LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • 2 Brenhinoedd 8
  • Y Beibl—Cyfieithiad y Byd Newydd

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

Braslun 2 Brenhinoedd

      • Y ddynes o Sunem yn cael ei thir yn ôl (1-6)

      • Eliseus, Ben-hadad, a Hasael (7-15)

      • Jehoram, brenin Jwda (16-24)

      • Ahaseia, brenin Jwda (25-29)

2 Brenhinoedd 8:1

Troednodiadau

  • *

    Neu “adfer i fywyd.”

2 Brenhinoedd 8:2

Troednodiadau

  • *

    Neu “y fenyw.”

2 Brenhinoedd 8:3

Troednodiadau

  • *

    Neu “y fenyw.”

2 Brenhinoedd 8:5

Troednodiadau

  • *

    Neu “dyma’r fenyw.”

2 Brenhinoedd 8:6

Troednodiadau

  • *

    Neu “holi’r fenyw.”

2 Brenhinoedd 8:12

Troednodiadau

  • *

    Neu “menywod.”

2 Brenhinoedd 8:24

Troednodiadau

  • *

    Neu “Yna gorweddodd Jehoram i lawr i orffwys gyda’i gyndadau.”

2 Brenhinoedd 8:25

Troednodiadau

  • *

    Neu “12fed.”

2 Brenhinoedd 8:26

Troednodiadau

  • *

    Llyth., “merch.”

  • Y Beibl—Cyfieithiad y Byd Newydd
  • 1
  • 2
  • 3
  • 4
  • 5
  • 6
  • 7
  • 8
  • 9
  • 10
  • 11
  • 12
  • 13
  • 14
  • 15
  • 16
  • 17
  • 18
  • 19
  • 20
  • 21
  • 22
  • 23
  • 24
  • 25
  • 26
  • 27
  • 28
  • 29
Y Beibl—Cyfieithiad y Byd Newydd
2 Brenhinoedd 8:1-29

Ail Brenhinoedd

8 Dywedodd Eliseus wrth fam y bachgen roedd ef wedi ei atgyfodi:* “Cod a dos, ti a dy deulu, a byw fel rhywun estron ble bynnag gelli di, oherwydd mae Jehofa wedi cyhoeddi y bydd ’na newyn yn y wlad am saith mlynedd.” 2 Felly cododd y ddynes* a gwneud beth roedd dyn y gwir Dduw wedi ei ddweud. Aeth gyda’i theulu a setlo yng ngwlad y Philistiaid am saith mlynedd.

3 Ar ddiwedd y saith mlynedd, daeth y ddynes* yn ôl o wlad y Philistiaid ac aeth hi at y brenin ac erfyn i gael ei thŷ a’i chae yn ôl. 4 Nawr roedd y brenin yn siarad â Gehasi, gwas dyn y gwir Dduw, ac yn dweud: “Dyweda wrtho i plîs, am yr holl bethau gwych mae Eliseus wedi eu gwneud.” 5 Tra oedd yn adrodd wrth y brenin am sut roedd ef wedi atgyfodi yr un oedd wedi marw, dyma fam y bachgen roedd ef wedi ei atgyfodi yn dod at y brenin yn erfyn am ei thŷ a’i chae. Ar unwaith dywedodd Gehasi: “Fy arglwydd y brenin, dyma’r ddynes,* a dyma ei mab, yr un gwnaeth Eliseus ei atgyfodi.” 6 Gyda hynny dyma’r brenin yn holi’r ddynes* am beth oedd wedi digwydd, a gwnaeth hi adrodd yr hanes wrtho. Yna dyma’r brenin yn galw swyddog llys, gan ddweud wrtho: “Rho bopeth sy’n perthyn iddi hi yn ôl iddi, yn ogystal â holl gynnyrch ei thir ers y diwrnod gwnaeth hi adael y wlad hyd heddiw.”

7 Daeth Eliseus i Ddamascus tra oedd Ben-hadad, brenin Syria, yn sâl. Felly cafodd wybod: “Mae dyn y gwir Dduw wedi dod yma.” 8 Gyda hynny dywedodd y brenin wrth Hasael: “Dos i gyfarfod dyn y gwir Dduw, a chymera anrheg gyda ti. Dyweda wrtho am ofyn i Jehofa os bydda i’n gwella o’r salwch hwn.” 9 Aeth Hasael i’w gyfarfod ac aeth ag anrheg gydag ef, pob math o bethau da o Ddamascus, cymaint ag y gall 40 o gamelod ei gario. Daeth a sefyll o’i flaen a dweud: “Mae dy fab, Ben-hadad brenin Syria, wedi fy anfon i atat ti i ofyn, ‘A fydda i’n gwella o’r salwch hwn?’” 10 Atebodd Eliseus: “Dos i ddweud wrtho, ‘Yn bendant, byddi di’n gwella,’ ond mae Jehofa wedi dangos imi y bydd ef yn sicr yn marw.” 11 A pharhaodd i syllu arno nes iddo deimlo’n anghyfforddus. Yna dechreuodd dyn y gwir Dduw wylo. 12 Gofynnodd Hasael: “Pam rwyt ti’n wylo fy arglwydd?” Atebodd: “Oherwydd rydw i’n gwybod am y niwed y byddi di’n ei wneud i bobl Israel. Byddi di’n rhoi eu dinasoedd caerog ar dân, byddi di’n lladd eu dynion cryf â’r cleddyf, byddi di’n curo eu plant nes iddyn nhw farw, a byddi di’n rhwygo boliau merched* beichiog yn agored.” 13 Dywedodd Hasael: “Sut gall dy was, sy’n ddim byd ond ci, wneud y fath beth?” Ond dywedodd Eliseus: “Mae Jehofa wedi dangos imi y byddi di’n frenin ar Syria.”

14 Yna dyma’n gadael Eliseus ac yn mynd yn ôl at ei arglwydd ei hun a ofynnodd iddo: “Beth ddywedodd Eliseus wrthot ti?” Atebodd: “Dywedodd wrtho i y byddi di’n bendant yn gwella.” 15 Ond y diwrnod wedyn, cymerodd Hasael flanced a’i gwlychu mewn dŵr, a’i dal ar ei wyneb nes iddo farw. A daeth Hasael yn frenin yn ei le.

16 Yn y bumed flwyddyn o deyrnasiad Jehoram, mab Ahab brenin Israel, tra oedd Jehosaffat yn frenin ar Jwda, daeth Jehoram, mab y Brenin Jehosaffat, yn frenin ar Jwda. 17 Roedd yn 32 mlwydd oed pan ddaeth yn frenin, a theyrnasodd am wyth mlynedd yn Jerwsalem. 18 Roedd yn ymddwyn yr un fath â brenhinoedd Israel, yn union fel roedd teulu Ahab wedi gwneud, oherwydd roedd merch Ahab wedi dod yn wraig iddo; a pharhaodd i wneud beth oedd yn ddrwg yng ngolwg Jehofa. 19 Ond doedd Jehofa ddim eisiau dod â dinistr ar Jwda er mwyn Dafydd ei was, gan ei fod wedi addo rhoi lamp iddo ef a’i feibion am byth.

20 Yn nyddiau Jehoram, gwrthryfelodd Edom yn erbyn Jwda a dewis brenin arnyn nhw eu hunain. 21 Felly gwnaeth Jehoram groesi drosodd i Sair gyda’i gerbydau i gyd, a chododd yn ystod y nos a threchu’r Edomiaid a phenaethiaid y cerbydau a oedd yn ei amgylchynu; a dyma’r milwyr yn ffoi i’w pebyll. 22 Ond mae Edom wedi parhau i wrthryfela yn erbyn Jwda hyd heddiw. Gwnaeth Libna hefyd wrthryfela bryd hynny.

23 Ac onid ydy gweddill hanes Jehoram, popeth a wnaeth, wedi ei ysgrifennu yn llyfr hanes brenhinoedd Jwda? 24 Yna bu farw Jehoram,* a chafodd ei gladdu gyda’i gyndadau yn Ninas Dafydd. A daeth ei fab Ahaseia yn frenin yn ei le.

25 Yn y ddeuddegfed* flwyddyn o deyrnasiad Jehoram, mab Ahab brenin Israel, daeth Ahaseia, mab Jehoram brenin Jwda, yn frenin. 26 Roedd Ahaseia yn 22 mlwydd oed pan ddaeth yn frenin, a theyrnasodd am flwyddyn yn Jerwsalem. Enw ei fam oedd Athaleia, wyres* Omri brenin Israel. 27 Roedd yn ymddwyn yn yr un ffordd â theulu Ahab ac roedd yn parhau i wneud beth oedd yn ddrwg yng ngolwg Jehofa, fel y gwnaeth teulu Ahab, am ei fod yn perthyn i deulu Ahab trwy briodas. 28 Felly aeth gyda Jehoram fab Ahab i ryfela yn erbyn Hasael brenin Syria yn Ramoth-gilead, ond gwnaeth y Syriaid anafu Jehoram. 29 Felly aeth y Brenin Jehoram yn ôl i Jesreel i wella o’r anafiadau a gafodd ef gan y Syriaid yn Rama pan frwydrodd yn erbyn Hasael brenin Syria. Aeth Ahaseia, mab Jehoram brenin Jwda, i lawr i Jesreel i weld Jehoram fab Ahab, am ei fod wedi cael ei anafu.

Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
Allgofnodi
Mewngofnodi
  • Cymraeg
  • Rhannu
  • Dewisiadau
  • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
  • Telerau Defnyddio
  • Polisi Preifatrwydd
  • Gosodiadau Preifatrwydd
  • JW.ORG
  • Mewngofnodi
Rhannu