LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • w16 Rhagfyr tt. 29-31
  • Ysbryd Addfwyn—Ffordd Doethineb

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Ysbryd Addfwyn—Ffordd Doethineb
  • Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2016
  • Isbenawdau
  • Erthyglau Tebyg
  • DOETHINEB BOD YN ADDFWYN
  • Addfwynder—Sut Mae o Les Inni?
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2020
  • Dangos Cryfder Drwy Fod yn Addfwyn
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2023
Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2016
w16 Rhagfyr tt. 29-31
Gofalwraig broffesiynol yn siarad â dynes flin

Ysbryd Addfwyn—Ffordd Doethineb

Gwnaeth Toñi, gofalwraig broffesiynol, ganu’r gloch, a daeth dynes ganol oed i’r drws. Rhoddodd y ddynes bryd o dafod i Toñi am beidio â chyrraedd yn gynharach i ofalu am ei mam oedrannus. Nid oedd Toñi’n hwyr i’w gwaith. Ond eto, roedd hi’n ymddiheuro am y gamddealltwriaeth.

Y TRO nesaf i Toñi fynd, roedd y ddynes yn gas unwaith eto. Beth oedd ymateb Toñi? “Roedd hi’n sefyllfa anodd,” meddai. “Doeddwn i ddim yn haeddu cael fy nhrin fel yna.” Er gwaethaf hynny, ymddiheurodd Toñi unwaith eto gan ddweud ei bod hi’n cydymdeimlo â’r ddynes.

Sut byddet ti wedi ymateb mewn sefyllfa o’r fath? A fyddet ti wedi ceisio bod yn addfwyn? A fyddet ti wedi ei chael hi’n anodd rheoli dy dymer? Heb os, gall fod yn anodd iawn peidio â chynhyrfu mewn sefyllfaoedd fel yr un a ddisgrifiwyd. Pan ydyn ni o dan bwysau neu’n cael ein pryfocio, mae’n anodd aros yn addfwyn.

Ond mae’r Beibl yn annog Cristnogion i fod yn addfwyn, ac yn cysylltu addfwynder â doethineb. “Pwy ohonoch chi sy’n meddwl ei fod yn ddoeth ac yn gall?” gofynnodd Iago. “Dylai ddangos hynny yn y ffordd mae’n ymddwyn. Mae doethineb go iawn yn gwneud daioni.” (Iago 3:13) Ym mha ffordd y mae bod yn addfwyn yn dystiolaeth o ddoethineb oddi uchod? A beth all ein helpu ni i feithrin y rhinwedd dduwiol hon?

DOETHINEB BOD YN ADDFWYN

Gall bod yn addfwyn dawelu sefyllfa. “Mae ateb caredig yn tawelu tymer; ond dweud pethau cas yn gwylltio pobl.”—Diar. 15:1.

Gall ymateb yn ddig wneud sefyllfa ddrwg yn waeth oherwydd ei fod yn rhoi coed ar y tân. (Diar. 26:21) Ond ar y llaw arall, gall bod yn addfwyn dawelu sefyllfa. Gall hyd yn oed leddfu agwedd rhywun sy’n elyniaethus.

Gwelodd Toñi hyn â’i llygaid ei hun. O sylwi ar ymateb addfwyn Toñi, dechreuodd y ddynes grio. Eglurodd fod ganddi lawer o broblemau personol a theuluol. Rhoddodd Toñi dystiolaeth dda, a dechreuodd y ddynes astudio’r Beibl, a’r cyfan oherwydd natur heddychol ac addfwyn Toñi.

Gall bod yn addfwyn ein gwneud ni’n hapus. “Mae’r rhai addfwyn sy’n cael eu gorthrymu wedi eu bendithio’n fawr, oherwydd byddan nhw’n etifeddu’r ddaear.”—Math. 5:5.

Pam mae pobl addfwyn yn hapus? Drwy fod yn addfwyn, mae rhai a oedd yn ymosodol ar un adeg bellach yn hapus. Mae eu bywydau wedi gwella, ac maen nhw’n gwybod bod dyfodol gwych o’u blaenau. (Col. 3:12) Mae Adolfo, arolygwr y gylchdaith yn Sbaen, yn cofio sut roedd ei fywyd cyn iddo ddod i mewn i’r gwir.

“Roedd fy mywyd yn ddiamcan,” meddai Adolfo. “Roeddwn i’n colli fy nhymer gymaint roedd hyd yn oed rhai o fy ffrindiau’n ofni fy ymateb balch a threisgar. Wedyn daeth trobwynt yn fy mywyd. Pan oeddwn i’n cwffio â rhywun un tro, cefais fy nhrywanu chwech gwaith, a bu bron imi waedu i farwolaeth.”

Heddiw, trwy ei ymddygiad a’i eiriau, mae Adolfo yn dysgu eraill i fod yn addfwyn. Mae llawer yn cael eu denu at ei bersonoliaeth glên a hapus. Dywed Adolfo ei fod yn hapus oherwydd y newidiadau y mae wedi eu gwneud. Ac mae’n ddiolchgar i Jehofa am ei helpu i feithrin ysbryd o addfwynder.

Mae bod yn addfwyn yn gwneud Jehofa’n hapus. “Bydd ddoeth, fy mab, a gwna fi’n hapus, er mwyn i mi fedru ateb y rhai sy’n gwneud sbort ar fy mhen.”—Diar. 27:11.

Mae Jehofa’n cael ei wawdio gan ei elyn mwyaf, y Diafol. Mae gan Dduw bob rheswm i fod yn ddig am iddo gael ei sarhau yn fwriadol fel hyn, ond mae’r Beibl yn dweud bod Jehofa yn “araf i ddigio.” (Ex. 34:6, BCND) Wrth inni geisio efelychu Jehofa drwy fod yn araf i ddigio, rydyn ni’n dilyn ffordd doethineb sy’n ei blesio’n fawr iawn.—Eff. 5:1.

Lle gelyniaethus yw’r byd heddiw. Efallai byddwn ni’n gorfod ymwneud â phobl sy’n “hunanbwysig ac yn dirmygu pobl eraill, yn sarhaus, . . . yn hel clecs maleisus, yn gwbl afreolus ac anwaraidd.” (2 Tim. 3:2, 3) Ond ni ddylai hynny atal y Cristion rhag meithrin addfwynder. Mae’r Beibl yn ein hatgoffa ni fod y “doethineb sy’n dod oddi wrth Dduw yn . . . meithrin heddwch, addfwynder.” (Iago 3:17) Drwy fod yn heddychol ac yn rhesymol, dangoswn fod gennyn ni ddoethineb duwiol. Bydd hyn yn ein hysgogi ni i ymateb yn addfwyn pan ydyn ni’n cael ein pryfocio, ac i agosáu at Ffynhonnell doethineb, Jehofa.

Sut i Feithrin Addfwynder

Os yw rhywun yn anghwrtais wrthyt ti neu’n dy drin yn annheg, beth all dy helpu i reoli dy emosiynau ac ymateb mewn ffordd sy’n plesio Jehofa? Beth am fyfyrio ar yr egwyddorion gwerthfawr hyn?

  1. 1 YMWRTHOD Â “SAFBWYNT Y BYD.”—1 Cor. 2:12. Mae llawer o bobl yn meddwl bod addfwynder yn gyfystyr â gwendid. Yn eu tyb nhw, mae’n rhaid bod yn ddi-ildio ac yn ymosodol er mwyn bod yn gryf. Mae’r meddylfryd hwnnw’n adlewyrchu safbwynt y byd—nid y doethineb sy’n dod oddi uchod. Yn ôl y Beibl, mae yna gryfder mawr mewn addfwynder. “Gyda tipyn o amynedd gellir perswadio llywodraethwr; ac mae geiriau tyner yn delio gyda gwrthwynebiad.”—Diar. 25:15.

    Cwestiynau i fyfyrio arnyn nhw:

    Ydw i’n ystyried addfwynder yn arwydd o gryfder neu wendid?

    Ydw i’n gwneud ymdrech i osgoi’r “natur bechadurus” sy’n cynnwys gwylltio a ffraeo?—Gal. 5:19, 20.

  2. 2 NEILLTUO AMSER AR GYFER MYFYRIO. “Mae’r person cyfiawn yn meddwl cyn ateb, tra mae’r person drwg yn chwydu aflendid.” (Diar. 15:28) Os ydyn ni’n siarad a ninnau’n dal yn ddig, mae’n bosibl inni ddweud pethau y bydden ni’n eu difaru yn nes ymlaen. Ond, drwy feddwl yn ofalus cyn siarad, gallwn fod yn addfwyn, ac ennyn ymateb ffafriol.

    Cwestiynau i fyfyrio arnyn nhw:

    Sut mae bod yn fyr fy nhymer yn effeithio arna’ i?

    A alla’ i anwybyddu’r anghyfiawnder er mwyn cadw heddwch?—Diar. 19:11.

  3. 3 GWEDDÏA’N AML. Gweddïa am yr ysbryd glân, y grym mwyaf nerthol sydd yn y bydysawd. (Luc 11:13) Cofia fod ffrwyth ysbryd glân Duw yn cynnwys addfwynder a hunan-reolaeth. “Mae gweddïo’n daer ar Jehofa wedi fy helpu’n fawr iawn, yn enwedig mewn sefyllfaoedd anodd,” meddai Adolfo. Os ydyn ni’n dal ati i weddïo, bydd Jehofa yn ateb ein gweddïau drwy roi’r ysbryd glân inni.—Rhuf. 12:12.

    Cwestiynau i fyfyrio arnyn nhw:

    Ydw i’n gofyn yn aml i Jehofa chwilio fy nghalon i weld beth sy’n fy nghymell i?

    Ydw i’n gofyn am ei ysbryd glân ac am y doethineb i ymddwyn mewn ffordd sy’n ei blesio?—Salm 139:23, 24; Iago 1:5.

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu