Ail Samuel
5 Ymhen amser daeth holl lwythau Israel at Dafydd yn Hebron a dweud: “Edrycha! Rydyn ni’n perthyn i ti drwy waed.* 2 Yn y gorffennol, pan oedd Saul yn frenin arnon ni, ti oedd yr un oedd yn arwain brwydrau Israel. A dywedodd Jehofa wrthot ti: ‘Byddi di’n bugeilio fy mhobl Israel, a byddi di’n dod yn arweinydd dros Israel.’” 3 Felly, daeth holl henuriaid Israel at y brenin yn Hebron, a gwnaeth y Brenin Dafydd gyfamod â nhw yn Hebron o flaen Jehofa. Yna dyma nhw’n eneinio Dafydd yn frenin ar Israel.
4 Roedd Dafydd yn 30 mlwydd oed pan ddaeth yn frenin, a theyrnasodd am 40 mlynedd. 5 Yn Hebron, teyrnasodd dros Jwda am 7 mlynedd a 6 mis, ac yn Jerwsalem roedd yn teyrnasu dros Israel a Jwda gyfan am 33 blynedd. 6 Ac aeth y brenin a’i ddynion allan i Jerwsalem i frwydro yn erbyn y Jebusiaid oedd yn byw yn y wlad. Roedden nhw’n herio Dafydd gan ddweud: “Fyddi di byth yn dod i mewn i fan hyn! Bydd hyd yn oed y dall a’r cloff yn dy yrru di i ffwrdd.” Roedden nhw’n meddwl na fyddai Dafydd byth yn gallu cymryd y ddinas. 7 Ond dyma Dafydd yn cipio caer Seion, sydd bellach yn cael ei galw’n Ddinas Dafydd. 8 Felly dywedodd Dafydd ar y diwrnod hwnnw: “Dylai’r rhai sy’n ymosod ar y Jebusiaid fynd drwy’r twnnel dŵr i daro i lawr ‘y cloff a’r dall’ sy’n gas gan Dafydd!”* Dyna pam maen nhw’n dweud: “Ni fydd y cloff na’r dall byth yn mynd i mewn i’r tŷ.” 9 Yna aeth Dafydd i fyw yn y gaer a gafodd ei galw’n* Ddinas Dafydd; a dechreuodd Dafydd adeiladu ar y Bryn* ac mewn llefydd eraill yn y ddinas. 10 Felly daeth Dafydd yn fwy ac yn fwy pwerus, ac roedd Jehofa, Duw y lluoedd, gydag ef.
11 Anfonodd Hiram brenin Tyrus negeswyr at Dafydd yn ogystal â choed cedrwydd, seiri coed, a seiri maen er mwyn adeiladu waliau, a dechreuon nhw adeiladu tŷ* i Dafydd. 12 A sylweddolodd Dafydd fod Jehofa wedi ei sefydlu’n gadarn fel brenin ar Israel, a’i fod wedi gwneud ei deyrnas yn gryf er mwyn Ei bobl Israel.
13 Cymerodd Dafydd fwy o wragedd a gwragedd gordderch* yn Jerwsalem ar ôl iddo ddod o Hebron, a chafodd mwy o feibion a merched eu geni i Dafydd. 14 Dyma enwau’r rhai a gafodd eu geni iddo yn Jerwsalem: Sammua, Sobab, Nathan, Solomon, 15 Ibhar, Elisua, Neffeg, Jaffia, 16 Elisama, Eliada, ac Eliffelet.
17 Pan glywodd y Philistiaid fod Dafydd wedi cael ei eneinio’n frenin ar Israel, daeth y Philistiaid i gyd i fyny i chwilio am Dafydd. Pan glywodd Dafydd am hyn, aeth i lawr at y lloches. 18 Yna aeth y Philistiaid i mewn a gwasgaru ar hyd Dyffryn* Reffaim. 19 Gofynnodd Dafydd i Jehofa: “A ddylwn i fynd i fyny yn erbyn y Philistiaid? A fyddi di’n eu rhoi nhw yn fy llaw?” Atebodd Jehofa: “Dos i fyny, oherwydd bydda i’n sicr yn rhoi’r Philistiaid yn dy law.” 20 Felly daeth Dafydd i Baal-perasim a’u taro nhw i lawr yno. A gyda hynny, dywedodd: “Mae Jehofa wedi mynd o fy mlaen i fel dŵr yn torri drwy wal ac wedi dinistrio fy ngelynion.” Dyna pam rhoddodd yr enw Baal-perasim* ar y lle hwnnw. 21 Gadawodd y Philistiaid eu heilunod yno, a dyma Dafydd a’i ddynion yn cymryd yr eilunod i ffwrdd i’w dinistrio nhw.
22 Yn hwyrach ymlaen, daeth y Philistiaid i fyny unwaith eto a gwasgaru ar hyd Dyffryn* Reffaim. 23 Gofynnodd Dafydd i Jehofa am arweiniad, ond atebodd Ef: “Paid â mynd i fyny yn uniongyrchol, yn hytrach dos y tu ôl iddyn nhw a mynd i fyny o flaen y llwyni baca.* 24 A phan wyt ti’n clywed sŵn martsio* yn nhopiau’r llwyni baca, yna gweithreda ar unwaith, oherwydd bydd Jehofa wedi mynd allan o dy flaen di i daro byddin y Philistiaid i lawr.” 25 Felly gwnaeth Dafydd yn union fel roedd Jehofa wedi gorchymyn iddo, a tharo’r Philistiaid i lawr yr holl ffordd o Geba i Geser.