Blwch Cwestiynau
◼ A ddylwn ni weddïo wrth astudio’r Beibl ar y stepen drws?
Mae agor a chloi astudiaeth y Beibl gyda gweddi yn fuddiol iawn. Trwy weddïo, rydyn ni’n gofyn i Jehofah am iddo roi ei ysbryd glân ar ein trafodaethau. (Luc 11:13) Mae gweddi hefyd yn pwysleisio pwysigrwydd astudio’r Beibl ac yn dysgu’r myfyriwr sut i weddïo. (Luc 6:40) Felly, peth da yw cyflwyno’r arfer o weddïo cyn gynted ag y bo modd. Er hynny, nid yw pob astudiaeth yr un fath, ac mae’n rhaid i’r un sy’n arwain yr astudiaeth bwyso a mesur y sefyllfa wrth benderfynu a ddylai roi gweddi neu beidio ar stepen y drws.
Un peth pwysig i’w ystyried yw lleoliad yr astudiaeth. Os oes rhywfaint o breifatrwydd i’w gael, a’r astudiaeth yn un reolaidd, efallai y byddai’n bosibl i weddïo’n dawel ac yn fyr. Sut bynnag, petai hyn yn debyg o dynnu sylw pobl eraill neu o wneud i’r myfyriwr deimlo’n anesmwyth, efallai y byddai’n well aros tan y medrwch chi gynnal yr astudiaeth mewn lle mwy preifat. Lle bynnag y cynhelir yr astudiaeth, dylen ni ystyried yn ofalus pryd y byddai’r amser gorau i gyflwyno’r arfer o weddïo.—Gweler rhifyn Mawrth 2005 Our Kingdom Ministry, tudalen 4.