-
Beth Yw Teyrnas Dduw?Mwynhewch Fywyd am Byth!—Cwrs Rhyngweithiol am y Beibl
-
-
GWERS 31
Beth Yw Teyrnas Dduw?
Teyrnas Dduw yw prif thema’r Beibl. Bydd Jehofa yn defnyddio’r Deyrnas i gyflawni ei bwrpas gwreiddiol ar gyfer y ddaear. Ond beth yw’r Deyrnas? Sut rydyn ni’n gwybod ei bod yn llywodraethu nawr? Beth mae’r Deyrnas eisoes wedi ei gyflawni? A beth y mae’n mynd i’w wneud yn y dyfodol? Bydd y wers hon a’r ddwy wers nesaf yn ateb y cwestiynau hynny.
1. Beth yw Teyrnas Dduw, a phwy sy’n Frenin arni?
Llywodraeth yw’r Deyrnas sydd wedi ei sefydlu gan Jehofa Dduw. Iesu Grist yw Brenin y Deyrnas, ac mae’n teyrnasu o’r nef. (Mathew 4:17; Ioan 18:36) Mae’r Beibl yn dweud am Iesu: “Fe fydd yn rheoli fel Brenin . . . am byth.” (Luc 1:32, 33) Fel Brenin ar Deyrnas Dduw, bydd Iesu yn llywodraethu dros bawb ar y ddaear.
2. Pwy sy’n teyrnasu gyda Iesu?
Dydy Iesu ddim yn teyrnasu ar ei ben ei hun. Mae’r Beibl yn dweud y bydd rhai “o bob llwyth ac iaith a hil a chenedl . . . [yn] rheoli fel brenhinoedd dros y ddaear.” (Datguddiad 5:9, 10) Faint o bobl fydd yn teyrnasu gyda Christ? Ers i Iesu ddod i’r ddaear, mae miliynau o Gristnogion wedi dod yn ddilynwyr iddo. Ond dim ond 144,000 fydd yn rheoli gydag ef yn y nefoedd. (Darllenwch Datguddiad 14:1-4.) Bydd pob Cristion arall yn byw ar y ddaear o dan Deyrnas Dduw.—Salm 37:29.
3. Sut mae Teyrnas Dduw yn well na llywodraethau dynol?
Hyd yn oed pan fo llywodraethwyr yn ceisio gwneud pethau da, nid yw hynny bob tro o fewn eu gallu. Ac yn y pen draw, maen nhw’n cael eu disodli, efallai gan rai sydd â syniadau gwahanol. Ond ni chaiff Iesu, Brenin Teyrnas Dduw, byth ei ddisodli. Mae Duw wedi “sefydlu teyrnas fydd byth yn cael ei dinistrio.” (Daniel 2:44) Bydd Iesu yn teyrnasu dros y ddaear gyfan, a hynny mewn ffordd hollol deg. Mae Iesu yn garedig ac yn gyfiawn, ac y bydd yn dysgu pobl i drin eraill yn yr un ffordd—gyda chariad a chyfiawnder.—Darllenwch Eseia 11:9.
CLODDIO’N DDYFNACH
Ystyriwch pam mae Teyrnas Dduw yn well nag unrhyw lywodraeth ddynol.
4. Bydd un llywodraeth bwerus yn rheoli dros yr holl ddaear
Mae gan Iesu Grist fwy o awdurdod nag unrhyw lywodraethwr arall mewn hanes. Darllenwch Mathew 28:18, ac yna trafodwch y cwestiwn hwn:
Pam mae awdurdod Iesu yn well nag unrhyw lywodraethwr dynol?
Mae llywodraethau dynol yn newid yn aml, ac yn rheoli dros un rhan o’r ddaear yn unig. Beth am Deyrnas Dduw? Darllenwch Daniel 7:14, ac yna trafodwch y cwestiynau hyn:
Ni fydd Teyrnas Dduw “byth yn cael ei dinistrio.” Pam mae hynny’n beth da?
Bydd Teyrnas Dduw yn llywodraethu dros yr holl ddaear. Pam mae hynny’n beth da?
5. Mae’n rhaid disodli llywodraethau dynol
Pam mae’n rhaid i Deyrnas Dduw ddisodli llywodraethau dynol? Gwyliwch y FIDEO, ac yna trafodwch y cwestiwn sy’n dilyn.
Beth sydd wedi digwydd o dan lywodraethau dynol?
Darllenwch Pregethwr 8:9, ac yna trafodwch y cwestiynau hyn:
Ydych chi’n meddwl y dylai Teyrnas Dduw ddisodli llywodraethau dynol? Pam?
6. Mae llywodraethwyr Teyrnas Dduw yn deall ein natur ni
Gan fod ein Brenin, Iesu, wedi byw ar y ddaear, mae’n “gallu cydymdeimlo â’n gwendidau.” (Hebreaid 4:15) Mae Jehofa wedi dewis 144,000 o ddynion a menywod ffyddlon “o bob llwyth ac iaith a hil a chenedl,” i lywodraethu gyda Iesu.—Datguddiad 5:9.
Ydy’r ffaith bod Iesu a’i gyd-lywodraethwyr wedi byw ar y ddaear yn gysur ichi? Pam?
Mae Jehofa wedi dewis dynion a merched o gefndiroedd gwahanol i lywodraethu gyda Iesu
7. Mae gan Deyrnas Dduw ddeddfau gwell
Pwrpas deddfau unrhyw lywodraeth yw amddiffyn pobl y wlad honno. Mae gan Deyrnas Dduw gyfreithiau hefyd. Darllenwch 1 Corinthiaid 6:9-11, ac yna trafodwch y cwestiynau hyn:
Sut le fydd y byd pan fydd pawb yn dilyn cyfreithiau Duw?a
Ydy hi’n deg i Jehofa ddisgwyl i bobl sy’n byw o dan ei Deyrnas ddilyn y cyfreithiau hyn? Pam?
Beth sy’n dangos ei bod hi’n bosib i bobl newid a dilyn y cyfreithiau hyn?—Gweler adnod 11.
Mae llywodraethau yn pasio deddfau er mwyn amddiffyn eu dinasyddion. Ond mae gan Deyrnas Dduw gyfreithiau gwell i amddiffyn ei dinasyddion.
BYDD RHAI YN GOFYN: “Beth yw Teyrnas Dduw?”
Sut byddech chi’n ateb?
CRYNODEB
Llywodraeth go iawn yn y nefoedd yw Teyrnas Dduw ac fe fydd yn teyrnasu dros y byd i gyd.
Adolygu
Pwy yw llywodraethwyr Teyrnas Dduw?
Sut mae Teyrnas Dduw yn well na llywodraethau dynol?
Beth mae Jehofa yn ei ddisgwyl gan bobl sy’n byw o dan ei Deyrnas?
DARGANFOD MWY
Ystyriwch beth ddywedodd Iesu am leoliad y Deyrnas.
Pam mae Tystion Jehofa yn dewis bod yn ffyddlon i Deyrnas Dduw yn hytrach nag i lywodraethau dynol?
Ystyriwch beth mae’r Beibl yn ei ddweud am y 144,000 y mae Jehofa wedi eu dewis i lywodraethu gyda Iesu.
Yn y carchar, pam daeth un wraig i’r casgliad mai dim ond Duw all greu byd cyfiawn?
“Sut Cefais yr Ateb i Anghyfiawnder” (Deffrwch!, Tachwedd 2011)
-
-
Mae Teyrnas Dduw Yn Teyrnasu Nawr!Mwynhewch Fywyd am Byth!—Cwrs Rhyngweithiol am y Beibl
-
-
GWERS 32
Mae Teyrnas Dduw Yn Teyrnasu Nawr!
Dechreuodd Teyrnas Dduw lywodraethu yn y nefoedd ym 1914. Dyna pryd y dechreuodd cyfnod olaf llywodraethau dynol. Sut rydyn ni’n gwybod hynny? Ystyriwch broffwydoliaethau yn y Beibl yn ogystal â chyflwr y byd ers 1914.
1. Beth mae’r Beibl wedi ei ragfynegi?
Mae llyfr Daniel yn y Beibl yn dangos y byddai Teyrnas Dduw yn dechrau llywodraethu ar ddiwedd adeg a elwir yn “saith cyfnod.” (Daniel 4:16, 17, BCND) Ganrifoedd yn ddiweddarach, cyfeiriodd Iesu at yr un cyfnod fel “amseroedd penodedig y cenhedloedd.” Dangosodd nad oedd y cyfnod hwnnw wedi dod i ben bryd hynny. (Luc 21:24) Fel y gwelwn ni, daeth y saith cyfnod i ben yn y flwyddyn 1914.
2. Beth sydd wedi digwydd yn y byd ers 1914, a sut mae pobl yn ymddwyn?
Gofynnodd disgyblion Iesu iddo: “Beth fydd yr arwydd o dy bresenoldeb ac o gyfnod olaf y system hon?” (Mathew 24:3) Atebodd Iesu drwy sôn am y pethau a fyddai’n digwydd ar ôl iddo ddechrau llywodraethu yn y nefoedd fel Brenin ar Deyrnas Dduw. Ymhlith y pethau hynny yw rhyfeloedd, newyn, a daeargrynfeydd. (Darllenwch Mathew 24:7.) Rhagfynegodd y Beibl hefyd y byddai ymddygiad pobl yn ystod y “dyddiau olaf” yn gwneud bywyd yn “hynod o anodd.” (2 Timotheus 3:1-5) Yn wir, mae cyflwr y byd ac ymddygiad pobl wedi gwaethygu ers 1914.
3. Pam mae cyflwr y byd wedi gwaethygu ers i Deyrnas Dduw ddechrau teyrnasu?
Yn fuan ar ôl i Iesu ddod yn Frenin ar Deyrnas Dduw, aeth i ryfel yn erbyn Satan a’i gythreuliaid yn y nefoedd. Collodd Satan y rhyfel hwnnw. Mae’r Beibl yn dweud am Satan: “Fe gafodd ei hyrddio i lawr i’r ddaear,” a’i angylion gydag ef. (Datguddiad 12:9, 10, 12) Mae Satan yn gandryll oherwydd y mae’n gwybod y bydd yn cael ei ddinistrio. Felly mae’n gwneud i bobl ddioddef ledled y byd. Nid oes rhyfedd bod cyflwr y byd mor ddrwg. Bydd Teyrnas Dduw yn datrys yr holl broblemau hynny.
CLODDIO’N DDYFNACH
Ystyriwch sut rydyn ni’n gwybod bod Teyrnas Dduw wedi dechrau rheoli ym 1914, a beth mae hyn yn ei olygu i ni.
4. Mae cronoleg y Beibl yn dangos bod 1914 yn flwyddyn arwyddocaol
Rhoddodd Duw freuddwyd i’r Brenin Nebwchadnesar i ddangos beth fyddai’n digwydd yn y dyfodol. Roedd y freuddwyd, a’r dehongliad a roddodd Daniel, yn berthnasol i frenhiniaeth Nebwchadnesar, ond roedd yn berthnasol hefyd i Deyrnas Dduw.—Darllenwch Daniel 4:17.a
Darllenwch Daniel 4:20-26, BCND, ac yna defnyddiwch y siart i ateb y cwestiynau sy’n dilyn:
(A) Beth welodd Nebwchadnesar yn ei freuddwyd?—Gweler adnodau 20 a 21.
(B) Beth fyddai’n digwydd i’r goeden?—Gweler adnod 23.
(C) Beth fyddai’n digwydd ar ddiwedd y “saith cyfnod”?—Gweler adnod 26.
Sut Mae’r Freuddwyd am y Goeden yn Berthnasol i Deyrnas Dduw?
Y BROFFWYDOLIAETH (Daniel 4:20-36, BCND)
Brenhiniaeth
(A) Coeden enfawr
Atal y frenhiniaeth
(B) “Torrwch y goeden” i lawr, a gadael i “saith cyfnod” fynd heibio
Adfer y frenhiniaeth
(C) “Bydd dy frenhiniaeth yn sefydlog” unwaith eto
Cyflawniad cyntaf y broffwydoliaeth:
(Ch) Pwy oedd y goeden yn ei gynrychioli?—Gweler adnod 22.
(D) Sut daeth ei frenhiniaeth i ben?—Darllenwch Daniel 4:29-33, BCND.
(Dd) Beth ddigwyddodd i Nebwchadnesar ar ôl y “saith cyfnod”?—Darllenwch Daniel 4:34-36, BCND.
Y CYFLAWNIAD CYNTAF
Brenhiniaeth
(Ch) Nebwchadnesar, Brenin Babilon
Atal y frenhiniaeth
(D) Ar ôl 606 COG, Nebwchadnesar yn mynd yn wallgof ac yn methu teyrnasu am saith o flynyddoedd
Adfer y frenhiniaeth
(Dd) Nebwchadnesar yn gwella ac yn cael ei frenhiniaeth yn ôl
Ail gyflawniad y broffwydoliaeth:
(E) Pwy oedd y goeden yn ei gynrychioli?—Darllenwch 1 Cronicl 29:23.
(F) Pryd daeth eu brenhiniaeth i ben? Sut rydyn ni’n gwybod nad oedd eu brenhiniaeth wedi ei hadfer pan oedd Iesu ar y ddaear?—Darllenwch Luc 21:24.
(Ff) Pryd a lle cafodd y frenhiniaeth hon ei hadfer?
YR AIL GYFLAWNIAD
Brenhiniaeth
(E) Brenhinoedd Israel a oedd yn cynrychioli Teyrnas Dduw
Atal y frenhiniaeth
(F) Jerwsalem yn cael ei dinistrio, gan dorri ar draws llinach brenhinoedd Israel am 2,520 o flynyddoedd
Adfer y frenhiniaeth
(Ff) Iesu yn dechrau teyrnasu yn y nefoedd fel Brenin ar Deyrnas Dduw
Pa mor hir yw’r saith cyfnod?
Mae rhai rhannau o’r Beibl yn ein helpu ni i ddeall rhannau eraill. Er enghraifft, mae llyfr Datguddiad yn dweud bod tri amser a hanner yn cyfateb i 1,260 o ddyddiau. (Datguddiad 12:6, 14) Felly, byddai saith cyfnod yn ddwywaith hynny, sef 2,520 o ddyddiau. Weithiau yn y Beibl, bydd diwrnod yn cynrychioli blwyddyn. (Eseciel 4:6) Mae hyn yn wir am y saith cyfnod yn llyfr Daniel—maen nhw’n cynrychioli 2,520 o flynyddoedd.
5. Mae’r byd wedi newid ers 1914
Rhagfynegodd Iesu beth fyddai cyflwr y byd ar ôl iddo ddod yn Frenin. Darllenwch Luc 21:9-11, ac yna trafodwch y cwestiwn hwn:
Ydych chi wedi clywed am neu wedi gweld rhai o’r pethau hyn yn digwydd?
Disgrifiodd yr apostol Paul sut byddai pobl yn ymddwyn yn ystod dyddiau olaf llywodraethau dynol. Darllenwch 2 Timotheus 3:1-5, ac yna trafodwch y cwestiwn hwn:
Ydych chi wedi gweld pobl yn ymddwyn fel hyn?
6. Mae gwybod am Deyrnas Dduw yn gofyn inni weithredu
Darllenwch Mathew 24:3, 14, ac yna trafodwch y cwestiynau hyn:
Pa waith pwysig sy’n dangos bod Teyrnas Dduw yn llywodraethu heddiw?
Sut gallwch chi gael rhan yn y gwaith hwn?
Mae Teyrnas Dduw yn rheoli nawr ac yn fuan iawn bydd yn rheoli’r ddaear gyfan. Darllenwch Hebreaid 10:24, 25, ac yna trafodwch y cwestiwn hwn:
Beth dylai pob un ohonon ni ei wneud wrth weld “y dydd yn dod yn agos”?
Petasech chi’n dysgu rhywbeth a allai helpu pobl ac achub bywydau, beth fyddech chi’n ei wneud?
BYDD RHAI YN GOFYN: “Pam mae Tystion Jehofa yn rhoi cymaint o bwys ar y flwyddyn 1914?”
Sut byddech chi’n ateb?
CRYNODEB
Mae cronoleg, proffwydoliaethau’r Beibl, a chyflwr y byd yn profi bod Teyrnas Dduw yn llywodraethu nawr. Rydyn ni’n dangos ein bod ni’n credu hyn drwy bregethu a mynd i’r cyfarfodydd.
Adolygu
Beth ddigwyddodd ar ddiwedd y saith cyfnod yn llyfr Daniel?
Pam rydych chi’n sicr bod Teyrnas Dduw wedi dechrau teyrnasu ym 1914?
Sut gallwch chi ddangos eich bod chi’n credu bod y Deyrnas yn teyrnasu nawr?
DARGANFOD MWY
Ystyriwch beth mae haneswyr ac eraill yn dweud am sut mae’r byd wedi newid ers 1914.
“Pryd Gwnaeth Moesau Ddechrau Dirywio’n Sydyn?” (Deffrwch!, Ebrill 2007)
Dysgwch sut cafodd y broffwydoliaeth ym Mathew 24:14 effaith fawr ar fywyd un dyn.
“O’n i’n Caru Pêl-fas yn Fwy na Dim Byd Arall!” (Erthygl o’r Tŵr Gwylio)
Sut rydyn ni’n gwybod bod y broffwydoliaeth yn Daniel pennod 4 yn cyfeirio at Deyrnas Dduw?
“Pryd Dechreuodd Teyrnas Dduw Reoli? (Rhan 1)” (Y Tŵr Gwylio, Hydref 1, 2014)
Beth sy’n dangos bod y “saith cyfnod” yn Daniel pennod 4 wedi dod i ben ym 1914?
“Pryd Dechreuodd Teyrnas Dduw Reoli? (Rhan 2)” (Y Tŵr Gwylio , Tachwedd 1, 2014)
a Gweler y ddwy erthygl olaf yn y rhan Darganfod Mwy yn y wers hon.
-
-
Beth Fydd y Deyrnas yn ei Gyflawni?Mwynhewch Fywyd am Byth!—Cwrs Rhyngweithiol am y Beibl
-
-
GWERS 33
Beth Fydd y Deyrnas yn ei Gyflawni?
Mae Teyrnas Dduw eisoes yn rheoli. Yn fuan iawn, fe fydd yn gwneud newidiadau mawr ar y ddaear. Dewch inni ystyried rhai o’r pethau da gallwch chi edrych ymlaen atyn nhw o dan y Deyrnas.
1. Sut bydd Teyrnas Dduw yn dod â heddwch a chyfiawnder i’r ddaear?
Bydd Iesu, Brenin Teyrnas Dduw, yn dinistrio pobl ddrwg a’u llywodraethau yn rhyfel Armagedon. (Datguddiad 16:14, 16) Dyma pryd caiff yr addewid canlynol yn y Beibl ei gyflawni’n llwyr: “Fydd y rhai drwg ddim i’w gweld yn unman mewn ychydig.” (Salm 37:10) Bydd Iesu’n defnyddio’r Deyrnas i sicrhau bod heddwch a chyfiawnder yn llenwi’r ddaear.—Darllenwch Eseia 11:4.
2. Sut bydd bywyd ar y ddaear pan gaiff ewyllys Duw ei wneud?
O dan Deyrnas Dduw, “bydd y rhai sy’n byw yn iawn yn meddiannu’r tir, ac yn aros yno am byth.” (Salm 37:29) Dychmygwch sut brofiad bydd byw mewn byd lle mae pawb yn gyfiawn a phob un yn caru Jehofa a phobl eraill! Ni fydd neb yn mynd yn sâl a bydd pawb yn byw am byth.
3. Beth fydd Teyrnas Dduw yn ei wneud ar ôl i’r bobl ddrwg gael eu dinistrio?
Ar ôl i’r bobl ddrwg gael eu dinistrio, bydd Iesu yn teyrnasu am fil o flynyddoedd. Yn ystod y cyfnod hwnnw, bydd Iesu a’r 144,000 sy’n rheoli gydag ef yn helpu pobl ar y ddaear i ddod yn berffaith. Erbyn diwedd y cyfnod hwnnw, bydd y ddaear yn baradwys, yn llawn pobl hapus sy’n ufudd i Jehofa. Yna, bydd Iesu yn rhoi’r Deyrnas yn ôl i’w Dad, Jehofa. Bydd enw Jehofa yn cael ei sancteiddio yn fwy nag erioed o’r blaen. (Mathew 6:9, 10) Bydd pawb yn gwybod bod Jehofa yn rheolwr da sy’n gofalu am ei bobl. Yna, bydd Jehofa yn dinistrio Satan, y cythreuliaid, ac unrhyw un arall sy’n gwrthryfela yn Ei erbyn. (Datguddiad 20:7-10) Bydd bywyd perffaith o dan Deyrnas Dduw yn para am byth.
CLODDIO’N DDYFNACH
Ystyriwch pam gallwn gredu y bydd Duw yn defnyddio’r Deyrnas i gyflawni ei holl addewidion ar gyfer y dyfodol.
4. Bydd Teyrnas Dduw yn rhoi terfyn ar lywodraethau dynol
“Mae gan rai pobl awdurdod dros eraill i wneud niwed iddyn nhw.” (Pregethwr 8:9) Bydd Jehofa yn defnyddio ei Deyrnas i newid y sefyllfa hon.
Darllenwch Daniel 2:44 ac 2 Thesaloniaid 1:6-8, ac yna trafodwch y cwestiynau hyn:
Beth fydd Jehofa a’i fab, Iesu, yn ei wneud am lywodraethau dynol a’r rhai sy’n eu cefnogi?
Wrth ichi ddod i adnabod Jehofa ac Iesu, pam rydych chi’n sicr y byddan nhw’n gweithredu’n gyfiawn?
5. Iesu yw’r Brenin gorau posib
Fel Brenin ar Deyrnas Dduw, bydd Iesu yn gwneud llawer er lles ei bobl ar y ddaear. Gwyliwch y FIDEO i weld sut mae Iesu eisoes wedi dangos bod ganddo’r awydd, a’r gallu i helpu pobl.
Roedd y pethau a wnaeth Iesu ar y ddaear yn enghreifftiau o’r hyn fydd yn digwydd o dan y Deyrnas. Pa fendithion yn y rhestr ganlynol hoffech chi eu gweld? Darllenwch yr adnodau yn y rhestr sy’n disgrifio’r bendithion hynny.
AR Y DDAEAR, ROEDD IESU YN . . .
O’R NEF, BYDD IESU YN . . .
rheoli’r tywydd.—Marc 4:36-41.
datrys problemau amgylcheddol y ddaear.—Eseia 35:1, 2.
bwydo miloedd.—Mathew 14:17-21.
cael gwared ar newyn.—Salm 72:16.
iacháu pobl o’u salwch.—Luc 18:35-43.
sicrhau bod iechyd perffaith gan bawb.—Eseia 33:24.
atgyfodi’r meirw.—Luc 8:49-55.
dileu marwolaeth a galar.—Datguddiad 21:3, 4.
6. O dan y Deyrnas, bydd y dyfodol yn wych
Bydd y Deyrnas yn cyflawni pwrpas gwreiddiol Duw ar gyfer bodau dynol. Byddan nhw’n byw am byth mewn paradwys ar y ddaear. Gwyliwch y FIDEO i weld sut mae Jehofa yn defnyddio ei fab, Iesu, i gyflawni ei bwrpas.
Darllenwch Salm 37:4, ac yna trafodwch y cwestiwn hwn:
Sut rydych chi’n teimlo o wybod y bydd Jehofa yn rhoi i bob un ddymuniad ei galon?
BYDD RHAI YN DWEUD: “Os bydd pawb yn cydweithio, gallwn ddatrys problemau’r byd.”
Pa broblemau y bydd Teyrnas Dduw yn eu datrys sy’n rhy anodd i lywodraethau dynol?
CRYNODEB
Bydd Teyrnas Dduw yn troi’r ddaear yn baradwys llawn pobl dda a fydd yn addoli Jehofa am byth.
Adolygu
Sut bydd Teyrnas Dduw yn sancteiddio enw Jehofa?
Pam gallwn gredu y bydd Teyrnas Dduw yn gwireddu pob addewid yn y Beibl?
O’r holl bethau y bydd y Deyrnas yn eu gwneud, pa un rydych chi’n edrych ymlaen ato fwyaf?
DARGANFOD MWY
Dysgwch beth yw Armagedon.
Ystyriwch beth fydd yn digwydd yn ystod yr adeg gwnaeth Iesu ei galw y ʼtrychineb mawr.ʼ—Mathew 24:21.
Gwelwch sut gall teuluoedd fyfyrio ar y bendithion a ddaw o dan y Deyrnas.
Yn yr hanes “Roedd Gen i Lawer o Gwestiynau Oedd yn fy Mhoeni,” dysgwch sut daeth gwrthryfelwr gwleidyddol o hyd i atebion.
“Mae’r Beibl yn Newid Bywydau” (Y Tŵr Gwylio, Ionawr 1, 2012)
-