LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • lff gwers 45
  • Beth Yw Ystyr Aros yn Niwtral?

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Beth Yw Ystyr Aros yn Niwtral?
  • Mwynhewch Fywyd am Byth!—Cwrs Rhyngweithiol am y Beibl
  • Isbenawdau
  • Erthyglau Tebyg
  • CLODDIO’N DDYFNACH
  • CRYNODEB
  • DARGANFOD MWY
  • Aros yn Niwtral Mewn Byd Rhanedig
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2016
  • Pam Mae Tystion Jehofa yn Niwtral o Ran Gwleidyddiaeth?
    Cwestiynau Cyffredin am Dystion Jehofa
  • Pam Bod Niwtraliaeth Mor Bwysig? (Mich 4:2)
    Ein Bywyd a’n Gweinidogaeth Gristnogol—Gweithlyfr y Cyfarfodydd—2018
  • Sut i Adnabod Gwir Gristnogion
    Mwynhewch Fywyd am Byth!—Cwrs Rhyngweithiol am y Beibl
Gweld Mwy
Mwynhewch Fywyd am Byth!—Cwrs Rhyngweithiol am y Beibl
lff gwers 45
Gwers 45. Chwaer ifanc yn sefyll yn barchus wrth i fyfyrwyr eraill addo eu teyrngarwch i’r wlad.

GWERS 45

Beth Yw Ystyr Aros yn Niwtral?

Fersiwn Printiedig
Fersiwn Printiedig
Fersiwn Printiedig

Dysgodd Iesu na ddylai ei ddilynwyr fod “yn rhan o’r byd.” (Ioan 15:19) Mae hyn yn cynnwys bod yn niwtral, sef peidio ag ochri yng ngwleidyddiaeth a rhyfeloedd y byd. Ond nid yw hynny wastad yn hawdd. Efallai bydd eraill yn gwneud hwyl ar ein pennau oherwydd ein safiad. Felly, sut gallwn ni aros yn niwtral a chadw’n ffyddlon i Jehofa Dduw?

1. Sut mae Cristnogion yn teimlo am lywodraethau dynol?

Mae Cristnogion yn parchu’r llywodraeth. Rydyn ni’n ufuddhau i orchymyn Iesu: “Talwch bethau Cesar yn ôl i Gesar.” (Marc 12:17) Felly rydyn ni’n ufuddhau i gyfreithiau’r wlad, gan gynnwys talu trethi. Mae’r Beibl yn dysgu mai Jehofa sy’n rhoi awdurdod i lywodraethau dynol ac wedi eu gosod yn eu safleoedd. (Rhufeiniaid 13:1) Felly rydyn ni’n cydnabod bod gan y llywodraethau hyn lai o awdurdod na Duw. Rydyn ni’n edrych at Dduw a’i Deyrnas nefol i ddatrys problemau’r ddynoliaeth.

2. Sut gallwn ni ddangos ein bod ni’n niwtral?

Fel Iesu, dydyn ni ddim yn cymryd rhan mewn gwleidyddiaeth. Ar ôl i bobl weld un o wyrthiau Iesu, gwnaethon nhw geisio ei wneud yn frenin, ond nid oedd yn fodlon iddyn nhw wneud hynny. (Ioan 6:15) Pam? Oherwydd, fel dywedodd yn nes ymlaen, “dydy fy Nheyrnas i ddim yn rhan o’r byd hwn.” (Ioan 18:36) A ninnau’n ddisgyblion i Iesu, gallwn ddangos ein bod ni’n niwtral mewn nifer o ffyrdd. Er enghraifft, dydyn ni ddim yn mynd i ryfel. (Darllenwch Micha 4:3.) Er ein bod ni’n dangos parch at symbolau cenedlaethol, fel baneri, dydyn ni ddim yn eu haddoli nhw. (1 Ioan 5:21) Dydyn ni ddim ychwaith yn ochri ag unrhyw blaid wleidyddol. Rydyn ni’n dangos ein bod ni’n ffyddlon i Deyrnas Dduw yn hyn o beth.

CLODDIO’N DDYFNACH

Ystyriwch sefyllfaoedd a all roi prawf ar ein niwtraliaeth, a gweld sut gallwch chi wneud penderfyniadau a fydd yn plesio Jehofa.

Dyn yn aros yn niwtral. Nid yw’n talu sylw i’r gwleidyddion sy’n siarad â’r dorf.

3. Mae gwir Gristnogion yn aros yn niwtral

Mae Iesu a’i ddilynwyr wedi gosod esiampl inni. Darllenwch Rhufeiniaid 13:1, 5-7 a 1 Pedr 2:13, 14. Yna, gwyliwch y FIDEO a thrafodwch y cwestiynau canlynol:

FIDEO: Mae Gwir Gristnogion yn Aros yn Niwtral—Rhan 1 (4:28)

  • Pam dylen ni barchu llywodraethau dynol?

  • Ym mha ffyrdd gallwn ni ddangos ein bod ni’n ufuddhau iddyn nhw?

Yn ystod rhyfel, mae rhai cenedlaethau yn honni eu bod nhw’n niwtral, ond yn cefnogi’r ddwy ochr. Beth yw gwir ystyr niwtraliaeth? Darllenwch Ioan 17:16. Yna, gwyliwch y FIDEO a thrafodwch y cwestiwn canlynol:

FIDEO: Mae Gwir Gristnogion yn Aros yn Niwtral—Rhan 2 (3:11)

  • Beth yw ystyr aros yn niwtral?

Ond beth petai’r llywodraeth yn gofyn ichi wneud rhywbeth sy’n mynd yn erbyn cyfraith Duw? Darllenwch Actau 5:28, 29. Yna, gwyliwch y FIDEO a thrafodwch y cwestiynau canlynol:

FIDEO: Mae Gwir Gristnogion yn Aros yn Niwtral—Rhan 3 (1:18)

  • Os nad yw cyfraith ddynol a chyfraith Duw yn gytûn, pa gyfraith y dylen ni ufuddhau iddi?

  • A allwch chi feddwl am sefyllfaoedd lle na fydd Cristnogion yn ufuddhau i lywodraethau dynol?

4. Cadw eich meddyliau a’ch ymddygiad yn niwtral

Darllenwch 1 Ioan 5:21. Yna, gwyliwch y FIDEO a thrafodwch y cwestiynau canlynol:

FIDEO: Mae Angen i Wir Gristnogion Fod yn Ddewr—i Aros yn Niwtral (2:49)

  • Yn y fideo, pam gwnaeth Ayenge benderfynu peidio ag ymuno â phlaid wleidyddol na chymryd rhan mewn seremonïau cenedlaetholgar, fel saliwtio’r faner?

  • Ydych chi’n meddwl bod hynny’n benderfyniad call?

Pa sefyllfaoedd eraill all roi prawf ar ein niwtraliaeth? Gwyliwch y FIDEO, ac yna trafodwch y cwestiynau canlynol:

FIDEO: Gwersi o’r Tŵr Gwylio—Aros yn Niwtral Mewn Byd Rhanedig (5:16)

  • Sut gallwn ni aros yn niwtral yn ystod chwaraeon rhyngwladol?

  • Sut gallwn ni aros yn niwtral hyd yn oed pan fydd penderfyniad gwleidydd yn effeithio arnon ni’n bersonol?

  • Sut gall y cyfryngau ac agwedd pobl o’n cwmpas effeithio ar ein niwtraliaeth?

Collage: 1. Grŵp o bobl yn protestio. 2. Dyn yn bloeddio ac yn dal baner. 3. Myfyriwr yn addo ei deyrngarwch i’w wlad. 4. Milwr yn dal gwn. 5. Dau wleidydd yn dadlau. 6. Dynes yn pleidleisio.

Ym mha ffyrdd dylai Cristnogion aros yn niwtral yn eu meddyliau a’u hymddygiad?

BYDD RHAI YN GOFYN: “Pam dydych chi ddim yn saliwtio’r faner na chanu’r anthem genedlaethol?”

  • Sut byddech chi’n ateb?

CRYNODEB

Mae Cristnogion yn gwneud eu gorau glas i fod yn niwtral yn y ffordd maen nhw’n meddwl, yn siarad, ac yn ymddwyn.

Adolygu

  • Sut dylen ni drin llywodraethau dynol?

  • Pam rydyn ni’n aros yn niwtral?

  • Pa sefyllfaoedd a all roi prawf ar ein niwtraliaeth?

Nod

DARGANFOD MWY

Pa aberthau efallai bydd yn rhaid inni eu gwneud er mwyn aros yn niwtral?

Dydy Jehofa Erioed Wedi Ein Siomi (3:14)

Sut gall teuluoedd baratoi ar gyfer sefyllfaoedd a all roi prawf ar eu niwtraliaeth?

Aros yn Niwtral yn Ystod Digwyddiadau Cyhoeddus (4:25)

Pam nad amddiffyn ei wlad yw’r fraint orau y gall rhywun ei chael?

“Gyda Duw y Mae Pob Peth yn Bosibl” (5:19)

Ystyriwch sut y gallwch aros ar wahân i’r byd wrth benderfynu ynglŷn â’ch gwaith.

“Bydd Pob Un yn Cario Ei Lwyth Ei Hun” (Y Tŵr Gwylio, Mawrth 15, 2006)

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu