LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • wp21 Rhif 2 tt. 7-9
  • Pryd Bydd y Diwedd yn Dod? Beth Ddywedodd Iesu

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Pryd Bydd y Diwedd yn Dod? Beth Ddywedodd Iesu
  • Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Teyrnas Jehofa (Cyhoeddus)—2021
  • Isbenawdau
  • Erthyglau Tebyg
  • YSTYRIWCH DDAU BETH DDYWEDODD IESU AM Y DIWEDD:
  • YR ARWYDD
  • “Y DYDDIAU OLAF”
  • MAE PARADWYS DDAEAR AR Y GORWEL!
  • Ydyn Ni’n Byw yn “y Dyddiau Diwethaf”?
    Beth Mae’r Beibl yn ei Wir Ddysgu?
  • A Yw Diwedd y Byd yn Agos?
    Beth Allwn Ni ei Ddysgu o’r Beibl?
  • Sut Mae Gwybod Ein Bod Ni yn “y Dyddiau Diwethaf”
    Ydy Duw yn Gwir Ofalu Amdanon Ni?
  • Beth Yw Ystyr Hyn?
    Byddwch Wyliadwrus!
Gweld Mwy
Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Teyrnas Jehofa (Cyhoeddus)—2021
wp21 Rhif 2 tt. 7-9
Iesu yn esbonio arwydd y dyddiau diwethaf i’w apostolion.

Pryd Bydd y Diwedd yn Dod? Beth Ddywedodd Iesu

Fel gwnaethon ni ddysgu yn yr erthygl flaenorol, pan mae’r Beibl yn sôn am ddiwedd y byd, dydy hynny ddim yn golygu diwedd y ddaear, na’r ddynoliaeth. Yn hytrach, mae’n golygu diwedd y system ddrwg sydd ohoni, a phawb sy’n ei chefnogi. Ond ydy’r Beibl yn dweud pryd bydd y system hon yn dod i ben?

YSTYRIWCH DDAU BETH DDYWEDODD IESU AM Y DIWEDD:

“Daliwch ati i fod yn wyliadwrus, felly, oherwydd dydych chi ddim yn gwybod y dydd na’r awr.”—MATHEW 25:13.

“Daliwch ati i edrych, arhoswch yn effro, oherwydd dydych chi ddim yn gwybod pryd mae’r amser penodedig.”—MARC 13:33.

Felly, does neb ar y ddaear yn gwybod yn union pryd bydd y system hon yn dod i ben. Er hynny, mae Duw wedi gosod amser penodol—hyd yn oed y “dydd hwnnw a’r awr honno” bydd y diwedd yn dod. (Mathew 24:36) Ydy hyn yn golygu bod ’na ddim ffordd o gwbl o wybod pryd fydd y diwedd yn agos? Nac ydy wir. Dywedodd Iesu wrth ei ddisgyblion i edrych am sawl digwyddiad a fyddai’n dangos bod y diwedd yn agos.

YR ARWYDD

Byddai’r digwyddiadau hyn yn arwydd “o gyfnod olaf y system hon.” Dywedodd Iesu: “Bydd cenedl yn codi yn erbyn cenedl a theyrnas yn erbyn teyrnas, a bydd ’na brinder bwyd a daeargrynfeydd yn un lle ar ôl y llall.” (Mathew 24:3, 7) Dywedodd hefyd y bydd ’na “heintiau” ar raddfa eang. (Luc 21:11) Ydych chi’n gweld y pethau hyn gwnaeth Iesu eu rhagfynegi?

Heddiw, mae pobl yn dioddef yn ofnadwy oherwydd rhyfeloedd, newyn, a daeargrynfeydd, yn ogystal â salwch difrifol. Er enghraifft, yn 2004 gwnaeth daeargryn enfawr yng nghefnfor India achosi tswnami wnaeth ladd tua 225,000 o bobl. Mewn tair blynedd, bu farw 6.9 miliwn o bobl ledled y byd oherwydd y pandemig COVID-19. Dywedodd Iesu y byddai digwyddiadau fel hyn yn dangos bod diwedd y system hon yn agos.

“Y DYDDIAU OLAF”

Mae’r Beibl yn disgrifio’r cyfnod jest cyn y diwedd fel “y dyddiau olaf.” (2 Pedr 3:3, 4) Mae Ail Timotheus 3:1-5 yn dweud y byddai moesau pobl yn dirywio’n sydyn yn y dyddiau olaf. (Gweler y blwch “Jest Cyn Diwedd y Byd.”) Ydych chi’n gweld pobl sy’n hunanol, yn farus, yn dreisgar, ac yn dangos dim cariad? Mae hyn hefyd yn dystiolaeth o’r ffaith fod diwedd y byd yn agos.

Am faint bydd y dyddiau olaf yn para? Yn ôl y Beibl, dim ond am “ychydig o amser.” Yna, bydd Duw yn dinistrio’r “rhai sy’n dinistrio’r ddaear.”—Datguddiad 11:15-18; 12:12.

Rhyfeloedd

Milwyr mewn brwydr, yn saethu o tu ôl i baricad.
  • Gwnaeth y nifer o farwolaethau o ganlyniad i wrthdaro arfog a therfysgaeth gynyddu o 118 y cant rhwng 2007 a 2017

Salwch

Dyn sâl mewn ysbyty.
  • Clefyd y galon, strôc, clefyd yr ysgyfaint, anhwylderau babanod newydd-anedig, clefyd dolur rhydd, canser, a thwbercwlosis yw rhai o’r lladdwyr mwyaf

Newyn

Merch ifanc yn llwgu ac yn gafael mewn powlen.
  • Yn 2021, roedd 9.8 y cant o boblogaeth y byd yn llwgu ac roedd bron i 1 mewn 3 o blant o dan bump yn dioddef o ddiffyg maeth a ddim yn tyfu’n iawn

Pregethu Byd-Eang

Tystion Jehofa yn sefyll wrth ymyl trolïau llenyddiaeth ac yn siarad â dyn.
  • Mae dros 8.6 miliwn o bregethwyr cymwys (Tystion Jehofa) yn dosbarthu llenyddiaeth Feiblaidd mewn dros 1,000 o ieithoedd, mewn 240 gwlad

MAE PARADWYS DDAEAR AR Y GORWEL!

Mae Duw eisoes wedi penderfynu’r diwrnod a’r awr pan fydd yn dod â’r system ddrygionus hon i ben. (Mathew 24:36) Ond, mae ’na fwy o newyddion da—dydy Duw ddim yn “dymuno i unrhyw un gael ei ddinistrio.” (2 Pedr 3:9) Mae’n rhoi cyfle i bawb ddysgu amdano ac ufuddhau iddo. Pam? Am ei fod eisiau inni oroesi diwedd y byd hwn, a byw yn ei fyd newydd pan fydd y ddaear yn baradwys.

Mae Duw yn sicrhau bod pawb yn gallu dysgu sut gallan nhw fod yn rhan o’r byd newydd o dan reolaeth ei Deyrnas. Dywedodd Iesu y byddai’r newyddion da am Deyrnas Dduw yn cael ei bregethu “drwy’r byd i gyd.” (Mathew 24:14) Mae Tystion Jehofa ledled y byd yn treulio biliynau o oriau yn pregethu i bobl ac yn dysgu gobaith y Beibl iddyn nhw. Dywedodd Iesu y byddai’r gwaith pregethu hwn yn cael ei wneud ar draws y byd cyn i’r diwedd ddod.

Fydd pobl ddim yn llywodraethu am lawer hirach. Ond y newyddion da ydy y gallwch chi oroesi diwedd y byd a bod yn rhan o’r Baradwys ddaear mae Duw wedi ei haddo. Bydd yr erthygl nesaf yn trafod sut gallwch chi fyw yn y byd newydd hwnnw.

JEST CYN DIWEDD Y BYD

“Yn y dyddiau olaf bydd y sefyllfa’n hynod o anodd ac yn beryglus. Oherwydd bydd dynion yn eu caru eu hunain, yn caru arian, yn frolgar, yn ffroenuchel, yn cablu, yn anufudd i’w rhieni, yn anniolchgar, yn anffyddlon, heb gariad naturiol, yn gwrthod cytuno â phobl eraill, yn enllibwyr, heb hunanreolaeth, yn ffyrnig, heb gariad at ddaioni, yn fradwyr, yn ystyfnig, yn llawn balchder, yn caru pleser yn hytrach na charu Duw, yn honni eu bod nhw’n gwasanaethu Duw ond heb ddangos hynny yn y ffordd maen nhw’n byw.”—2 TIMOTHEUS 3:1-5.

Mae proffwydoliaeth Iesu am “y dyddiau olaf” yn rhoi gobaith inni

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu