GWERS 36
Bod yn Onest ym Mhob Peth
Mae pawb eisiau ffrindiau sy’n onest. Mae Jehofa yn disgwyl i’w ffrindiau ef fod yn onest hefyd. Ond nid hawdd yw bod yn onest mewn byd lle mae llawer o bobl yn anonest. Pa fendithion sy’n dod o fod yn onest ym mhob peth?
1. Beth yw’r rheswm pwysicaf dros fod yn onest?
Drwy fod yn onest, rydyn ni’n dangos i Jehofa ein bod ni yn ei garu ac yn ei barchu. Ystyriwch: Mae Jehofa yn gwybod beth rydyn ni’n ei feddwl ac yn gweld beth rydyn ni’n ei wneud. (Hebreaid 4:13) Pan ddewiswn ni fod yn onest, mae Jehofa yn sylwi ac y mae’n hapus. Mae ei Air yn dweud: “Mae’n gas gan yr ARGLWYDD bobl sy’n twyllo, ond mae ganddo berthynas glòs gyda’r rhai sy’n onest.”—Diarhebion 3:32.
2. Beth yw rhai ffyrdd y gallwn fod yn onest yn ein bywyd bob dydd?
Mae Jehofa yn gorchymyn: “Dwedwch y gwir wrth eich gilydd.” (Sechareia 8:16, 17) Beth mae hynny’n ei olygu? P’un a ydyn ni’n siarad ag aelodau’r teulu, cyd-weithwyr, cyd-Gristnogion, neu swyddogion llywodraeth, fyddwn ni ddim yn dweud celwyddau neu’n camarwain eraill. Fydd pobl onest ddim yn dwyn nac yn twyllo. (Darllenwch Diarhebion 24:28 ac Effesiaid 4:28.) Ac maen nhw’n talu pob treth sy’n ddyledus. (Rhufeiniaid 13:5-7) Dyna sut byddwn ni’n “ymddwyn yn onest ym mhob peth.”—Hebreaid 13:18.
3. Pa fendithion sy’n dod o fod yn onest?
Os oes enw da gynnon ni am fod yn onest, bydd eraill yn ymddiried ynon ni. Byddwn ni’n cyfrannu i’r awyrgylch deuluol a chynnes yn y gynulleidfa. Bydd ein cydwybod yn lân. Drwy fod yn onest, byddwn “yn gallu dangos harddwch dysgeidiaeth ein Hachubwr, Duw,” a denu pobl eraill at Jehofa.—Titus 2:10.
CLODDIO’N DDYFNACH
Gwelwch sut mae gonestrwydd yn effeithio ar Jehofa ac arnoch chi, a sut gallwch chi fod yn onest mewn gwahanol sefyllfaoedd.
4. Mae gonestrwydd yn plesio Jehofa
Darllenwch Salm 44:21 a Malachi 3:16, ac yna trafodwch y cwestiynau hyn:
Pam byddech chi’n dweud mai ffolineb fyddai credu y gallwn ni gelu’r gwir?
Sut rydych chi’n meddwl mae Jehofa yn teimlo pan ddewiswn ni ddweud y gwir, hyd yn oed pan fydd hynny’n anodd?
Pan fydd plant yn dweud y gwir, byddan nhw’n gwneud eu rhieni yn hapus. Pan fyddwn ni’n dweud y gwir, byddwn ni’n gwneud Jehofa yn hapus
5. Byddwch yn onest bob amser
Mae llawer o bobl yn meddwl nad ydy gonestrwydd bob amser yn ymarferol. Ond ystyriwch pam dylen ni fod yn onest bob amser. Gwyliwch y FIDEO.
Darllenwch Hebreaid 13:18, ac yna trafodwch sut gallwn ni fod yn onest . . .
yn y teulu.
yn y gwaith neu yn yr ysgol.
mewn sefyllfaoedd eraill.
6. Mae bod yn onest yn ein helpu ni
Gall fod yn onest greu problemau inni weithiau. Ond yn y tymor hir, dyna sydd orau. Darllenwch Salm 34:12-16, ac yna trafodwch y cwestiwn hwn:
Sut mae bod yn onest yn gallu gwneud bywyd yn well?
Mae gwŷr a gwragedd gonest yn cryfhau’r briodas
Mae gweithwyr gonest yn ennyn hyder eu cyflogwyr
Mae dinasyddion gonest yn creu enw da gyda’r llywodraeth
BYDD RHAI YN DWEUD: “Dydy celwyddau bach ddim yn bwysig.”
Pam rydych chi’n credu bod Jehofa yn casáu pob celwydd?
CRYNODEB
Mae Jehofa eisiau i’w ffrindiau fod yn onest ym mhob ffordd.
Adolygu
Beth yw rhai ffyrdd inni fod yn onest?
Pam mai ffolineb fyddai credu y gallwn ni gelu’r gwir?
Pam rydych chi eisiau bod yn onest bob amser?
DARGANFOD MWY
Sut gall rhieni ddysgu eu plant i fod yn onest?
Pam mai peth da yw cadw addewidion?
Ystyriwch a ddylen ni dalu trethi hyd yn oed os yw’r arian yn cael ei gamddefnyddio.
Beth a helpodd un dyn i newid ei fywyd a gwneud gwaith gonest?
“Dysgais Fod Jehofa yn Drugarog ac yn Faddeugar” (Y Tŵr Gwylio, Mai 1, 2015)