GWERS 47
Ydych Chi’n Barod i Gael Eich Bedyddio?
Wrth ichi astudio’r Beibl, rydych chi wedi dysgu llawer am Jehofa. Mae’n debyg eich bod chi wedi gwneud newidiadau er mwyn rhoi beth rydych chi wedi ei ddysgu ar waith. Ond eto, efallai bod rhywbeth yn eich dal chi’n ôl rhag ymgysegru i Jehofa a chael eich bedyddio. Bydd y wers hon yn trafod rhai o’r pethau sy’n dal pobl yn ôl a sut gallwch chi ddod drostyn nhw.
1. Faint o wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi er mwyn cael eich bedyddio?
Er mwyn cael eich bedyddio, mae angen “cael gwybodaeth gywir am y gwir.” (1 Timotheus 2:4) Nid yw hyn yn golygu eich bod chi’n gorfod gwybod yr ateb i bob un cwestiwn am y Beibl. Mae hyd yn oed Cristnogion sydd wedi eu bedyddio ers blynyddoedd yn dal i ddysgu. (Colosiaid 1:9, 10) Ond mae’n bwysig eich bod chi’n deall gwirioneddau sylfaenol y Beibl. Bydd yr henuriaid yn eich helpu chi i wybod a oes gynnoch chi ddigon o wybodaeth.
2. Pa gamau sy’n rhaid ichi eu cymryd cyn cael eich bedyddio?
Cyn ichi gael eich bedyddio, mae’n rhaid ichi ‘edifarhau . . . a throi yn ôl.’ (Darllenwch Actau 3:19.) Mae hyn yn golygu eich bod chi’n edifarhau am bechodau y gorffennol ac yn gofyn i Jehofa am faddeuant. Rydych chi’n troi cefn ar ymddygiad drwg ac yn penderfynu byw mewn ffordd sy’n plesio Duw. Ar ben hynny, rydych chi’n dechrau mynychu’r cyfarfodydd a phregethu fel cyhoeddwr difedydd.
3. Pam na ddylech chi adael i bryder eich dal chi’n ôl?
Mae rhai yn poeni na fyddan nhw’n gallu cadw eu haddewid i Jehofa. Wrth gwrs, fel y dynion a merched y mae sôn amdanyn nhw yn y Beibl, rydyn ni i gyd yn gwneud camgymeriadau ar adegau. Ond, nid yw Jehofa yn disgwyl i’w weision fod yn berffaith. (Darllenwch Salm 103:13, 14.) Mae Jehofa yn hapus o’n gweld ni’n gwneud ein gorau, ac y bydd yn ein helpu ni! Mae’n addo na fydd “dim byd o gwbl yn gallu ein gwahanu ni oddi wrth [ei] gariad.”—Darllenwch Rhufeiniaid 8:38, 39.
CLODDIO’N DDYFNACH
Gwelwch sut gall dod i adnabod Jehofa’n well a dibynnu arno eich helpu chi i ddod dros unrhyw heriau ar y ffordd i fedydd.
4. Dod i adnabod Jehofa yn well
Pa mor dda rydych chi angen adnabod Jehofa cyn ichi gael eich bedyddio? Mae’n bwysig eich bod chi’n ei adnabod yn ddigon da fel eich bod yn gallu ei garu a’i blesio. Gwyliwch y FIDEO i weld sut mae myfyrwyr y Beibl ar draws y byd wedi gwneud hynny. Yna, trafodwch y cwestiwn sy’n dilyn.
Yn y fideo, beth helpodd rai unigolion i baratoi ar gyfer bedydd?
Darllenwch Rhufeiniaid 12:2, ac yna trafodwch y cwestiynau hyn:
Oes gynnoch chi unrhyw amheuon am beth mae’r Beibl yn ei ddysgu, neu’n amau a yw Tystion Jehofa yn dysgu’r gwir?
Os felly, beth gallwch chi ei wneud?
5. Dod dros heriau a all godi
Ar ôl inni benderfynu ymgysegru i Jehofa a chael ein bedyddio, rydyn ni i gyd yn wynebu anawsterau. I weld enghraifft, gwyliwch y FIDEO, ac yna trafodwch y cwestiynau sy’n dilyn.
Yn y fideo, pa heriau roedd yn rhaid i Narangerel ddod drostyn nhw er mwyn gwasanaethu Jehofa?
Sut gwnaeth ei chariad tuag at Jehofa ei helpu hi i drechu’r heriau hynny?
Darllenwch Diarhebion 29:25 ac 2 Timotheus 1:7, ac yna trafodwch y cwestiwn hwn:
Beth sy’n rhoi inni’r nerth i ddod dros ein heriau?
6. Dibynnu ar help Jehofa
Bydd Jehofa yn eich helpu chi i’w blesio. Gwyliwch y FIDEO, ac yna trafodwch y cwestiynau sy’n dilyn.
Yn y fideo, pam roedd myfyriwr y Beibl yn dal yn ôl rhag cael ei fedyddio?
Sut gwnaeth ef ddysgu dibynnu ar Jehofa?
Darllenwch Eseia 41:10, 13, ac yna trafodwch y cwestiwn hwn:
Pam gallwch chi fod yn hyderus y byddwch yn gallu cadw at eich ymgysegriad?
7. Bod yn ddiolchgar am gariad Jehofa
Bydd meddwl am gariad Jehofa yn eich gwneud chi’n fwy diolchgar ac yn eich ysgogi i’w wasanaethu am byth. Darllenwch Salm 40:5, ac yna trafodwch y cwestiwn hwn:
Pa fendithion gan Jehofa rydych chi’n eu gwerthfawrogi?
Roedd y proffwyd Jeremeia yn caru Jehofa a’i Air, ac yn gwerthfawrogi’r fraint o gynrychioli Ei enw. Dywedodd: “Roedd dy eiriau yn fy ngwneud i mor hapus—rôn i wrth fy modd! I ti dw i’n perthyn O ARGLWYDD, y Duw holl-bwerus.” (Jeremeia 15:16) Atebwch y cwestiynau hyn:
Pam mae bod yn un o Dystion Jehofa yn fraint arbennig?
Ydych chi’n dymuno cael eich bedyddio’n un o Dystion Jehofa?
A oes rhywbeth yn eich rhwystro chi?
Beth sy’n rhaid i chi ei wneud er mwyn cael eich bedyddio?
BYDD RHAI YN DWEUD: “Dw i’n teimlo bod cael fy medyddio yn ormod o gyfrifoldeb.”
Ai dyna sut rydych chi’n teimlo?
CRYNODEB
Gyda help Jehofa, gallwch chi ddod dros unrhyw her ar y ffordd i fedydd.
Adolygu
Faint o wybodaeth am y Beibl rydych chi ei hangen er mwyn cael eich bedyddio?
Pa newidiadau efallai bydd yn rhaid i chi eu gwneud er mwyn cael eich bedyddio?
Pam na ddylech chi adael i bryder eich dal chi’n ôl?
DARGANFOD MWY
Ystyriwch beth a ddylai fod yn sail i’ch penderfyniad i gael eich bedyddio.
“A Wyt Ti’n Barod i Gael Dy Fedyddio?” (Y Tŵr Gwylio, Mawrth 2020)
Dysgwch sut i ddod dros heriau a all eich dal chi’n ôl.
“Beth Sy’n Fy Stopio i Rhag Cael Fy Medyddio?” (Y Tŵr Gwylio, Mawrth 2019)
Gwelwch sut daeth un dyn dros heriau mawr er mwyn cael ei fedyddio.
Ar y dechrau, roedd dyn o’r enw Ataa yn oedi cyn cael ei fedyddio. Beth a’i helpodd i gymryd y cam pwysig hwn?