau sydd yno ar eu cyfer?

      • Pa waith pwysig sy’n cael ei gefnogi gan weithgareddau ym Methel?

  • Beth Sy’n Digwydd Mewn Swyddfa Gangen?
    Pwy Sy’n Gwneud Ewyllys Jehofa Heddiw?
    • GWERS 22

      Beth Sy’n Digwydd Mewn Swyddfa Gangen?

      Grŵp o ddynion yn trefnu’r gwaith yng nghangen Ynysoedd Solomon

      Ynysoedd Solomon

      Un o Dystion Jehofa yn swyddfa’r gangen yn Canada

      Canada

      Lorïau yn cludo llenyddiaeth

      De Affrica

      Mae aelodau teulu Bethel yn gweithio mewn gwahanol adrannau er mwyn gofalu am y gwaith pregethu mewn un neu fwy o wledydd. Maen nhw’n gwneud gwaith cyfieithu, yn argraffu cylchgronau, yn rhwymo llyfrau, yn storio cyhoeddiadau, yn creu cynyrchiadau sain, yn gwneud DVDs, ac yn gofalu am faterion eraill yn y rhanbarth.

      Mae Pwyllgor Cangen yn goruchwylio’r gwaith. Mae’r Corff Llywodraethol yn rhoi’r cyfrifoldeb o redeg pob swyddfa gangen i Bwyllgor Cangen sy’n cynnwys o leiaf dri henuriad cymwys. Mae’r pwyllgor yn rhoi gwybod i’r Corff Llywodraethol am gynnydd y gwaith yn y gwledydd sydd o dan ei ofal, a hefyd am unrhyw broblemau sy’n codi. Mae adroddiadau o’r fath yn helpu’r Corff Llywodraethol i benderfynu pa bynciau y dylen nhw eu trafod yn y cyhoeddiadau, yn y cyfarfodydd, ac yn y cynulliadau. Mae’r Corff Llywodraethol yn anfon cynrychiolwyr i ymweld â’r canghennau’n rheolaidd, ac i roi arweiniad i Bwyllgorau’r Canghennau. (Diarhebion 11:14) Trefnir rhaglen arbennig sy’n cynnwys anerchiad gan gynrychiolydd y pencadlys, er mwyn calonogi’r rhai sydd dan ofal y gangen honno.

      Mae’r Gangen yn cefnogi’r cynulleidfaoedd o dan ei gofal. Mae brodyr cyfrifol yn y swyddfa gangen yn rhoi caniatâd i ffurfio cynulleidfaoedd newydd. Maen nhw hefyd yn cyfarwyddo gwaith yr arloeswyr, y cenhadon, a’r arolygwyr cylchdaith sy’n gwasanaethu yn nhiriogaeth y gangen. Maen nhw’n trefnu cynulliadau a chynadleddau, yn cydlynu’r gwaith o adeiladu Neuaddau’r Deyrnas, ac yn sicrhau bod y cyhoeddiadau’n cyrraedd y cynulleidfaoedd. Mae’r holl waith sy’n cael ei wneud yn y gangen yn cyfrannu at y gwaith pregethu.—1 Corinthiaid 14:33, 40.

      • Sut mae Pwyllgorau Cangen yn cynorthwyo’r Corff Llywodraethol?

      • Am ba gyfrifoldebau mae’r swyddfa gangen yn gofalu?

      I DDYSGU MWY

      Mae croeso ichi fynd ar daith o amgylch unrhyw swyddfa gangen, o ddydd Llun i ddydd Gwener. Gwisgwch fel petaech chi’n mynd i gyfarfod yn Neuadd y Deyrnas. Bydd ymweld â Bethel yn cryfhau eich ffydd.

  • Sut Mae Ein Cyhoeddiadau yn Cael Eu Hysgrifennu a’u Cyfieithu?
    Pwy Sy’n Gwneud Ewyllys Jehofa Heddiw?
    • GWERS 23

      Sut Mae Ein Cyhoeddiadau yn Cael Eu Hysgrifennu a’u Cyfieithu?

      Rhywun yn gweithio yn yr Adran Ysgrifennu, U.D.A.

      Adran Ysgrifennu, U.D.A.

      Tîm o gyfieithwyr yn Ne Corea

      De Corea

      Dyn yn Armenia yn dal llyfr wedi’i gyfieithu gan Dystion Jehofa

      Armenia

      Merch yn Bwrwndi yn dal llyfr wedi’i gyfieithu gan Dystion Jehofa

      Burundi

      Dynes o Sri Lanca yn dal y cylchgronau a gyfieithwyd gan Dystion Jehofa

      Sri Lanca

      Er mwyn gwneud ein gorau i gyhoeddi’r newyddion da i “bob cenedl a llwyth ac iaith a phobl,” rydyn ni’n cyhoeddi mewn mwy na 750 o ieithoedd. (Datguddiad 14:6) Sut rydyn ni’n cyflawni hyn i gyd? Gyda chymorth tîm o ysgrifenwyr a chyfieithwyr rhyngwladol, pob un ohonyn nhw’n Dystion Jehofa.

      Mae’r testun gwreiddiol yn cael ei baratoi yn Saesneg. Mae’r Corff Llywodraethol yn goruchwylio gwaith yr Adran Ysgrifennu o’n pencadlys byd-eang. Mae’r adran yn cydlynu aseiniadau’r ysgrifenwyr sy’n gweithio yn y pencadlys ac mewn rhai swyddfeydd cangen eraill. Oherwydd bod yr ysgrifenwyr yn dod o wahanol gefndiroedd, rydyn ni’n gallu rhoi sylw i bynciau a fydd yn apelio at bobl trwy’r byd.

      Mae’r testun yn cael ei anfon at y cyfieithwyr. Ar ôl i’r testun gael ei olygu a’i gymeradwyo, mae’n cael ei anfon yn electroneg at gyfieithwyr ar draws y byd. Maen nhw’n gweithio mewn timau i gyfieithu, gwirio, a darllen dros y testun. Maen nhw’n gweithio’n galed i “ysgrifennu geiriau cywir” a fydd yn cyfleu ystyr cyflawn y Saesneg yn eu hiaith eu hunain.—Pregethwr 12:10.

      Mae cyfrifiaduron yn cyflymu’r broses. Nid yw cyfrifiaduron yn gallu cymryd lle ysgrifenwyr neu gyfieithwyr. Er hynny, mae cyfrifiaduron sy’n defnyddio geiriaduron electroneg ac adnoddau ymchwil eraill yn gallu hwyluso’r gwaith. Mae Tystion Jehofa wedi creu’r Multilanguage Electronic Publishing System (MEPS) sy’n gallu trin testunau mewn cannoedd o ieithoedd, eu cyfuno ag unrhyw luniau, a’u cysodi ar gyfer eu hargraffu.

      Pam rydyn ni’n gwneud cymaint o ymdrech, hyd yn oed ar gyfer ieithoedd sy’n cael eu siarad gan ddim ond ychydig o filoedd o bobl? Oherwydd bod Jehofa yn “dymuno gweld pob un yn cael ei achub ac yn dod i ganfod y gwirionedd.”—1 Timotheus 2:3, 4.

      • Sut mae’r gwaith ysgrifennu yn cael ei wneud ar gyfer ein cyhoeddiadau?

      • Pam rydyn ni’n cyfieithu i gynifer o wahanol ieithoedd?

  • Sut Mae Ein Gwaith Byd-Eang yn Cael ei Ariannu?
    Pwy Sy’n Gwneud Ewyllys Jehofa Heddiw?
    • GWERS 24

      Sut Mae Ein Gwaith Byd-Eang yn Cael ei Ariannu?

      Someone making a voluntary contribution
      Tystion Jehofa yn y gwaith pregethu

      Nepal

      Gwirfoddolwyr yn adeiladu Neuaddau’r Deyrnas yn Togo

      Togo

      Gwirfoddolwyr yn gweithio yn y swyddfa gangen yn Prydain

      Prydain

      Bob blwyddyn, mae ein cyfundrefn yn cyhoeddi ac yn dosbarthu cannoedd o filiynau o Feiblau a chyhoeddiadau eraill yn ddi-dâl. Rydyn ni’n adeiladu ac yn gofalu am Neuaddau’r Deyrnas a swyddfeydd cangen. Rydyn ni’n talu costau miloedd o genhadon a gweithwyr Bethel, ac yn rhoi cymorth pan fo trychinebau’n digwydd. Efallai eich bod chi’n gofyn, ‘Sut mae hyn i gyd yn cael ei ariannu?’

      Dydyn ni ddim yn codi tâl aelodaeth, nac yn gwneud casgliadau nac yn gofyn am ddegwm. Er bod cost y gwaith pregethu yn uchel, dydyn ni ddim yn mynnu arian gan bobl. Dros ganrif yn ôl, dywedodd ail rifyn y Watchtower ein bod ni’n credu mai Jehofa yw’r un sydd yn ein cefnogi ac “ni fyddwn byth yn ymbil nac yn deisyf ar bobl am gefnogaeth”—ac nid ydyn ni erioed wedi gwneud hynny!—Mathew 10:8.

      Cyfraniadau gwirfoddol sy’n talu am ein gwaith. Mae llawer o bobl yn gwerthfawrogi ein gwaith o ddysgu’r Beibl ac yn cyfrannu tuag ato. Mae’r Tystion eu hunain yn hapus i gyfrannu arian, amser, egni, ac adnoddau eraill er mwyn gwneud ewyllys Duw drwy’r byd. (1 Cronicl 29:9) Yn Neuadd y Deyrnas, a’r cynulliadau, ceir blychau cyfrannu lle gall pobl roi arian os ydyn nhw’n dymuno, neu mae’n bosibl i gyfrannu drwy fynd i’r wefan jw.org. Mae’r rhan fwyaf o’r cyfraniadau yn cael eu rhoi gan bobl nad ydyn nhw’n ennill llawer o arian, fel, er enghraifft, y weddw dlawd y soniodd Iesu amdani a roddodd ddau ddarn bychan o bres yng nghist trysorfa’r deml. (Luc 21:1-4) Felly, gall unrhyw un “osod cyfran o’r neilltu” a rhoi “o wirfodd ei galon.”—1 Corinthiaid 16:2; 2 Corinthiaid 9:7.

      Rydyn ni’n hyderus y bydd Jehofa yn sicrhau bod ei ewyllys yn cael ei wneud drwy ysgogi’r rhai sydd eisiau ‘anrhydeddu’r Arglwydd â’u cyfoeth’ i gefnogi gwaith y Deyrnas.—Diarhebion 3:9.

      • Sut mae ein cyfundrefn ni’n wahanol i grefyddau eraill?

      • Sut mae cyfraniadau gwirfoddol yn cael eu defnyddio?

  • Neuaddau’r Deyrnas—Pam Maen Nhw’n Cael Eu Hadeiladu a Sut?
    Pwy Sy’n Gwneud Ewyllys Jehofa Heddiw?
    • GWERS 25

      Neuaddau’r Deyrnas—Pam Maen Nhw’n Cael Eu Hadeiladu a Sut?

      Gwirfoddolwyr yn adeiladu Neuaddau’r Deyrnas ym Molifia

      Bolifia

      Neuadd y Deyrnas yn Nigeria cyn y prosiect
      Neuadd y Deyrnas yn Nigeria ar ôl y prosiect

      Nigeria, cyn y prosiect ac ar ôl y prosiect

      Man adeiladu Neuadd y Deyrnas yn Tahiti

      Tahiti

      Fel y mae’r enw Neuadd y Deyrnas yn ei awgrymu, Teyrnas Dduw yw’r brif ddysgeidiaeth Feiblaidd sy’n cael ei thrafod yno. Wedi’r cwbl, y Deyrnas oedd prif thema gweinidogaeth Iesu.—Luc 8:1.

      Canolfannau pur addoliad ydyn nhw. O Neuadd y Deyrnas y mae’r gwaith o bregethu’r newyddion da yn cael ei drefnu. (Mathew 24:14) Mae Neuaddau’r Deyrnas yn amrywio o ran maint a chynllun, ond maen nhw i gyd yn adeiladau syml. Mae llawer yn cael eu defnyddio gan fwy nag un gynulleidfa. Dros y blynyddoedd diwethaf, rydyn ni wedi adeiladu miloedd ar filoedd o Neuaddau’r Deyrnas (pump bob dydd ar gyfartaledd) er mwyn darparu dros nifer cynyddol o gynulleidfaoedd. Sut mae hyn yn bosibl?—Mathew 19:26.

      Maen nhw’n cael eu hadeiladu drwy ddefnyddio cyfraniadau o gronfa ganolog. Mae’r cyfraniadau yn cael eu hanfon i’r swyddfa gangen fel y gall cynulleidfaoedd fenthyg arian er mwyn adeiladu neu adnewyddu eu Neuaddau’r Deyrnas.

      Maen nhw’n cael eu hadeiladu gan wirfoddolwyr o bob cefndir. Mewn llawer o wledydd mae Grwpiau Adeiladu Neuaddau’r Deyrnas wedi cael eu trefnu. Mae timau o wirfoddolwyr yn symud o un gynulleidfa i un arall, hyd yn oed i ardaloedd anodd eu cyrraedd. Maen nhw’n helpu’r cynulleidfaoedd lleol i adeiladu eu Neuaddau’r Deyrnas. Mewn gwledydd eraill mae Tystion cymwys wedi cael eu penodi i oruchwylio’r gwaith adeiladu ac adnewyddu Neuaddau’r Deyrnas yn yr ardal o dan eu gofal. Er bod llawer o grefftwyr o’r ardal yn cynnig eu sgiliau a’u llafur yn rhad ac am ddim, ar bob safle adeiladu mae’r rhan fwyaf o’r gwirfoddolwyr yn aelodau o’r gynulleidfa leol. Mae ysbryd Jehofa a brwdfrydedd ei bobl yn gwneud hyn i gyd yn bosibl.—Salm 127:1; Colosiaid 3:23.

      • Pam rydyn ni’n galw ein canolfannau addoli yn Neuaddau’r Deyrnas?

      • Sut mae’n bosibl adeiladu Neuaddau’r Deyrnas ar hyd a lled y byd?

  • Sut Medrwn Ni Helpu i Gynnal a Chadw Neuadd y Deyrnas?
    Pwy Sy’n Gwneud Ewyllys Jehofa Heddiw?
    • GWERS 26

      Sut Medrwn Ni Helpu i Gynnal a Chadw Neuadd y Deyrnas?

      Tystion Jehofa yn glanhau Neuadd y Deyrnas yn Estonia

      Estonia

      Tystion Jehofa yn glanhau Neuadd y Deyrnas yn Simbabwe

      Simbabwe

      Un o Dystion Jehofa yn trwsio Neuadd y Deyrnas ym Mongolia

      Mongolia

      Un o Dystion Jehofa yn peintio Neuadd y Deyrnas yn Puerto Rico

      Puerto Rico

      Mae pob Neuadd y Deyrnas Tystion Jehofa yn dwyn enw sanctaidd Duw. I ni, braint a rhan o’n haddoliad yw helpu i gadw’r adeilad hwn yn lân ac mewn cyflwr da. Gall pawb helpu i wneud hyn.

      Gwirfoddolwch i lanhau ar ôl y cyfarfod. Ar ôl  pob cyfarfod, mae brodyr a chwiorydd yn tacluso’r Neuadd, ac unwaith yr wythnos maen nhw’n ei glanhau. Henuriad neu was gweinidogaethol sy’n trefnu’r gwaith, fel arfer drwy ddilyn rhestr o bethau i’w gwneud. Mae gwirfoddolwyr yn glanhau’r llawr, yn dystio, yn trefnu’r cadeiriau, yn cael gwared ar yr ysbwriel, yn glanhau’r toiledau, y ffenestri a’r drychau, ac yn tacluso’r tu allan. O leiaf unwaith y flwyddyn, mae diwrnod yn cael ei neilltuo ar gyfer glanhau’r Neuadd yn drwyadl. Drwy ofyn i’n plant helpu yn y gwaith, rydyn ni yn eu hyfforddi i barchu ein haddoldy.—Pregethwr 5:1.

      Rhowch help llaw gyda’r gwaith o gynnal a chadw. Bob blwyddyn, mae Neuaddau’r Deyrnas yn cael ei archwilio’n fanwl, y tu mewn a thu allan. Yn dilyn yr archwiliad hwn, mae gwaith cynnal a chadw yn cael ei wneud er mwyn cadw’r neuadd mewn cyflwr da, ac osgoi costau diangen. (2 Cronicl 24:13; 34:10) Mae Neuadd y Deyrnas sy’n lân ac mewn cyflwr da yn lle teilwng ar gyfer addoli ein Duw. Drwy gymryd rhan yn y gwaith hwn, rydyn ni’n dangos ein bod ni’n caru Jehofa a bod Neuadd y Deyrnas yn lle pwysig inni. (Salm 122:1) Hefyd, mae hyn yn creu enw da yn y gymuned.—2 Corinthiaid 6:3.

      • Pam dylen ni ofalu am ein haddoldy?

      • Sut rydyn ni’n trefnu’r gwaith o lanhau Neuadd y Deyrnas?

  • Sut Gall y Llyfrgell yn Neuadd y Deyrnas Ein Helpu Ni?
    Pwy Sy’n Gwneud Ewyllys Jehofa Heddiw?
    • GWERS 27

      Sut Gall y Llyfrgell yn Neuadd y Deyrnas Ein Helpu Ni?

      Dyn yn defnyddio llyfrgell Neuadd y Deyrnas

      Israel

      Un o Dystion Jehofa yn helpu dyn ifanc i wneud ymchwil

      Gweriniaeth Tsiec

      Merch ifanc yn ysgrifennu ei henw yn ei llyfr caneuon

      Benin

      Dyn yn defnyddio Watchtower Library i wneud ymchwil

      Ynysoedd Caiman

      Hoffech chi wneud mwy o ymchwil er mwyn dyfnhau eich gwybodaeth o’r Beibl? Hoffech chi wybod mwy am adnod benodol, person, lle, neu am unrhyw beth sy’n cael ei drafod yn y Beibl? Neu, hoffech chi wybod sut i ddod o hyd i gyngor yng Ngair Duw a fydd yn eich helpu gyda rhyw broblem benodol? Os felly, ewch ati i ddefnyddio llyfrgell Neuadd y Deyrnas.

      Mae’n cynnwys offer ymchwil defnyddiol. Mae’n debyg na fydd gennych holl gyhoeddiadau Tystion Jehofa sydd ar gael yn eich iaith chi. Ond mae llyfrgell Neuadd y Deyrnas yn cynnwys y rhan fwyaf o’r cyhoeddiadau diweddaraf. Efallai hefyd y bydd yn cynnwys nifer o gyfieithiadau o’r Beibl, geiriaduron da, a chyfeirlyfrau defnyddiol eraill. Mae croeso ichi ddefnyddio’r llyfrgell cyn y cyfarfodydd neu ar eu hôl. Os yw cyfrifiadur ar gael, efallai y bydd Watchtower Library wedi ei osod arno. Rhaglen electroneg yw hon, sy’n cynnwys nifer mawr o’n cyhoeddiadau ynghyd â pheiriant chwilio hawdd ei ddefnyddio er mwyn dod o hyd i wybodaeth ar unrhyw bwnc, gair neu adnod.

      Mae’n ddefnyddiol ar gyfer myfyrwyr y Cyfarfod Ein Bywyd a’n Gweinidogaeth. Efallai y byddwch yn gallu defnyddio llyfrgell Neuadd y Deyrnas ar gyfer paratoi eich aseiniadau. Mae arolygwr y Cyfarfod Ein Bywyd a’n Gweinidogaeth yn gofalu am y llyfrgell ac yn sicrhau bod y cyhoeddiadau diweddaraf ar gael a bod popeth yn ei le. Bydd ef neu eich athro Beiblaidd yn hapus i ddangos ichi sut mae dod o hyd i wybodaeth yn y llyfrgell. Sut bynnag, ni ddylid mynd â llyfrau allan o’r llyfrgell. Mae’n bwysig hefyd inni drin y llyfrau yn ofalus a pheidio ag ysgrifennu ynddyn nhw.

      Yn ôl y Beibl, er mwyn inni gael “gwybodaeth o Dduw,” mae’n rhaid inni fod yn fodlon ‘cloddio amdani fel am drysor.’ (Diarhebion 2:1-5) Gall llyfrgell Neuadd y Deyrnas eich helpu chi i ddechrau gwneud hynny.

      • Pa offer ymchwil sydd ar gael yn llyfrgell Neuadd y Deyrnas?

      • Pwy all eich helpu chi i wneud y defnydd gorau o’r llyfrgell?

      I DDYSGU MWY

      Os hoffech chi roi llyfrgell bersonol at ei gilydd, ewch at y cownter cyhoeddiadau i weld beth sydd ar gael. Gall eich athro  Beiblaidd awgrymu pa lyfrau y dylech chi fynd ar eu holau yn gyntaf.

  • Beth Sydd ar Gael ar Ein Gwefan?
    Pwy Sy’n Gwneud Ewyllys Jehofa Heddiw?
    • GWERS 28

      Beth Sydd ar Gael ar Ein Gwefan?

      Merch yn gwneud ymchwil ar ei gliniadur

      Ffrainc

      Teulu yn defnyddio cyfrifriadur

      Gwlad Pwyl

      Dynes yn gwylio fideo ar lein mewn iaith arwyddion

      Rwsia

      Dywedodd Iesu Grist wrth ei ddilynwyr: “Boed i’ch goleuni chwithau lewyrchu gerbron eraill, er mwyn iddynt weld eich gweithredoedd da chwi a gogoneddu eich Tad, yr hwn sydd yn y nefoedd.” (Mathew 5:16) Er mwyn gwneud hynny, rydyn ni’n defnyddio technoleg fodern, gan gynnwys y rhyngrwyd. Gwefan swyddogol Tystion Jehofa yw jw.org ac yno y cewch wybodaeth am ein daliadau a’n gwaith. Beth sydd ar y wefan?

      Atebion y Beibl i gwestiynau sy’n codi’n aml. Gallwch ddod o hyd i atebion i rai o’r cwestiynau pwysicaf a ofynnwyd erioed. Er enghraifft, mae’r taflenni A Fydd Pobl yn Dioddef am Byth? ac A Fydd y Meirw yn Cael Byw Eto? ar gael mewn dros 600 o ieithoedd. Hefyd, mae’r New World Translation ar gael mewn dros 130 o ieithoedd ynghyd ag adnoddau eraill i’ch helpu chi i astudio’r Beibl, gan gynnwys y llyfr Beth Mae’r Beibl yn ei Wir Ddysgu? a’r rhifynnau diweddaraf o’r Watchtower a’r Awake! Gallwch ddarllen neu wrando ar lawer o’r cyhoeddiadau hyn ar-lein neu eu lawrlwytho mewn fformatiau fel MP3, PDF, ac EPUB. Medrwch chi hyd yn oed argraffu ychydig o dudalennau i’w rhoi i rywun sy’n dangos diddordeb, a hynny yn ei iaith ei hun! Mae fideos ar gael mewn ugeiniau o ieithoedd arwyddion. Cewch lawrlwytho darlleniadau dramatig o’r Beibl, dramâu, a cherddoriaeth hyfryd ichi wrando arnyn nhw yn eich amser eich hun.

      Gwybodaeth ffeithiol am Dystion Jehofa. Ar ein gwefan, cewch newyddion a fideos am waith byd-eang a gwaith dyngarol Tystion Jehofa, ynghyd â digwyddiadau sy’n effeithio arnon ni. Hefyd, cewch wybodaeth am ein cynadleddau a manylion cyswllt y swyddfeydd cangen.

      Drwy’r ffyrdd hyn, rydyn ni’n sicrhau bod goleuni’r gwirionedd yn disgleirio ledled y byd. Mae pobl ar bob cyfandir, gan gynnwys yr Antarctig, yn elwa. Rydyn ni’n gweddïo am i “air yr Arglwydd fynd rhagddo” drwy’r byd i gyd, er gogoniant Duw.—2 Thesaloniaid 3:1.

      • Sut mae jw.org yn helpu mwy o bobl i ddysgu gwirionedd y Beibl?

      • Beth sydd o ddiddordeb i chi ar ein gwefan?

      GAIR O RYBUDD:

      Mae gwrthwynebwyr wedi sefydlu gwefannau sy’n rhoi gwybodaeth anghywir am ein cyfundrefn. Eu bwriad yw denu pobl oddi wrth Jehofa. Dylen ni osgoi’r gwefannau hyn.—Salm 1:1; 26:4; Rhufeiniaid 16:17.

Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
Allgofnodi
Mewngofnodi
  • Cymraeg
  • Rhannu
  • Dewisiadau
  • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
  • Telerau Defnyddio
  • Polisi Preifatrwydd
  • Gosodiadau Preifatrwydd
  • JW.ORG
  • Mewngofnodi
Rhannu