LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • w17 Mai tt. 31-32
  • “Gyda Mwy o Sêl a Chariad yn Ein Calonnau Nag Erioed”

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • “Gyda Mwy o Sêl a Chariad yn Ein Calonnau Nag Erioed”
  • Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2017
Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2017
w17 Mai tt. 31-32
Y neuadd llawn yn ystod y gynhadledd yn Cedar Point, Ohio, 1922

O’R ARCHIF

“Gyda Mwy o Sêl a Chariad yn Ein Calonnau Nag Erioed”

ROEDD y tymheredd eisoes wedi dechrau codi yn y neuadd wrth i 8,000 o bobl ei lenwi ar fore dydd Gwener ym mis Medi 1922. Cyhoeddodd y cadeirydd fod unrhyw un yn rhydd i adael y neuadd yn ystod y sesiwn bwysig hon, ond ni fyddan nhw’n gallu dod yn ôl i mewn.

Canodd y gynulleidfa yn ystod y “Praise Service” agoriadol, ac wedyn dyma Joseph F. Rutherford yn cerdded at y ddarllenfa. Roedd y rhan fwyaf o’r gynulleidfa ar binnau. Camodd sawl un o gwmpas yn y gwres. Anogodd y siaradwr iddyn nhw eistedd a gwrando. Wrth i’r anerchiad gychwyn, a wnaeth unrhyw un sylwi ar y lliain mawr wedi ei glymu’n rhôl daclus uwchben y llwyfan?

Siaradodd y Brawd Rutherford ar y thema “Mae’r deyrnas nefol ar fin rheoli.” Am tuag awr a hanner, roedd ei lais pwerus yn atseinio drwy’r neuadd wrth iddo drafod sut y gwnaeth yr hen broffwydi gyhoeddi’n ddi-ofn fod y Deyrnas yn dod. Yn ystod ei ddiweddglo, gofynnodd, “Ydych chi’n credu bod y Brenin gogoneddus wedi dechrau rheoli?” Gwaeddodd y gynulleidfa ei hateb: “Ydyn!”

“Felly ewch yn ôl i’r maes, chi feibion y Duw goruchaf!” bloeddiodd y Brawd Rutherford. “Gwelwch, mae’r Brenin yn teyrnasu! Chi yw ei hysbysebwyr! Felly, hysbysebwch, hysbysebwch, hysbysebwch.”

Yr union foment honno, agorodd y lliain a datgelu’r geiriau: “Hysbysebwch y Brenin a’i Deyrnas.”

“Roedd y gynulleidfa wedi gwirioni,” meddai Ray Bopp. Dywedodd Anna Gardner fod “y trawstiau’n crynu oherwydd y cymeradwyo.” “Safodd y gynulleidfa gyfan ar ei thraed yn un,” meddai Fred Twarosh. Dywedodd Evangelos Scouffas, “Roedd fel petai rhyw rym wedi ein tynnu oddi ar ein cadeiriau, safon ni yno â dagrau’n llenwi ein llygaid.”

Roedd llawer o’r bobl yn y gynhadledd honno eisoes wedi bod yn rhannu’r newyddion da am y Deyrnas. Ond, nawr roedden nhw wedi eu hysbrydoli unwaith eto. Yn ôl Ethel Bennecoff, aeth Myfyrwyr y Beibl allan “gyda mwy o sêl a chariad yn [eu] calonnau nag erioed.” Gadawodd Odessa Tuck, a oedd yn 18 oed ar y pryd, yn benderfynol o ateb yr alwad “Pwy dw i’n mynd i’w anfon?” Dywedodd hi: “Doeddwn i ddim yn gwybod lle na sut na beth. Yr unig beth roeddwn i yn gwybod oedd fy mod i eisiau bod fel Eseia, a ddywedodd: ‘Dyma fi; anfon fi.’” (Esei. 6:8) “Y diwrnod arbennig hwnnw,” meddai Ralph Leffler, “oedd cychwyn yr ymgyrch hysbysebu am y Deyrnas sydd heddiw wedi llenwi’r ddaear.”

Doedd dim syndod felly fod y gynhadledd honno yn 1922, yn Cedar Point, Ohio, yn cael ei chofio’n garreg filltir theocrataidd! Dywedodd George Gangas, “Ar ôl y gynhadledd honno, doeddwn ni byth eisiau methu un.” A ni wnaeth fethu un, cyn belled ag yr oedd yn gallu cofio. Ysgrifennodd Julia Wilcox: “Alla’ i ddim hyd yn oed esbonio’r wefr rydw i’n ei theimlo bob tro y mae sôn am Cedar Point 1922 yn ein llenyddiaeth. Rydw i’n wastad eisiau dweud, ‘Diolch Jehofa am ganiatáu imi fod yno.’”

Mae’n debyg fod gan lawer ohonon ni heddiw atgofion gwerthfawr tebyg o gynhadledd a wnaeth gyffwrdd â’n calon a’n llenwi â sêl a chariad tuag at ein Duw a’i Frenin. Wrth inni feddwl am atgofion o’r fath, rydyn ni hefyd eisiau dweud, “Diolch Jehofa am ganiatáu imi fod yno.”

Yr Arwyddion Rhyfedd

Roedd y llythrennau “ADV” ym mhobman—ar goed, adeiladau, hyd yn oed ar raglen y gynhadledd! Roedd y cynadleddwyr ar dân eisiau gwybod beth oedden nhw.a

“Ar bob postyn a drws roedd cardiau gwyn, ac arnyn nhw’r llythrennau mawr du, ADV. Gwnaethon ni holi am ystyr y llythrennau, ond doedd neb yn gwybod, neu os oedden nhw, doedden nhw ddim am ddweud wrthyn ni.”—Edith Brenisen.

a Mae’r llythrennau “ADV” yn dod o’r gair Saesneg “advertise,” a oedd yn rhoi cliw i brif bwynt y gynhadledd. Mae dirgelwch i’r arwyddion hyd heddiw. Nid oes yr un llun ohonyn nhw wedi ei ddarganfod yn ein Harchif.

Ateb i Weddi y Tu Ôl i’r Llenni

Cyrhaeddodd Arthur a Nellie Claus yn gynnar er mwyn cael seddi da. “Roeddwn i’n dal ar bob gair,” meddai Arthur. Yn sydyn, cafodd grampiau yn ei fol. Yn anfodlon, aeth allan o’r neuadd, yn gwybod na fyddai’n cael dod yn ôl i mewn. Gofynnodd un o’r gwasanaethwyr, “Sut gelli di adael ar adeg fel hon?” Doedd gan Arthur ddim dewis.

Ar ôl iddo ddychwelyd, clywodd Arthur glapio yn dod o’r tu mewn i’r neuadd. Tra oedd yn chwilio am rywle y tu allan i’r neuadd lle gallai glywed beth oedd yn digwydd y tu mewn, fe ddaeth o hyd i rywle lle roedd yn bosibl iddo ddringo’r to, a oedd tua 16 throedfedd o uchder. Yna, aeth tuag at ffenestr yn y to a oedd ar agor.

Gwelodd Arthur fod yna sawl brawd mewn penbleth, yn edrych i lawr ar y siaradwr. Roedden nhw wedi derbyn cyfarwyddyd i dorri sawl cortyn ar yr un pryd er mwyn agor baner. Ond er mwyn torri’r rhaffau i gyd ar yr un pryd, roedd angen un gyllell ychwanegol. A oedd gan Arthur gyllell yn ei boced? Oedd, diolch byth. Arhosodd Arthur a’r lleill yn barod am y signal. Wrth i’r Brawd Rutherford ddweud y gair “Hysbysebwch!” am yr eildro, roedden nhw i fod i dorri’r rhaffau.

Dywedodd y llygad-dystion fod y lliain mawr lliwgar wedi agor yn hollol esmwyth. Yn y canol, roedd darlun o Iesu.

Yn nes ymlaen, esboniodd y brodyr i Arthur eu bod nhw wedi dringo’r ystol i’r to a bod rhywun wedyn wedi cymryd yr ystol. Nid oedd yn bosibl iddyn nhw fynd i nôl help, felly, gweddïon nhw am i Jehofa anfon brawd â chyllell atyn nhw. Roedd y brodyr hynny’n hollol sicr fod Jehofa wedi ateb eu gweddi yn y ffordd fwyaf diddorol.

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu