LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • 2 Samuel 8
  • Y Beibl—Cyfieithiad y Byd Newydd

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

Braslun 2 Samuel

      • Buddugoliaethau Dafydd (1-14)

      • Y penaethiaid o dan Dafydd (15-18)

2 Samuel 8:2

Troednodiadau

  • *

    Neu “anrhegion.”

2 Samuel 8:4

Troednodiadau

  • *

    Hynny yw, torri llinynnau garrau y ceffylau.

2 Samuel 8:6

Troednodiadau

  • *

    Neu “anrhegion.”

  • *

    Neu “achubiaeth.”

2 Samuel 8:11

Troednodiadau

  • *

    Llyth., “sancteiddio.”

  • *

    Llyth., “sancteiddio.”

2 Samuel 8:14

Troednodiadau

  • *

    Neu “achubiaeth.”

2 Samuel 8:18

Troednodiadau

  • *

    Llyth., “offeiriaid.”

  • Y Beibl—Cyfieithiad y Byd Newydd
  • 1
  • 2
  • 3
  • 4
  • 5
  • 6
  • 7
  • 8
  • 9
  • 10
  • 11
  • 12
  • 13
  • 14
  • 15
  • 16
  • 17
  • 18
Y Beibl—Cyfieithiad y Byd Newydd
2 Samuel 8:1-18

Ail Samuel

8 Beth amser wedyn, trechodd Dafydd y Philistiaid yn llwyr, a chymerodd Dafydd Metheg-amma o ddwylo’r Philistiaid.

2 Trechodd y Moabiaid a gwneud iddyn nhw orwedd ar y llawr a’u mesur nhw â llinyn. Gwnaeth ef eu rhannu nhw’n dri grŵp. Roedd dau grŵp i gael eu lladd, ac un grŵp i aros yn fyw. A daeth y Moabiaid yn weision i Dafydd, a rhoddon nhw drethi* iddo.

3 Tra oedd Hadadeser fab Rehob, brenin Soba, ar ei ffordd i ailsefydlu ei awdurdod yn nhiriogaeth Afon Ewffrates, gwnaeth Dafydd ei drechu. 4 Cipiodd Dafydd 1,700 o farchogion ac 20,000 o filwyr oddi wrtho. Yna, dyma Dafydd yn gwneud y ceffylau cerbyd yn gloff,* oni bai am 100 ohonyn nhw.

5 Pan ddaeth Syriaid Damascus i helpu Hadadeser brenin Soba, dyma Dafydd yn taro i lawr 22,000 o’r Syriaid. 6 Yna sefydlodd Dafydd garsiynau ymhlith y Syriaid yn Namascus, a daeth y Syriaid yn weision i Dafydd, a rhoddon nhw drethi* iddo. Rhoddodd Jehofa fuddugoliaeth* i Dafydd ble bynnag roedd ef yn mynd. 7 Hefyd, cymerodd Dafydd y tarianau aur crwn oddi ar weision Hadadeser a daeth â nhw i Jerwsalem. 8 Cymerodd y Brenin Dafydd lawer iawn o gopr o Beta a Berothai, dinasoedd Hadadeser.

9 Nawr clywodd Toi, brenin Hamath, fod Dafydd wedi trechu byddin gyfan Hadadeser. 10 Felly anfonodd Toi ei fab Joram at y Brenin Dafydd i ddymuno’n dda iddo, ac i’w longyfarch am ei fod wedi ymladd yn erbyn Hadadeser a’i drechu (oherwydd roedd Hadadeser wedi ymladd yn erbyn Toi yn aml), a daeth ef â phethau wedi eu gwneud allan o arian, aur, a chopr. 11 Gwnaeth y Brenin Dafydd gysegru’r* rhain i Jehofa, fel roedd ef wedi cysegru’r* arian a’r aur a gymerodd oddi ar yr holl genhedloedd roedd ef wedi eu trechu— 12 Syria a Moab, yr Ammoniaid, y Philistiaid, yr Amaleciaid—yn ogystal â’r hyn a gymerodd oddi ar Hadadeser fab Rehob, brenin Soba. 13 Hefyd gwnaeth Dafydd enw iddo’i hun pan ddaeth yn ôl o daro i lawr 18,000 o Edomiaid yn Nyffryn yr Halen. 14 Gosododd garsiynau drwy Edom i gyd, a daeth yr holl Edomiaid yn weision i Dafydd. Rhoddodd Jehofa fuddugoliaeth* i Dafydd ble bynnag roedd yn mynd.

15 Parhaodd Dafydd i reoli dros Israel gyfan, a gwnaeth Dafydd beth oedd yn iawn ac yn deg ar gyfer ei holl bobl. 16 Roedd Joab fab Seruia dros y fyddin, a Jehosaffat fab Ahilud oedd cofnodwr y brenin. 17 Roedd Sadoc fab Ahitub ac Ahimelech fab Abiathar yn offeiriaid, ac roedd Seraia yn ysgrifennydd. 18 Roedd Benaia fab Jehoiada dros y Cerethiaid a’r Pelethiaid. A daeth meibion Dafydd yn uwch-swyddogion.*

Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
Allgofnodi
Mewngofnodi
  • Cymraeg
  • Rhannu
  • Dewisiadau
  • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
  • Telerau Defnyddio
  • Polisi Preifatrwydd
  • Gosodiadau Preifatrwydd
  • JW.ORG
  • Mewngofnodi
Rhannu