Exodus
3 Dechreuodd Moses fugeilio praidd ei dad-yng-nghyfraith Jethro, offeiriad Midian. Tra oedd yn arwain y praidd i ochr orllewinol yr anialwch, fe ddaeth yn y pen draw i fynydd y gwir Dduw, sef Horeb. 2 Yna ymddangosodd angel Jehofa* iddo mewn fflam dân yng nghanol perth ddrain. Tra oedd yn dal i edrych, fe welodd fod y berth ddrain ar dân, ond eto doedd y berth ddrain ddim yn llosgi. 3 Felly dywedodd Moses: “Fe wna i fynd draw i weld yr olygfa ryfeddol hon, i weld pam nad ydy’r berth ddrain yn llosgi.” 4 Pan welodd Jehofa ei fod wedi mynd draw i edrych, dyma Duw’n galw arno allan o’r berth ddrain ac yn dweud: “Moses! Moses!” ac atebodd yntau: “Dyma fi.” 5 Yna dywedodd wrtho: “Paid â dod yn nes. Tynna dy sandalau oddi am dy draed, oherwydd dy fod ti’n sefyll ar dir sanctaidd.”
6 Aeth ymlaen i ddweud: “Fi ydy Duw dy dad, Duw Abraham, Duw Isaac, a Duw Jacob.” Yna cuddiodd Moses ei wyneb, oherwydd ei fod yn ofni edrych ar y gwir Dduw. 7 Ychwanegodd Jehofa: “Rydw i’n sicr wedi gweld dioddefaint fy mhobl sydd yn yr Aifft, ac rydw i wedi eu clywed nhw’n crio oherwydd y rhai sy’n eu gorfodi nhw i weithio; rydw i’n gwybod yn iawn am y poenau maen nhw’n eu dioddef. 8 Fe wna i fynd i lawr i’w hachub nhw o law’r Eifftiaid ac i ddod â nhw allan o’r wlad honno, i wlad sy’n dda ac sydd â digon o le, gwlad lle mae llaeth a mêl yn llifo, tiriogaeth y Canaaneaid, yr Hethiaid, yr Amoriaid, y Peresiaid, yr Hefiaid, a’r Jebusiaid. 9 Nawr edrycha! Mae crio pobl Israel wedi fy nghyrraedd i, ac rydw i hefyd wedi gweld sut mae’r Eifftiaid yn eu cam-drin nhw’n llym. 10 Nawr tyrd, fe wna i dy anfon di at Pharo, a byddi di’n arwain fy mhobl i, yr Israeliaid, allan o’r Aifft.”
11 Ond, dywedodd Moses wrth y gwir Dduw: “Pwy ydw i i fynd at Pharo ac i ddod â’r Israeliaid allan o’r Aifft?” 12 Ar hynny atebodd: “Fe fydda i gyda ti. Dyma fy addewid, a dyma sut byddi di’n gwybod mai fi sydd wedi dy anfon di: Byddi di’n mynd allan o’r Aifft gyda’r bobl hyn, a byddwch chi’n fy addoli i,* y gwir Dduw, ar y mynydd hwn.”
13 Ond dywedodd Moses wrth y gwir Dduw: “Beth os ydw i’n mynd at yr Israeliaid ac yn dweud wrthyn nhw, ‘Mae Duw eich cyndadau wedi fy anfon i atoch chi,’ ac maen nhw’n dweud wrtho i, ‘Beth ydy ei enw?’ Beth dylwn i ei ddweud wrthyn nhw?” 14 Felly dywedodd Duw wrth Moses: “Byddaf yr Hyn y Dewisaf* Ei Fod.”* Ac fe ychwanegodd: “Dyma beth dylet ti ei ddweud wrth yr Israeliaid, ‘Mae Byddaf wedi fy anfon i atoch chi.’” 15 Yna dywedodd Duw wrth Moses unwaith eto:
“Dyma beth dylet ti ei ddweud wrth yr Israeliaid, ‘Mae Jehofa, Duw eich cyndadau, Duw Abraham, Duw Isaac, a Duw Jacob, wedi fy anfon i atoch chi.’ Dyma fy enw i am byth, a dyma sut bydda i’n cael fy nghofio o un genhedlaeth i’r nesaf. 16 Nawr dos, a chasgla henuriaid Israel a dyweda wrthyn nhw, ‘Mae Jehofa, Duw eich cyndadau, Duw Abraham, Isaac, a Jacob, wedi ymddangos i mi, a dywedodd ef: “Rydw i’n sicr wedi cymryd sylw ohonoch chi ac o’r hyn sy’n cael ei wneud ichi yn yr Aifft. 17 Felly rydw i’n dweud, fe wna i eich rhyddhau chi o’r gamdriniaeth y gwnaethoch chi ei hwynebu dan law’r Eifftiaid a’ch arwain chi i wlad y Canaaneaid, yr Hethiaid, yr Amoriaid, y Peresiaid, yr Hefiaid, a’r Jebusiaid, i wlad lle mae llaeth a mêl yn llifo.”’
18 “Byddan nhw’n sicr yn gwrando ar dy lais, a byddi di a henuriaid Israel yn mynd at frenin yr Aifft, a dylech chi ddynion ddweud wrtho: ‘Mae Jehofa, Duw’r Hebreaid, wedi cyfathrebu â ni. Felly, plîs, gad inni wneud taith dri-diwrnod i mewn i’r anialwch er mwyn inni aberthu i Jehofa ein Duw.’ 19 Ond rydw i’n gwybod yn iawn na fydd brenin yr Aifft yn rhoi caniatâd ichi fynd oni bai fod llaw nerthol yn ei orfodi. 20 Felly bydd rhaid imi estyn fy llaw a tharo’r Aifft drwy wneud llawer o weithredoedd nerthol ynddi, ac ar ôl hynny fe fydd yn eich anfon chi allan. 21 A bydda i’n gwneud i’r Eifftiaid edrych yn ffafriol arnoch chi, a phan fyddwch chi’n mynd, byddwch chi’n mynd â llawer o bethau gyda chi. 22 Bydd rhaid i bob dynes* ofyn i’w chymydog a’r ddynes* sy’n aros yn ei thŷ am bethau wedi eu gwneud o arian ac o aur ynghyd â dillad, a byddwch chi’n eu rhoi nhw am eich meibion ac am eich merched; a byddwch chi’n cymryd cyfoeth* yr Eifftiaid.”