Adolygiad Ysgol y Weinidogaeth
Bydd y cwestiynau canlynol yn cael eu trafod yn Ysgol y Weinidogaeth yn ystod yr wythnos yn cychwyn Rhagfyr 28, 2015. Rhoddir y dyddiad y bydd pob cwestiwn yn cael ei drafod fel y gellir gwneud ymchwil wrth baratoi ar gyfer yr ysgol bob wythnos.
A wnaeth Dafydd ymdrin â’r caethweision yn gas, fel y mae rhai yn ei ddeall o ddarllen 1 Cronicl 20:3? [2 Tach., w05-E 2/15 t. 27]
Beth ysgogodd Dafydd i fod yn hael, a beth all ein helpu ni i wneud yr un fath? (1 Cron. 22:5) [9 Tach., w05-E 10/1 t. 11 par. 7]
Beth roedd Dafydd yn ei feddwl pan ddywedodd wrth Solomon: “Bydded i ti adnabod Duw dy dad”? (1 Cron. 28:9) [16 Tach., w10-E 11/1 t. 30 par. 3, 7]
Beth roedd cais Solomon yn 2 Cronicl 1:10 yn ei ddangos amdano, a beth gallwn ni ei ddysgu o feddwl yn fanwl am ein gweddïau ar Jehofa? (2 Cron. 1:11, 12) [23 Tach., w05-E 12/1 t. 19 par. 6]
Yn ôl 2 Cronicl 6:29, 30, pa allu unigryw sydd gan Jehofa, a pham dylen ni agor ein calonnau iddo mewn gweddi? (Salm 55:22) [30 Tach., w10-E 12/1 t. 11 par. 7]
Ar ba sail y gwnaeth Asa weddïo am fuddugoliaeth yn erbyn byddin anferth, ac o beth allwn ni fod yn sicr yn ein brwydr ysbrydol? (2 Cron. 14:11) [7 Rhag., w12-E 8/15 t. 8 par. 6–t. 9 par. 1]
Sut mae’r ffordd a wnaeth Jehofa ddelio â chamgymeriadau’r Brenin Jehosaffat yn ein hatgoffa o gariad Duw, a sut dylai hynny effeithio ar ein hagwedd tuag at eraill? (2 Cron. 19:3) [14 Rhag., w03-E 7/1 t. 17 par. 13; cl-E t. 245 par. 12]
Pam y mae’n rhaid inni ‘sefyll yn llonydd’ yn ein hoes ni? (2 Cron. 20:17) [21 Rhag., w05-E 12/1 t. 21 par. 2; w03-E 6/1 t. 21 par. 15-16]
Pa beth pwysig y mae 2 Cronicl 21:20 yn ein hatgoffa amdano ynglŷn â marwolaeth Jehoram? [21 Rhag., w98-E 11/15 t. 32 par. 4]
Yn ôl 2 Cronicl 26:5, pwy gafodd ddylanwad da ar Usseia pan oedd yn ifanc, a sut gall y rhai ifanc heddiw fanteisio ar brofiad y Cristnogion aeddfed yn y gynulleidfa? [28 Rhag., w07-E 12/15 t. 10 par. 2, 4]