Ail Cronicl
1 Tyfodd brenhiniaeth Solomon fab Dafydd yn gryfach ac yn gryfach, ac roedd Jehofa* ei Dduw gydag ef ac yn ei wneud yn bwerus iawn.
2 Anfonodd Solomon am Israel gyfan, y penaethiaid ar filoedd ac ar gannoedd, y barnwyr, ac am holl benaethiaid Israel gyfan, pennau’r grwpiau o deuluoedd. 3 Yna aeth Solomon a’r gynulleidfa gyfan i’r uchelfan yn Gibeon, oherwydd dyna lle roedd pabell cyfarfod y gwir Dduw, y babell roedd Moses gwas Jehofa wedi ei gwneud yn yr anialwch. 4 Ond, roedd Dafydd wedi dod ag Arch y gwir Dduw i fyny o Ciriath-jearim i’r lle roedd Dafydd wedi ei baratoi ar ei chyfer; roedd wedi codi pabell ar ei chyfer yn Jerwsalem. 5 Ac roedd yr allor gopr a gafodd ei gwneud gan Besalel fab Uri, mab Hur, wedi cael ei rhoi o flaen tabernacl Jehofa; a byddai Solomon a’r gynulleidfa yn gweddïo o’i blaen.* 6 Dyma Solomon yn offrymu yno o flaen Jehofa, a chyflwynodd 1,000 o offrymau llosg ar allor gopr pabell y cyfarfod.
7 Y noson honno, ymddangosodd Duw i Solomon a dweud wrtho: “Dyweda wrtho i beth rwyt ti eisiau imi ei roi iti.” 8 Atebodd Solomon: “Rwyt ti wedi dangos llawer iawn o gariad ffyddlon tuag at fy nhad Dafydd, ac rwyt ti wedi fy ngwneud i’n frenin yn ei le. 9 Nawr, O Jehofa Dduw, gad i dy addewid i Dafydd fy nhad ddod yn wir, oherwydd rwyt ti wedi fy ngwneud i’n frenin ar bobl mor niferus â llwch y ddaear. 10 Rho ddoethineb a gwybodaeth imi er mwyn imi allu arwain y bobl hyn, neu fel arall, pa obaith fydd gen i i farnu dy holl bobl niferus?”
11 Yna dywedodd Duw wrth Solomon: “Am mai dyma yw dymuniad dy galon, ac am dy fod ti heb ofyn am gyfoeth, arian, ac anrhydedd, nac am farwolaeth* y rhai sy’n dy gasáu di, nac am fywyd hir i ti dy hun, ond yn hytrach rwyt ti wedi gofyn am ddoethineb a gwybodaeth er mwyn iti allu barnu fy mhobl, y rhai rydw i wedi dy wneud di’n frenin arnyn nhw, 12 bydd doethineb a gwybodaeth yn cael eu rhoi iti; ond bydda i hefyd yn rhoi iti gyfoeth ac arian ac anrhydedd, mwy nag unrhyw frenin o dy flaen di neu ar dy ôl di.”
13 Felly daeth Solomon yn ôl o’r uchelfan yn Gibeon, lle roedd pabell y cyfarfod, a mynd i Jerwsalem; a theyrnasodd dros Israel. 14 Parhaodd Solomon i gasglu cerbydau a cheffylau;* roedd ganddo 1,400 o gerbydau a 12,000 o geffylau,* ac roedd yn eu cadw nhw yn y dinasoedd cerbyd ac yn agos at y brenin yn Jerwsalem. 15 Dyma’r brenin yn gwneud yr arian a’r aur yn Jerwsalem mor gyffredin â’r cerrig, a’r coed cedrwydd mor gyffredin â’r coed sycamor yn y Seffela. 16 Roedd ceffylau Solomon wedi cael eu mewnforio o’r Aifft, a byddai masnachwyr y brenin yn prynu’r ceffylau fesul gyr* am un pris. 17 Roedd pob cerbyd a oedd yn cael ei fewnforio o’r Aifft yn costio 600 darn o arian, ac roedd ceffyl yn costio 150 darn o arian; yn eu tro bydden nhw’n eu hallforio nhw i holl frenhinoedd yr Hethiaid a brenhinoedd Syria.