LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • w17 Mehefin tt. 14-15
  • Gweld Heibio Pryd a Gwedd Rhywun

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Gweld Heibio Pryd a Gwedd Rhywun
  • Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2017
  • Erthyglau Tebyg
  • Dal Ati Fel y Gwnaeth Pedr
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2023
  • Gwersi Gallwn Ni Eu Dysgu o Ddau Lythyr Pedr
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2023
  • Efelycha Jehofa ac Iesu yn Dy Ffordd o Feddwl
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2025
  • Pedr a Cornelius
    Storïau o’r Beibl
Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2017
w17 Mehefin tt. 14-15
Dyn digartref o’r enw Peter

Gweld Heibio Pryd a Gwedd Rhywun

MAE Don, un o Dystion Jehofa yng Nghanada, yn gwneud ymdrech arbennig i siarad â phobl sy’n byw ar y stryd. Ynglŷn ag un ohonyn nhw, dywed Don: “Dyn digartref oedd Peter, ac roedd yn un o’r bobl fwyaf budr dw i erioed wedi ei weld. Roedd yn gas ac roedd wedi magu’r ddawn o gadw pobl draw. Gwrthododd lawer o ymdrechion i fod yn garedig ag ef.” Ond eto, am tua 14 o flynyddoedd, ceisiodd Don ddangos caredigrwydd tuag at y dyn digartref hwn.

Don yn pregethu i Peter mewn stryd gefn

Un diwrnod, gofynnodd Peter i Don: “Pam rwyt ti’n gwastraffu dy amser arna’ i? Mae pawb arall yn gadael llonydd imi. Pam mae gen ti gymaint o ddiddordeb ynof i?” Defnyddiodd Don dair ysgrythur i geisio cyffwrdd â chalon Peter. Yn gyntaf, fe ofynnodd i Peter a oedd yn gwybod bod gan Dduw enw personol, ac yna gofynnodd iddo ddarllen yr enw yn syth o’r Beibl yn Salm 83:18. Nesaf, i ddangos pam roedd ganddo ddiddordeb yn Peter, gofynnodd Don iddo ddarllen Rhufeiniaid 10:13, 14, sy’n esbonio y bydd “pwy bynnag sy’n galw ar enw’r Arglwydd yn cael ei achub.” Yn olaf, darllenodd Don Mathew 9:36 ac wedyn gofyn i Peter ei darllen hefyd. Mae’r adnod honno’n dweud am Iesu: “Roedd gweld tyrfaoedd o bobl yn ei gyffwrdd i’r byw, am eu bod fel defaid heb fugail, ar goll ac yn gwbl ddiymadferth.” Yna, gyda’i lygaid yn llawn dagrau, gofynnodd Peter: “Ydw i’n un o’r defaid yma?”

Dechreuodd Peter wneud newidiadau. Aeth ati i ymolchi, tacluso ei farf, a gwisgo’r dillad newydd roedd Don wedi eu rhoi iddo. Parhaodd Peter i gadw’n daclus.

Roedd Peter yn cadw dyddiadur. Roedd y rhannau cyntaf yn negyddol, ond roedd y rhannau diweddarach yn wahanol. Ar un dudalen, ysgrifennodd: “Dysgais enw Duw heddiw. Nawr, pan ydw i’n gweddïo, gallaf weddïo ar Jehofa. Braf yw cael gwybod ei enw. Mae Don yn dweud bod Jehofa’n gallu bod yn Ffrind personol imi, rhywun sy’n barod i wrando arnaf, bryd bynnag dw i eisiau.”

Roedd y sylwadau olaf yn y dyddiadur wedi eu hysgrifennu at frawd a chwaer Peter. Ysgrifennodd:

“Dydw i ddim yn teimlo’n dda heddiw. Dw i’n meddwl bod henaint wedi dal i fyny â mi. Ond, hyd yn oed os mai heddiw yw fy niwrnod olaf, dw i’n gwybod y byddaf yn gweld fy ffrind [Don] eto ym Mharadwys. Os ydych chi’n darllen hyn, dydw i ddim o gwmpas bellach. Ond os ydych chi’n gweld dyn yn fy angladd sydd ar ei ben ei hun, siaradwch ag ef, a plîs darllenwch y llyfr bach glas yma.a Mae’n dweud y byddaf yn gweld fy ffrind unwaith eto ym Mharadwys. Rydw i’n credu hyn â’m holl galon. Eich brawd annwyl, Peter.”

Ar ôl yr angladd, esboniodd Ummi, chwaer Peter: “Tua dwy flynedd yn ôl, cysylltodd Peter â mi. Am y tro cyntaf ers hydoedd, roedd yn edrych yn hapus. Gwnaeth hyd yn oed wenu.” Dywedodd hi wrth Don: “Mi wna i ddarllen y llyfr oherwydd os yw rhywbeth wedi cyffwrdd â chalon fy mrawd, mae’n rhaid ei fod yn rhywbeth arbennig.” Gwnaeth Ummi hefyd gytuno i drafod y llyfr mwy diweddar Beth Mae’r Beibl yn ei Wir Ddysgu? gydag un o Dystion Jehofa.

Don yn parhau i bregethu i Peter, sy’n lân ac sy’n gwisgo dillad gwell

Gallwn ninnau hefyd edrych y tu hwnt i bryd a gwedd pobl, dangos gwir gariad, a bod yn amyneddgar tuag at bobl o bob math. (1 Tim. 2:3, 4) Wrth inni wneud hynny, efallai byddwn ni’n gallu cyrraedd calonnau pobl fel Peter, sydd ddim yn ddeniadol i’r llygad ond sydd â chalon dda. Gallwn fod yn sicr y bydd Duw, sy’n “edrych ar sut berson ydy rhywun go iawn,” yn gwneud i’r gwirionedd dyfu yng nghalonnau pobl dda.—1 Sam. 16:7; Ioan 6:44.

a Yn cyfeirio at y llyfr ar gyfer astudio’r Beibl, The Truth That Leads to Eternal Life, a gafodd Peter flynyddoedd ynghynt. Cyhoeddwyd gan Dystion Jehofa ond sydd bellach allan o brint.

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu