LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • w22 Rhagfyr tt. 28-30
  • Wyt Ti’n Barod i “Etifeddu’r Ddaear”?

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Wyt Ti’n Barod i “Etifeddu’r Ddaear”?
  • Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2022
  • Isbenawdau
  • Erthyglau Tebyg
  • WYT TI’N BAROD I DROI’R DDAEAR YN BARADWYS?
  • WYT TI’N BAROD I OFALU AM Y RHAI FYDD YN CAEL EU HATGYFODI?
  • WYT TI’N BAROD I DDYSGU’R RHAI FYDD YN CAEL EU HATGYFODI?
  • Bydd Atgyfodiad!
    Beth Allwn Ni ei Ddysgu o’r Beibl?
  • Rhan 10
    Gwrando ar Dduw
  • Beth Yw’r Atgyfodiad?
    Atebion i Gwestiynau am y Beibl
  • Mae’r Atgyfodiad yn Dangos Cariad, Doethineb, ac Amynedd Duw
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2020
Gweld Mwy
Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2022
w22 Rhagfyr tt. 28-30
Pobl yn troi’r ddaear yn baradwys. Mae rhai yn clirio’r llanast, eraill yn adeiladu tŷ, ac eraill eto yn garddio.

Wyt Ti’n Barod i “Etifeddu’r Ddaear”?

DYWEDODD Iesu: “Hapus ydy’r rhai addfwyn, oherwydd y byddan nhw’n etifeddu’r ddaear.” (Math. 5:5) Onid ydyn ni i gyd yn edrych ymlaen at yr adeg honno? Bydd yr eneiniog yn etifeddu’r ddaear pan fyddan nhw’n frenhinoedd yn y nef gyda Iesu. (Dat. 5:10; 20:6) Ond ar y llaw arall, bydd y rhan fwyaf ohonon ni yn etifeddu’r ddaear drwy fyw arni am byth. Bryd hynny, byddwn ni’n berffaith, yn hapus, ac yn byw mewn heddwch. Ond er mwyn i hynny ddigwydd, bydd rhaid inni wneud gwaith pwysig. Er enghraifft, troi’r ddaear yn baradwys, a chroesawu’r rhai fydd yn cael eu hatgyfodi a’u dysgu nhw. Sut gallwn ni ddangos hyd yn oed nawr ein bod ni eisiau cael rhan mewn pethau felly? Gad inni weld.

WYT TI’N BAROD I DROI’R DDAEAR YN BARADWYS?

Pan ddywedodd Jehofa: “Llanwch y ddaear a defnyddiwch ei photensial hi,” roedd yn awgrymu y byddai’r ddaear gyfan yn baradwys yn y pen draw. (Gen. 1:28) Bellach, y rhai fydd yn etifeddu’r ddaear fydd yn gyfrifol am y dasg honno. Ond bydd rhaid inni gychwyn o’r cychwyn fel petai, oherwydd dydy Gardd Eden ddim yn bodoli erbyn hyn, ac mae’r rhan fwyaf o’r ddaear wedi cael ei difetha. Felly, bydd ’na lawer o waith i’w wneud yn syth ar ôl Armagedon. Yn sicr, bydd rhaid inni dorchi’n llewys!

Pan ddaeth yr Israeliaid yn ôl o Fabilon, doedd neb wedi bod yn byw ar y tir ers 70 mlynedd. Ond, roedd Eseia wedi proffwydo y byddan nhw’n llwyddo i wneud y wlad yn hardd unwaith eto gyda help Jehofa. Dywedodd: “Bydd yn gwneud ei hanialwch fel Eden, a’i diffeithwch fel gardd yr ARGLWYDD.” (Esei. 51:3) A dyna’n union ddigwyddodd. Mewn ffordd debyg, bydd y rhai fydd yn etifeddu’r ddaear yn llwyddo i’w throi yn baradwys gyda help Jehofa. Beth gelli di ei wneud heddiw i ddangos dy fod ti eisiau cael rhan yn y gwaith hwnnw?

Un peth gelli di ei wneud ydy gwneud dy orau i gadw dy dŷ yn lân ac yn dwt ar y tu mewn, a’r tu allan. Mae hynny’n bosib hyd yn oed os does neb arall ar y stryd yn gwneud hynny. A beth am helpu i lanhau dy Neuadd y Deyrnas neu Neuadd Cynulliad lleol? Efallai dy fod ti mewn sefyllfa i gynnig cymorth ar ôl trychineb. Drwy wirfoddoli i wneud pethau fel hyn, rwyt ti’n dangos dy fod ti’n barod i helpu. Byddai hefyd yn werth gofyn i ti dy hun, ‘Petaswn i’n cael byw am byth ar y ddaear, pa sgiliau fyddai’n ddefnyddiol?’ Yna, dos ati i ddysgu’r sgiliau hynny nawr.

Grŵp o frodyr a chwiorydd yn glanhau ac yn cynnal a chadw Neuadd y Deyrnas.

WYT TI’N BAROD I OFALU AM Y RHAI FYDD YN CAEL EU HATGYFODI?

Ar ôl atgyfodi merch Jairus, un o’r pethau cyntaf wnaeth Iesu ei awgrymu oedd ei bod hi’n cael rhywbeth i’w fwyta. (Marc 5:42, 43) Mae’n debyg doedd hynny ddim yn dasg anodd, ond meddylia cymaint o waith fydd ’na unwaith fydd “pawb sydd yn y beddau yn clywed [llais Iesu] ac yn dod allan.” (Ioan 5:28, 29) Sut byddwn ni’n gofalu amdanyn nhw? Dydy’r Beibl ddim yn dweud yn union, ond mae’n debyg byddan nhw angen bwyd, dillad, a rhywle i fyw. Beth gelli di ei wneud heddiw i ddangos dy fod ti’n barod i’w helpu nhw?

Beth gelli di ei wneud heddiw i ddangos dy fod ti’n barod i etifeddu’r ddaear?

Brodyr a chwiorydd hapus mewn maes awyr yn croesawu cynadleddwyr i gynhadledd ryngwladol ym Mharis.

Pan wyt ti’n clywed bod arolygwr y gylchdaith yn dod i dy gynulleidfa, a wyt ti’n cynnig cael ef draw am bryd o fwyd? A beth am weithwyr Bethel llawn amser sy’n cael eu hail-aseinio yn ôl i’r maes, neu arolygwyr cylchdaith sy’n dod i ddiwedd eu haseiniad, a elli di eu helpu nhw i ffeindio rhywle i fyw? Oes ’na gynhadledd arbennig, neu ranbarthol, yn dod i dy ardal di? Os felly, allet ti wirfoddoli i helpu cyn neu ar ôl y gynhadledd, neu i groesawu dy frodyr a dy chwiorydd?

WYT TI’N BAROD I DDYSGU’R RHAI FYDD YN CAEL EU HATGYFODI?

Mae Actau 24:15 yn awgrymu y bydd biliynau o bobl yn cael eu hatgyfodi. Chafodd llawer ohonyn nhw ddim y cyfle i ddod i adnabod Jehofa cyn iddyn nhw farw. Bydd y cyfle hwnnw yn dod wrth i bobl ffyddlon Duw fwrw iddi yn y gwaith pregethu.a (Esei. 11:9) Mae un chwaer o’r enw Charlotte yn edrych ymlaen at hynny yn fawr iawn. Mae hi wedi pregethu yn Ewrop, De America, ac Affrica. “Dw i’n ffaelu disgwyl i ddysgu pobl ar ôl iddyn nhw gael eu hatgyfodi,” meddai. “Pan dw i’n darllen am rywun oedd yn byw ers talwm, dw i’n aml yn meddwl, ‘Mae’n drueni nad oedden nhw’n ’nabod Jehofa; byddai pethau wedi gallu bod yn wahanol iawn iddyn nhw.’ Dw i’n ysu i gael dweud wrthyn nhw am bopeth maen nhw wedi ei fethu.”

Meddylia hefyd am y rhai ffyddlon wnaeth farw cyn i Iesu ddod i’r ddaear. Bydd ganddyn nhwythau lawer i’w ddysgu hefyd. Dychmyga esbonio i Daniel sut cafodd ei broffwydoliaethau eu cyflawni. (Dan. 12:8) Neu ddangos i Ruth a Naomi sut roedden nhw’n rhan o linach Iesu. Meddylia pa mor hapus fyddi di o gael y fraint o ddysgu’r rhain, a phobl eraill. Byddwn ni’n gallu canolbwyntio ar y gwaith hwnnw heb y beichiau trwm rydyn ni’n eu cario heddiw. Byddwn ni wrth ein boddau!

Chwaer yn rhoi taflen i ddynes mewn tŷ golchi.

Beth gelli di ei wneud nawr i ddangos dy fod ti’n barod i ddysgu’r rhai fydd yn cael eu hatgyfodi? Un peth ydy pregethu’n aml a gwella dy sgiliau dysgu. (Math. 24:14) Hyd yn oed os nad wyt ti’n gallu gwneud gymaint ag y byddet ti’n hoffi nawr oherwydd dy oedran neu amgylchiadau eraill, gelli di ddangos dy fod ti’n awyddus i ddysgu’r rhai fydd yn cael eu hatgyfodi drwy wneud dy orau yn y gwaith pregethu nawr.

Felly gofynna i ti dy hun, ‘Ydw i wir yn edrych ymlaen at etifeddu’r ddaear? Ydw i’n awyddus i droi’r ddaear yn baradwys, ac i groesawu’r rhai fydd yn cael eu hatgyfodi a’u dysgu nhw?’ Drwy achub ar bob cyfle i wneud gwaith tebyg i’r hyn fyddi di’n ei wneud yn y dyfodol, byddi di’n dangos dy fod ti’n barod i etifeddu’r ddaear!

a Darllena’r erthygl “Dysgu Llawer i Fod yn Gyfiawn” yn rhifyn Medi, 2022, y Tŵr Gwylio.

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu