LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • lff gwers 53
  • Dewis Adloniant Sy’n Plesio Jehofa

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Dewis Adloniant Sy’n Plesio Jehofa
  • Mwynhewch Fywyd am Byth!—Cwrs Rhyngweithiol am y Beibl
  • Isbenawdau
  • Erthyglau Tebyg
  • CLODDIO’N DDYFNACH
  • CRYNODEB
  • DARGANFOD MWY
  • Dewis Adloniant Iach
    “Cadwch Eich Hunain yng Nghariad Duw”
  • Dewisa Dy Adloniant yn Ddoeth
    Ein Bywyd a’n Gweinidogaeth Gristnogol—Gweithlyfr y Cyfarfodydd—2019
  • Addola Jehofa yn Unig
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2019
  • Ydy Dy Adloniant yn Dda iti?
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa—2011
Mwynhewch Fywyd am Byth!—Cwrs Rhyngweithiol am y Beibl
lff gwers 53
Gwers 53. Tad, mam, a merch ifanc yn bwyta popcorn ac yn gwylio teledu.

GWERS 53

Dewis Adloniant Sy’n Plesio Jehofa

Fersiwn Printiedig
Fersiwn Printiedig
Fersiwn Printiedig

Jehofa yw “y Duw hapus.” (1 Timotheus 1:​11) Mae eisiau inni fod yn hapus a mwynhau ein bywydau. Mae’n falch o’n gweld ni’n neilltuo amser o’n gwaith er mwyn ymlacio. Yn y wers hon, gwelwn sut gallwn ni fwynhau ein hamser rhydd mewn ffordd sy’n plesio Jehofa.

1. Beth dylen ni ei ystyried wrth ddewis adloniant?

Sut rydych chi’n hoffi ymlacio? Mae rhai’n hoffi ymlacio gartref, efallai yn darllen, yn gwrando ar gerddoriaeth, yn gwylio ffilm, neu’n pori’r We. Ond mae’n well gan eraill fynd allan gyda ffrindiau, cerdded, nofio, neu chwarae gemau. Beth bynnag sy’n apelio aton ni, mae angen sicrhau ein bod ni’n dewis adloniant sy’n “dderbyniol i’r Arglwydd.” (Effesiaid 5:​10) Mae hyn yn bwysig oherwydd mae cymaint o adloniant heddiw yn cynnwys trais, anfoesoldeb rhywiol, ac ysbrydegaeth, sydd i gyd yn bethau y mae Jehofa yn eu casáu. (Darllenwch Salm 11:5.) Beth fydd yn ein helpu ni i ddewis yn ddoeth?

Mae ffrindiau da sydd yn caru Jehofa yn gallu bod yn ddylanwad da arnon ni ac ar ein dewis o adloniant. Fel rydyn ni eisoes wedi dysgu, “mae cwmni pobl ddoeth yn eich gwneud chi’n ddoeth.” Ond ar y llaw arall, mae cadw cwmni pobl sydd ddim yn caru safonau Duw “yn gofyn am drwbwl.”​—Diarhebion 13:20.

2. Pam mae’n bwysig inni reoli faint o amser rydyn ni’n ei dreulio yn ymlacio?

Hyd yn oed os ydy’r adloniant rydyn ni’n ei ddewis yn addas, mae’n bwysig inni beidio â threulio gormod o amser arno. Fel arall ni fydd gynnon ni ddigon o amser i wneud y pethau pwysicach. Mae’r Beibl yn ein hannog ni i “ddefnyddio [ein hamser] yn y ffordd orau.”​​—Darllenwch Effesiaid 5:​15, 16.

CLODDIO’N DDYFNACH

Dysgu sut i ddewis adloniant da.

3. Osgoi adloniant anaddas

Pam dylen ni ddewis ein hadloniant yn ofalus? Gwyliwch y FIDEO, ac yna trafodwch y cwestiynau canlynol:

FIDEO: Pa Fath o Adloniant Dylwn i ei Ddewis? (4:​39)

  • Sut roedd y gemau yn Rhufain gynt yn debyg i rai mathau o adloniant heddiw?

  • Yn y fideo, beth ddysgodd Danny am adloniant?

Darllenwch Rhufeiniaid 12:​9, ac yna trafodwch y cwestiwn hwn:

  • Sut dylai’r adnod hon ddylanwadu ar ein dewis o adloniant?

Pa bethau mae Jehofa yn eu casáu? Darllenwch Diarhebion 6:​16, 17 a Galatiaid 5:​19-​21. Ar ôl darllen pob adnod, trafodwch y cwestiwn hwn:

  • Pa bethau yn yr adnodau hyn sydd yn gyffredin mewn adloniant heddiw?

Sut i ddewis eich adloniant yn ddoeth

Gofynnwch:

  • Beth? A yw’n cynnwys unrhyw beth y mae Jehofa yn ei gasáu?

  • Pryd? A yw’n cymryd amser o’r pethau pwysicach?

  • Pwy? A fydda i’n treulio gormod o amser gyda phobl sydd ddim yn caru Jehofa?

Gydag unrhyw beth peryglus, y peth saffach i’w wneud yw cadw draw. Dyna pam dylen ni gadw draw o unrhyw adloniant a allai fod yn beryglus inni

Car yn gyrru ar lôn gul ar ochr mynydd. Mae olwyn gefn y car wedi dechrau agosáu at fin y ffordd.

4. Defnyddio eich amser yn ddoeth

Gwyliwch y FIDEO, ac yna trafodwch y cwestiwn canlynol:

FIDEO: Beth Sy’n Llyncu Eich Amser? (2:​45)

  • Er nad oedd y brawd yn y fideo yn gwneud rhywbeth o’i le, pa effaith roedd ei amser hamdden yn ei chael arno?

Darllenwch Philipiaid 1:​10, ac yna trafodwch y cwestiwn hwn:

  • Sut gall yr adnod hon ein helpu ni i benderfynu faint o amser i’w dreulio ar adloniant?

5. Dewis adloniant sy’n fuddiol

Er nad yw pob math o adloniant yn plesio Jehofa, mae llawer o bethau y gallwn ni eu gwneud a’u mwynhau. Darllenwch Pregethwr 8:​15 a Philipiaid 4:​8, ac yna trafodwch y cwestiwn hwn:

  • Pa fath o adloniant addas rydych chi’n ei fwynhau?

Collage: Pobl o bob oedran yn mwynhau adloniant addas. 1. Merch yn gwrando ar gerddoriaeth wrth ddarlunio. 2. Dynion ifanc yn chwarae pêl-fasged. 3. Bechgyn ar eu beiciau. 4. Bachgen yn adeiladu car bach. 5. Dyn yn chwarae drwm. 6. Bachgen yn chwarae gêm fideo gyda’i dad. 7. Dynes yn tynnu llun.

Gallwch chi fwynhau adloniant addas

BYDD RHAI YN DWEUD: “Does dim byd o’i le ag adloniant sy’n cynnwys trais, anfoesoldeb, neu ysbrydegaeth, cyn belled nad ydw i’n gwneud y pethau hynny.”

  • Beth fyddech chi’n ei ddweud?

CRYNODEB

Mae Jehofa eisiau inni ddewis a mwynhau adloniant addas.

Adolygu

  • Pa fath o adloniant dylai Cristnogion ei osgoi?

  • Pam dylen ni fod yn ofalus am faint o amser rydyn ni’n ei dreulio ar adloniant?

  • Pam mae’n bwysig inni ddewis adloniant sy’n plesio Jehofa?

Nod

DARGANFOD MWY

Ystyriwch pwy sy’n gyfrifol am yr adloniant rydych chi’n ei ddewis.

“Ydy Tystion Jehofa yn Gwahardd Ffilmiau, Llyfrau, neu Ganeuon Penodol?” (Erthygl ar jw.org)

Gwelwch sut i wneud penderfyniadau da ynglŷn ag adloniant.

“Ydy Dy Adloniant yn Dda i Ti?” (Y Tŵr Gwylio, Hydref 15, 2011)

Yn yr hanes “Gwnes i Hyd yn Oed Ddod Dros Fy Rhagfarn yn Erbyn Pobl Wynion,” gwelwch pam penderfynodd un dyn newid ei adloniant.

“Mae’r Beibl yn Newid Bywydau” (Y Tŵr Gwylio, Chwefror 1, 2010)

Gwelwch sut mae un fam yn gwneud penderfyniad da ynglŷn ag adloniant sy’n rhoi sylw i straeon am ysbrydion.

Osgoi Adloniant Sy’n Cynnwys Ysbrydegaeth (2:​02)

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu