LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • 2 Samuel 22
  • Y Beibl—Cyfieithiad y Byd Newydd

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

Braslun 2 Samuel

      • Dafydd yn moli Duw am ei weithredoedd achubol (1-51)

        • “Jehofa yw fy nghraig” (2)

        • Jehofa yn ffyddlon i’r rhai ffyddlon (26)

2 Samuel 22:3

Troednodiadau

  • *

    Neu “fy achubwr nerthol.”

2 Samuel 22:6

Troednodiadau

  • *

    Neu “Sheol,” hynny yw, bedd cyffredin dynolryw. Gweler Geirfa.

2 Samuel 22:11

Troednodiadau

  • *

    Neu “ar y gwynt.”

2 Samuel 22:27

Troednodiadau

  • *

    Neu efallai, “ymddangos yn wirion.”

2 Samuel 22:31

Troednodiadau

  • *

    Neu “wedi eu coethi drwy dân.”

2 Samuel 22:36

Mynegeion

  • Llawlyfr Cyhoeddiadau

    Y Tŵr Gwylio (Astudio),

    8/2020, t. 8

2 Samuel 22:37

Troednodiadau

  • *

    Neu “Fel na fydd fy nhraed i’n baglu.”

2 Samuel 22:41

Troednodiadau

  • *

    Llyth., “rhoi taw.”

2 Samuel 22:51

Troednodiadau

  • *

    Neu “rhoi buddugoliaeth fawr i’w frenin.”

  • *

    Llyth., “had.”

  • Y Beibl—Cyfieithiad y Byd Newydd
  • 1
  • 2
  • 3
  • 4
  • 5
  • 6
  • 7
  • 8
  • 9
  • 10
  • 11
  • 12
  • 13
  • 14
  • 15
  • 16
  • 17
  • 18
  • 19
  • 20
  • 21
  • 22
  • 23
  • 24
  • 25
  • 26
  • 27
  • 28
  • 29
  • 30
  • 31
  • 32
  • 33
  • 34
  • 35
  • 36
  • 37
  • 38
  • 39
  • 40
  • 41
  • 42
  • 43
  • 44
  • 45
  • 46
  • 47
  • 48
  • 49
  • 50
  • 51
Y Beibl—Cyfieithiad y Byd Newydd
2 Samuel 22:1-51

Ail Samuel

22 Ac ar y diwrnod gwnaeth Jehofa achub Dafydd o law ei holl elynion, ac o law Saul, canodd Dafydd y gân hon i Jehofa:

2 “Jehofa yw fy nghraig a fy noddfa, yr Un sy’n fy achub i.

 3 Fy Nuw yw fy nghraig, mae’n lloches imi,

Ef yw fy nharian a fy nghorn achubiaeth,* fy lloches ddiogel

Yr Un rydw i’n rhedeg ato am help, fy achubwr; ti sy’n fy achub i rhag trais.

 4 Rydw i’n galw ar Jehofa, sy’n haeddu clod,

A bydda i’n cael fy achub rhag fy ngelynion.

 5 Roedd tonnau marwolaeth yn torri o fy nghwmpas i;

Roedd llifogydd o ddynion diwerth yn fy nychryn i.

 6 Roedd rhaffau’r Bedd* yn fy amgylchynu i;

Roedd maglau marwolaeth yn fy mygwth i.

 7 Yn fy helbul galwais ar Jehofa,

Ar fy Nuw roeddwn i’n galw’n ddi-baid.

Yna o’i deml clywodd fy llais,

A rhoddodd glust i fy nghri am help.

 8 Dechreuodd y ddaear siglo ac ysgwyd yn ôl ac ymlaen;

Crynodd sylfeini’r nefoedd

Gan ysgwyd yn ôl ac ymlaen am ei fod wedi digio.

 9 Cododd mwg o’i ffroenau,

A daeth tân dinistriol o’i geg;

Roedd glo tanllyd yn tasgu ohono.

10 Gwnaeth i’r nefoedd blygu wrth iddo ddod i lawr,

Ac roedd cymylau tywyll o dan ei draed.

11 Marchogodd ar gefn cerwb a hedfan.

Roedd fel petai angel yn ei gario ar ei adenydd.*

12 Yna gosododd dywyllwch o’i amgylch fel pabell,

Mewn dyfroedd tywyll a chymylau trwchus.

13 Fflachiodd mellt o’i flaen gan wneud i lo tanllyd losgi’n wenfflam.

14 Yna dechreuodd Jehofa daranu o’r nefoedd;

Cododd y Goruchaf ei lais.

15 Saethodd ei saethau a gwasgaru ei elynion;

Taflodd fellt, a chodi arswyd arnyn nhw.

16 Daeth gwely’r môr i’r golwg;

Cafodd sylfeini’r tir eu dinoethi oherwydd cerydd Jehofa,

Oherwydd chwythiad anadl o’i ffroenau.

17 Estynnodd ei law o’r uchelder;

Gafaelodd yno i a fy nhynnu i o ddyfroedd dwfn.

18 Gwnaeth ef fy achub i rhag fy ngelyn nerthol,

Rhag y rhai sy’n fy nghasáu i, y rhai oedd yn gryfach na fi.

19 Gwnaethon nhw fy herio i ar ddydd fy argyfwng,

Ond roedd Jehofa yn gefn imi.

20 Daeth â mi i mewn i rywle diogel;

Achubodd fi am fy mod i’n ei blesio.

21 Mae Jehofa yn fy ngwobrwyo i yn ôl fy nghyfiawnder;

Mae’n fy ngwobrwyo i yn ôl glendid fy nwylo.

22 Oherwydd rydw i wedi cadw at ffyrdd Jehofa,

A dydw i ddim wedi gwneud drwg drwy gefnu ar fy Nuw.

23 Mae ei farnedigaethau i gyd o fy mlaen i;

Wna i ddim gwyro o’i ddeddfau.

24 Bydda i’n aros yn ddi-fai o’i flaen,

A bydda i’n cadw fy hun rhag gwneud cam.

25 Gad i Jehofa fy ngwobrwyo i yn ôl fy nghyfiawnder,

Yn ôl fy nglendid o’i flaen.

26 Rwyt ti’n ffyddlon i’r rhai sy’n ffyddlon;

Rwyt ti’n trin y dyn dieuog yn gyfiawn;

27 Rwyt ti’n bur i’r rhai sy’n bur,

Ond rwyt ti’n graff* wrth ddelio â’r rhai slei.

28 Oherwydd rwyt ti’n achub y rhai gostyngedig,

Ond rwyt ti yn erbyn y rhai ffroenuchel, ac rwyt ti’n eu bychanu nhw.

29 Ti yw fy lamp, O Jehofa;

Jehofa yw’r un sy’n goleuo’r tywyllwch o fy nghwmpas i.

30 Gyda dy help di galla i frwydro yn erbyn milwyr arfog;

Drwy nerth Duw galla i ddringo wal.

31 Mae’r gwir Dduw yn berffaith ei ffordd;

Mae geiriau Jehofa yn bur.*

Mae’n darian i bawb sy’n mynd ato am loches.

32 Oherwydd pwy sy’n Dduw heblaw am Jehofa?

A phwy sy’n graig heblaw am ein Duw?

33 Y gwir Dduw yw fy nghaer gadarn,

A bydd yn gwneud fy ffyrdd yn berffaith.

34 Mae’n gwneud fy nhraed i’n chwim fel carw;

Ac yn gwneud imi sefyll yn gadarn ar lethrau serth.

35 Mae’n hyfforddi fy nwylo i ryfela;

Gall fy mreichiau blygu bwa copr.

36 Rwyt ti’n rhoi dy darian o achubiaeth imi,

Ac mae dy ostyngeiddrwydd yn fy nyrchafu.

37 Rwyt ti’n gwneud fy llwybr yn llydan;

Fel na fydda i’n baglu.*

38 Bydda i’n mynd ar ôl fy ngelynion ac yn cael gwared arnyn nhw;

Wna i ddim dod yn ôl nes eu bod nhw wedi cael eu dinistrio.

39 Bydda i’n eu dinistrio nhw ac yn sathru arnyn nhw, fel na fyddan nhw’n gallu codi;

Byddan nhw’n syrthio o dan fy nhraed.

40 Byddi di’n rhoi nerth imi fel fy mod i’n barod i frwydro;

Byddi di’n gwneud i fy ngelynion syrthio o fy mlaen i.

41 Byddi di’n gwneud i fy ngelynion gilio yn ôl oddi wrtho i;

Bydda i’n rhoi diwedd* ar y rhai sy’n fy nghasáu i.

42 Maen nhw’n gweiddi am help, ond does ’na neb i’w hachub nhw;

Maen nhw hyd yn oed yn galw ar Jehofa, ond dydy ef ddim yn eu hateb nhw.

43 Gwna i eu dyrnu nhw nes eu bod nhw mor fân â llwch y ddaear;

Gwna i eu malu nhw a sathru arnyn nhw fel mwd ar y strydoedd.

44 Byddi di’n fy achub i rhag y rhai ymhlith fy mhobl sy’n gweld bai arna i.

Byddi di’n fy ngwarchod i i fod yn ben ar genhedloedd;

A bydd pobl ddieithr yn fy ngwasanaethu i.

45 Bydd estroniaid yn ymgrymu o fy mlaen i mewn ofn;

Pan fyddan nhw’n clywed amdana i byddan nhw’n ufuddhau imi.

46 Bydd estroniaid yn colli hyder;

Byddan nhw’n dod allan o’u llochesau yn crynu.

47 Mae Jehofa yn fyw! Clod i fy Nghraig!

Gad i Dduw, y graig sy’n fy achub, gael ei glodfori.

48 Mae’r gwir Dduw yn dial drosto i;

Mae’n gwneud i’r bobloedd ymostwng imi;

49 Mae’n fy achub i rhag fy ngelynion.

Rwyt ti’n fy nghodi i’n uchel dros ben y rhai sy’n ymosod arna i;

Rwyt ti’n fy achub i rhag y dyn treisgar.

50 Dyna pam bydda i’n diolch i ti, O Jehofa, ymhlith y cenhedloedd,

Ac yn canu mawl i dy enw di:

51 Mae’n achub ei frenin* mewn ffyrdd rhyfeddol;

Mae’n dangos cariad ffyddlon tuag at ei un eneiniog,

Tuag at Dafydd a’i ddisgynyddion* am byth.”

Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
Allgofnodi
Mewngofnodi
  • Cymraeg
  • Rhannu
  • Dewisiadau
  • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
  • Telerau Defnyddio
  • Polisi Preifatrwydd
  • Gosodiadau Preifatrwydd
  • JW.ORG
  • Mewngofnodi
Rhannu