LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • w16 Medi t. 22
  • Elwa ar Arweiniad Jehofa Heddiw

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Elwa ar Arweiniad Jehofa Heddiw
  • Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2016
  • Isbenawdau
  • Erthyglau Tebyg
  • PENDERFYNIAD DOETH YNG NGWLAD PWYL
  • DIWEDDGLO HAPUS YN FFIJI
  • Dywed Dy Fod yn Eu Caru
    Profiadau Tystion Jehofa
Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2016
w16 Medi t. 22

Elwa ar Arweiniad Jehofa Heddiw

PENDERFYNIAD DOETH YNG NGWLAD PWYL

“RO’N i’n 15 mlwydd oed pan gefais fy medyddio, a chwe mis wedi hynny dechreuais arloesi’n gynorthwyol. Ar ôl blwyddyn, dechreuais arloesi’n llawn amser. Ar ôl graddio o’r ysgol uwchradd, gofynnais am aseiniad i bregethu lle’r oedd yr angen am gyhoeddwyr yn fwy. Ro’n i eisiau symud i ffwrdd oddi wrth fy nhref enedigol ac oddi wrth fy nain. Ro’n i’n byw gyda fy nain ond doedd hi ddim yn un o Dystion Jehofa. Gofynnodd arolygwr y gylchdaith imi aros a phregethu yn yr un dref y cefais fy ngeni ynddi, a gwnaeth fy nghalon suddo! Ceisiais guddio fy siomedigaeth. Yn isel fy ysbryd, cerddais i ffwrdd i feddwl am yr hyn roedd yr arolygwr wedi gofyn imi ei wneud. Dywedais wrth fy mhartner yn y weinidogaeth: ‘Dw i’n meddwl fy mod i’n bihafio fel Jona. Ac yn y diwedd, aeth Jona i Ninefe. Felly, mi wna i wasanaethu le bynnag rydw i’n cael fy aseinio.’

“Erbyn hyn, dw i wedi bod yn arloesi yn fy nhref enedigol am bedair blynedd, a dw i’n gallu gweld pa mor ddoeth oedd dilyn y cyfarwyddyd a gefais. Y brif broblem oedd fy agwedd negyddol fy hun. Rŵan, dw i wrth fy modd. Mewn un mis, mi wnes i gynnal 24 o astudiaethau Beiblaidd. Diolch i Jehofa, dechreuais astudiaeth hefyd gyda fy nain a oedd yn erbyn y gwir yn y gorffennol.”

DIWEDDGLO HAPUS YN FFIJI

Roedd dynes a oedd yn astudio’r Beibl yn Ffiji yn gorfod dewis rhwng mynd i gynhadledd Gristnogol a mynd gyda’i gŵr i barti pen-blwydd un o’i berthnasau. Rhoddodd ei gŵr ganiatâd iddi fynd i’r gynhadledd. Dywedodd hi y byddai’n ymuno â’r parti ar ôl iddi ddychwelyd. Ond, ar ôl dod adref o’r gynhadledd, roedd hi’n teimlo y byddai’n well peidio â’i rhoi ei hun mewn perygl ysbrydol, felly, ni aeth hi i’r parti.

Yn y cyfamser, dywedodd ei gŵr wrth ei berthnasau ei fod wedi gofyn i’w wraig ymuno â nhw ar ôl iddi ddychwelyd o “gyfarfod y Tystion.” Dywedon nhw, “Fydd hi ddim yn dod; dydy Tystion Jehofa ddim yn dathlu penblwyddi!”a

O ganlyniad, roedd y gŵr yn teimlo’n falch iawn o’i wraig oherwydd ei bod hi wedi gwneud safiad dros ei daliadau a’i chydwybod. Roedd ei ffyddlondeb hi yn rhoi’r cyfle iddi dystiolaethu iddo, ac i eraill hefyd. Beth oedd y canlyniad? Dechreuodd y gŵr astudio’r Beibl a mynychu’r cyfarfodydd gyda’i wraig.

a Gweler “Questions From Readers” yn y Tŵr Gwylio Saesneg, 15 Rhagfyr 2001.

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu